Feature
Gwenoliaid Duon mewn argyfwng – mae’r frwydr yn parhau
Yn gynharach eleni, llofnododd bron i 11,000 o bobl ddeiseb Julia Barrell yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod brics G...
Dysgwch fwy am sut mae RSPB Cymru yn cydweithio â'r llywodraeth i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Dysgwch fwy am waith hollbwysig RSPB Cymru i adfer bywyd gwyllt, gan helpu pobl i gysylltu â byd natur ac i ledaenu’r gair am ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur.
Rydyn ni’n gweithio ar draws Cymru i roi cartref i fywyd gwyllt. Mae RSPB Cymru yn rheoli 18 o warchodfeydd ledled y wlad, yn amrywio o ynysoedd alltraeth i gopaon mynyddoedd, o wlyptiroedd i goetiroedd. Rydyn ni’n diogelu cynefinoedd amrywiol er mwyn i’r rhywogaethau fyw ynddyn nhw, fel bod llefydd gwyllt a chreaduriaid gwyllt yma am genedlaethau i ddod.
Mewn gwlad lle mae Brain Coesgoch yn plymio uwchben y clogwyni serth, y Barcud Coch yn hedfan dros fryniau geirwon a morloi llwyd yn diogi ar hyd yr arfordir, gall fod yn anodd credu bod byd natur mewn trwbl. Ond dyna’r gwirionedd. Mae Cymru bellach yn un o’r gwledydd sydd wedi colli mwy o fyd natur nag unman arall yn y byd, gyda phoblogaethau o adar gwyllt, mamaliaid, amffibiaid, trychfilod ac infertebratau dan bwysau difrifol. Dyna pam bod ein hymdrechion yn bwysicach nag erioed.
Lawrlwythwch gopi o’n Hadroddiad Blynyddol am olwg fanwl ar flwyddyn o waith yn gwarchod natur yn y DU a ledled y byd. O ryfeddodau ynysoedd gwyllt i ennill gwobr y Cenhedloedd Unedig am ein gwaith yn Kazakhstan, fe welwch chi’r cyfan yn Adroddiad eleni.
Download a copy of our Annual Report for an in-depth look at our year of saving nature in the UK and around the world. From the wonder of Wild Isles to why we won a UN award for our work in Kazakhstan, you’ll find it all in this year’s Report.

Cewch edrych yn fanwl ar sut y buom achub byd natur yn y DU ac ym mhedwar ban byd yn ystod y flwyddyn a fu.
Mae pobl y wlad hon yn rhannu ein gweledigaeth am fyd naturiol sydd wedi'i adfer a'i warchod, felly mae RSPB Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i droi targedau’n weithredu drwy:

Rydyn ni’n gweithio i warchod cynefinoedd arbennig a bywyd gwyllt Cymru. Gyda chynefinoedd amrywiol a chadarnleoedd ar gyfer rhai mathau o fywyd gwyllt sydd o dan y bygythiad mwyaf yn y DU, rydyn ni’n cael ein cadw’n brysur iawn.
Mae Cymru yn gartref i gynefinoedd bywyd gwyllt hynod o bwysig ac unigryw:
Caiff tua 90 y cant o dir Cymru ei reoli ar gyfer ffermio. Am ganrifoedd, mae’r systemau ffermio traddodiadol a chymysg yng Nghymru wedi darparu cynefinoedd ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt. Yn anffodus, mae'r golygfeydd a'r synau eiconig hyn yn prinhau ar dir amaeth.
Mae ffermwyr o dan bwysau i gynhyrchu mwy o fwyd, ac mae hyn wedi arwain at broblemau i fywyd gwyllt ar dir amaeth a’r cynefinoedd y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw.
Mae rhai o adar tir amaeth yng Nghymru, fel y Cornchwiglod a’r Breision Melyn, wedi wynebu gostyngiad difrifol. Mae’r rhywogaethau hyn wedi dibynnu’n draddodiadol ar systemau ffermio sy’n cynnig clytwaith o gynefinoedd ar gyfer nythu, ffynonellau bwyd a gorchudd i gywion. Gallai deall a mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n arwain at y gostyngiadau hyn, a sut i'w cywiro, helpu i'w hatal yn y dyfodol.
Nid ffermwyr yw’r gelyn yn nirywiad byd natur. Mae ganddyn nhw ran fawr i'w chwarae yn y gwaith o'i adfer.
Rhaid i bolisïau a chynlluniau sicrhau bod ffermwyr Cymru yn gallu ffermio mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fyd natur. Yn ei dro, bydd hyn yn caniatáu i ni ddarparu diogelwch bwyd i genedlaethau’r dyfodol.
Mae yna ffermwyr sy’n gwneud hynny drwy ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur ac sydd wedi gweld y manteision y gall y math hwn o ffermio eu rhoi i wytnwch a busnes eu fferm. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda nhw er mwyn i ni allu deall a rhannu manteision ehangach ffermio mewn cytgord â byd natur.

Yn 2022, cyhoeddwyd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Bil Amaethyddiaeth Cymru – sy’n gyfle enfawr i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu hariannu’n iawn i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Bil Amaethyddiaeth Cymru yn arwain at newid go iawn.
Mae RSPB Cymru yn gofalu am 18 gwarchodfa natur sy’n cwmpasu mynyddoedd, arfordiroedd, coedwigoedd, tir amaeth a phopeth yn y canol. Maen nhw'n lleoedd gwarchod bywyd gwyllt, yn ogystal â hafanau heddychlon lle gall pobl archwilio a chysylltu â byd natur.
Dyna i chi Ynys-hir – wedi’i leoli rhwng copaon Eryri i’r Gogledd a mynyddoedd Cambria i’r De – lle mae adar hirgoes yn mentro i’r awyr mewn arddangosfa hedfan anhygoel yn ystod y tymhorau paru ac wrth i’r Bodaod Tinwyn erlyn adar y dŵr sy’n gaeafu. Neu beth am lyn godidog Efyrnwy wedi’i amgylchynu gan goetir a bryniau tonnog lle mae Hebogiaid Tramor yn hela a Thelorion y Coed yn canu o’r coed. Ar glogwyni Ynys Lawd, ein gwarchodfa ar Ynys Cybi, gallwch weld adar môr yn plymio a chadwch lygad am aelod prin o deulu’r frân â’i phig coch – y Frân Goesgoch. Wrth ymyl y môr-lynnoedd yng Nghonwy, gallwch gadw golwg am y Rhostogion Cynffonddu yn y gwanwyn a phlu du a gwyn trawiadol y Cornchwiglod yn y gaeaf. Mae cymaint i’w ddarganfod yn ein holl safleoedd.
Mae ein gwaith yn y gwarchodfeydd yn cynnwys rheoli’r cynefinoedd sydd gennym yn barod er mwyn eu cadw mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt. Rydyn ni hefyd yn creu cynefinoedd newydd. Er enghraifft, yng ngwarchodfa Cors Ddyga ar Ynys Môn, rydyn ni wedi sefydlu gwelyau cyrs, corsydd, glaswelltir gwlyb a phyllau bach ar ardal o dir amaeth.
Mae ein gwarchodfeydd yn derbyn tua 350,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. P’un a ydych chi am grwydro yng nghanol y bywyd gwyllt, awydd sesiwn ioga mewn man sydd â golygfeydd gwych, eisiau mynd â’r plant ar helfa chwilod neu i gysgu allan o dan y sêr – mae rhywbeth at ddant pawb.
Dewch am dro i un o warchodfeydd yr RSPB i naturiol llecyn dilychwin sy’n frith o adar a bywyd gwyllt