Digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2026
Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn ôl ar gyfer 2026! Ymunwch â miloedd o ysgolion eraill i gael gwybod pa adar sy'n ymweld â thir eich ysgol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud iddo gyfrif.

On this page
English | Cymraeg
Yn y ffilm fer yma, cewch weld beth sy’n gwneud y digwyddiad yma'n un mor arbennig, gyda’r Pennaeth Cynorthwyol, Sam Clarke, a disgyblion Ysgol Gynradd Wigmore yn Luton. Gydag adnoddau arbenigol – o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i’r Uwchradd – mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn addas i bob dysgwr.
Mae'n hawdd cymryd rhan
1. Lawrlwytho adnoddau am ddim
Lawrlwythwch ein hadnoddau ar-lein er mwyn i chi a’ch dosbarth allu cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol.
Mae ein holl adnoddau’n helpu i ddysgu’r cwricwlwm, gan gynnwys cofnodion hanesyddol digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol er mwyn i chi allu cymharu’r adar rydych chi’n eu gweld. Mae’r holl adnoddau ar gael yn ddwyieithog i ysgolion yng Nghymru.
2. Dechrau cyfrif
Dechreuwch gyfrif ar dir eich ysgol unrhyw bryd rhwng 6 Ionawr ac 13 Chwefror 2026. Defnyddiwch ein hadnoddau gwahaniaethol ar gyfer adnabod a’n taflenni arolwg i gofnodi’r nifer uchaf o bob rhywogaeth rydych chi’n ei gweld ar yr un pryd.
Beth am wneud i’r digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol gyfrif tuag at eich gwobr Her Wyllt RSPB? Mae'n gynllun rhad ac am ddim i annog disgyblion i ddarganfod mwy o fywyd gwyllt a helpu'r byd natur ar dir yr ysgol.
3. Cyflwyno eich canlyniadau
Cyflwynwch eich canlyniadau ar-lein. Mae’n hawdd gwneud hyn gyda’ch dosbarth yn rhyngweithiol ar y bwrdd gwyn. Rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi’n ei weld, hyd yn oed os nad ydych chi’n gweld dim adar o gwbl.
Byddwch chi'n derbyn tystysgrifau i’w hargraffu ar gyfer eich dosbarth. Byddwch chi hefyd yn cael dolenni at ragor o adnoddau gan gynnwys data hanesyddol ychwanegol, y gallwch eu defnyddio i gymharu'r adar rydych chi wedi'u gweld â chanlyniadau cenedlaethol o flynyddoedd blaenorol. Ar ben hynny, byddwch chi’n cael gwersi dilynol wedi'u creu'n arbennig gan Archives IT, ar y cyd â'r RSPB.
Mae angen i chi gyflwyno eich canlyniadau erbyn 23 Chwefror 2026.

Ehangu ymgysylltiad a dysgu eich disgyblion
Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn cyfrif fel un gweithgaredd tuag at eich Gwobr Her Wyllt rhad ac am ddim gan yr RSPB. Beth am annog eich disgyblion i ddysgu drwy fyd natur, gan ddewis o fwy nag 20 o weithgareddau. Wrth gwblhau pum gweithgaredd arall, byddwch chi’n ennill eich Gwobr Efydd, a chewch weithio tuag at y Wobr Aur.