Beth ddigwyddodd yn 2023?
Cynhelir Gwylio Adar yr Ardd 2025 rhwng 24 a 26 lonawr! Eisteddwch yn ol, ymlaciwch a gwyliwch adar yr ardd am awr. P'un a ydych chi'n gwylio'r adar am y tro cyntaf, neu'n hen law ar wneud hyn - croeso!
On this page
English | Cymraeg
Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2023
Gallwch chi gael cipolwg sydyn ar y 10 uchaf yn y DU drwy wylio ein fideo canlyniadau isod.
Hefyd, gwyliwch uchafbwyntiau byw digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2023 – efallai y byddwch chi’n gweld adar nad ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i’w gweld yn eich ardal chi yn ystod y digwyddiad.
Aderyn y To sydd ar y brig eto!
Mae'r aderyn swnllyd, mentrus a chymdeithasol hwn wedi cadw ei safle ar frig y rhestr, a hynny am yr ugeinfed mlynedd yn olynol, er bod dros 10 miliwn o barau wedi diflannu yn y DU ers diwedd y 1960au. Fodd bynnag, mae niferoedd Adar y To wedi aros yn gymharol sefydlog dros yr ugain mlynedd diwethaf gydag arwyddion o gynnydd mewn rhai rhannau o'r DU.
2. Titw Tomos Las
Ffefryn ym mhob man! Mae'r diddanwr bach cyfarwydd ac egnïol hwn wedi cipio'r ail safle unwaith etc, am y drydedd flwyddyn yn olynol.
3. Drudwy
Mae'r Drudwy yn cadw ei le yn y trydydd safle. Ond, fel y llynedd, mae niferoedd yr ymwelydd gardd swnllyd, bywiog a checrus hwn yn dal i ddirywio.
4. Ysguthan
Gyda'u cwan cyfarwydd yn rhan o swn y dref, mae niferoedd y ysguthanod wedi codi'n aruthrol dros y 40 mlynedd diwethaf, felly nid yw'n syndod ei bod yn dal i fod yn y pedwerydd safle.
5. Aderyn Du
Mae'r Aderyn Du yn y pumed safle o hyd, ac mae'n parhau i fod yn un o adar yr ardd mwyaf cyffredin a mwyaf trawiadol yn y DU.
6. Robin Goch
Mae hoff aderyn y DU yn dal yn y chweched safle eleni. Cadwch lygad am yr adar beiddgar a chyfeillgar hyn sy'n aros i chi ddadorchuddio mwydod pan fyddwch chi'n palu'r ardd.
7. Nico
Mae'r Nico'n gwneud yn dda ac yn dal yn y seithfed safle. Byddwch yn clywed trydar cyfarwydd y Nico eto dros y flwyddyn i ddod.
8. Titw Mawr
Acrobat penuchel sy'n aros yn yr wythfed safle, sy'n golygu na fydd trydar cyfarwydd a gwichlyd y Titw Mawr yn diflannu yn y dyfodol agos!
9. Pioden
Mae niferoedd yr aderyn clyfar hwn wedi cynyddu'n raddol mewn ardaloedd trefol dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu ei fod yn aros yn y nawfed safle.
10. Titw Cynffon Hir
Mae'r Titw Cynffon Hir hyfryd wedi ailymddangos yn y 10 uchaf eleni, sy'n welliant sylweddol ar y llynedd pan roedd yn y pymthegfed safle.
Ymaelodwch â'r RSPB
Os ydych chi wedi mwynhau cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni, beth am ymaelodi a'r RSPB? Bydd yn helpu i'ch angerdd at fyd natur barhau drwy'r flwyddyn. Byddwch yn cael pecyn croeso, cylchgrawn rheolaidd a mynediad am ddim i bob un o'n gwarchodfeydd natur.