Feature

Diogelu bywyd gwyllt drwy’r Cynllun Lleol

Dewch i gwrdd â Stan, hyrwyddwr byd natur lleol sydd wedi achub niferoedd pwysig o Olfanod y Mynydd gwerthfawr.

A Tree Sparrow perched on a thin tree trunk
On this page

Mae Hertsmere yn Swydd Hertford yn gartref i un o’r cytrefi olaf yn ne-ddwyrain Lloegr lle y mae Golfanod y Mynydd yn magu. Mae’r adar tir fferm prin hyn yn ffynnu yn yr ardal wledig hon, ochr yn ochr ag amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt. Cafodd 13 o’r rhywogaethau hyn hefyd eu cydnabod yn genedlaethol fel rhai y mae eu poblogaethau yn dirywio.

Roedd yn ofynnol i’r Cyngor godi 12,600 o dai, a seilwaith ategol, erbyn 2035. Cafodd 15 safle eu clustnodi yn nrafft cyntaf y Cynllun Lleol, ond roedd Stan, Arweinydd Grŵp Lleol RSPB De-ddwyrain Swydd Hertford, yn gwybod bod rhai o’r safleoedd hyn yn gynefinoedd amhrisiadwy i rywogaethau pwysig.

“Fe ddechreuon ni weithio ar ein gwrthwynebiadau ym mis Rhagfyr 2018 pan gyhoeddwyd fersiwn gyntaf y Cynllun Lleol. Cafodd y broses ei llesteirio rywfaint gan y pandemig, ond hefyd am fod Cyngor Hertsmere yn ychwanegu safleoedd newydd at y Cynllun Lleol o hyd.”

Creu gweithgor

Bu i Stan wrthwynebu’r cynllun drafft, ac aeth ati i ofyn am gymorth arbenigol ar gyfer ei ymgyrch gan yr RSPB (a roddodd beth arweiniad defnyddiol iddo), gan Gadeirydd Clwb Adar Swydd Hertford, a chan Swyddog Cadwraeth Ymddiriedolaeth Natur Swydd Hertford a Middlesex. Daeth pob parti ynghyd i greu gweithgor i rannu adnoddau.

“Fe gysylltodd yr Ymddiriedolaeth Natur ag ecolegydd y Cyngor er mwyn cydweithio i sicrhau bod ein dadleuon yn cael eu clywed. Fe aethon ni ati hefyd i nodi’r holl safleoedd bywyd gwyllt yr oedd y Cynllun yn effeithio arnyn nhw, er nad oedd llawer o’r Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu gwarchod gan unrhyw fesurau [cyfreithiol].”

Ar ôl gofyn am gyngor gan ymgyrchwyr eraill ledled y wlad a oedd hefyd yn diogelu Golfanod y Mynydd, dechreuodd y grŵp ennyn mwy o gefnogaeth. Ysgrifennodd Stan at grwpiau bywyd gwyllt lleol eraill y sir (gan gynnwys Grwpiau Lleol eraill yr RSPB) i ofyn i’w haelodau wrthwynebu cam nesaf y Cynllun Lleol drafft.

Creu momentwm

Yna, roedd hi’n bryd codi proffil yr ymgyrch. Drwy gysylltu â’r wasg leol a chreu tudalennau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, llwyddodd grŵp Stan i gael sylw ar dudalen flaen papur newydd lleol, yn ogystal â denu dros 800 o gefnogwyr ar Facebook a helpu i hyrwyddo deiseb a lofnodwyd gan dros 2,000 o bobl.

“Pan gyhoeddwyd ail fersiwn y Cynllun Lleol ym mis Hydref 2021, nid oedd yn cynnwys unrhyw gynllun gwirioneddol o hyd i helpu i ddiogelu Golfanod y Mynydd. Fe aeth ein gweithgor ati i lunio llythyr manwl iawn, pedair tudalen o hyd, yn mynegi ein pryderon ac yn cynnig rhannu’r safle’n ddau. Y naill ran ar gyfer codi llai o dai, a’r rhan arall lle yr oedd y rhan fwyaf o Olfanod y Mynydd a rhywogaethau bywyd gwyllt pwysig eraill wedi’u lleoli. Fe gynigion ni y dylai’r ail ran hon fod yn warchodfa natur.”

Gan fod yr ymgyrch wedi ennyn cymaint o gefnogaeth, cyflwynwyd cynifer o wrthwynebiadau i ddrafft diwygiedig y Cynllun nes bod rhaid estyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus am bythefnos ychwanegol.

Diogelu Golfanod y Mynydd

Yn y pen draw, ddiwedd mis Ionawr 2024, rhoddodd y Cyngor y gorau i’r Cynllun yn llwyr. Roedd y nifer fwyaf o wrthwynebiadau a gyflwynwyd erioed wedi ei lethu, gyda thros 20,000 yn mynegi pryderon am y cynnig a fyddai wedi arwain at golli rhan o’n cefn gwlad.

Tree Sparrow, calling from the rooftop
Share this article