Adnoddau
Mae gennym ni ddigon o weithgareddau hwyliog i chi eu gwneud cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol, a fydd yn helpu'ch dosbarth i ddatblygu eu diddordeb mewn bywyd gwyllt a'r byd o'u cwmpas.
On this page
English | Cymraeg
Newydd ar gyfer 2025!
Rydym wedi creu dwy daflen adnabod adar newydd sbon i helpu'ch disgyblion i nodi'r adar cyffredin sy'n ddu, yn ogystal â'r gwylanod y maent fwyaf tebygol o'u gweld. Mae pob canllaw yn cynnwys gwybodaeth am nodweddion allweddol maint y gwahanol adar.
Taflenni arolwg i'w lawrlwytho
Helpwch eich dosbarth i adnabod a chadw cofnod o’r hyn maen nhw wedi'i weld yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol gyda'n taflenni arolwg syml.
Fframiau Cyfrif i Ddeg
Taflenni data hanesyddol i'w lawrlwytho
Defnyddiwch y taflenni data hanesyddol gwahaniaethol hyn gyda chwestiynau allweddol i helpu'ch disgyblion i ddarganfod yr hyn a welwyd yn y blynyddoedd blaenorol, a chymharu eu canfyddiadau â'r canlyniadau hyn.
Data Hanesyddol 1
Data Hanesyddol 2
Data Hanesyddol 3
Adnoddau'r blynyddoedd cynnar
Bydd eich dosbarth blynyddoedd cynnar wrth eu boddau â’r straeon a'r gweithgareddau hyn sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer meddyliau ifanc chwilfrydig.