News
Diweddariad Bioddiogelwch i Gymru 2026: Blwyddyn brysur hyd yma!
Gyda marc cnoi amheus, ci canfod arbenigol a dulliau newydd o fonitro ynysoedd - mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i'r ...
8th Sep 2026
Gall cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru lywio sut mae Cymru’n mynd i’r afael a’r argyfyngau natur a hinsawdd. Edrychwn ar yr hyn sy’n cael ei gynnig – pham y bydd gweithredu cadarn, buddsoddiad a chraffu yn hanfodol.
5 min read
Ym mis Awst, fe wnaeth Llywodraeth newydd Cymru gwblhau ei ‘100 diwrnod cyntaf’, a gyda hynny, daeth cyhoeddiad gan Llŷr Gruffudd, Gweinidog y Cabinet, bod gwaith yn dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur. Yn ôl y cyhoeddiad, bydd y Cynllun yn mynd i’r afael â cholli hinsawdd a natur gyda’i gilydd, yn hytrach nag fel materion ar wahân. Mae hyn i’w groesawu – maen nhw’n ddwy ochr o’r un geiniog, y naill a’r llall yn arwydd o amgylchedd sydd dan ormod o bwysau.
Bydd y Cynllun yn gosod targed o Sero Net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050 – gyda’r olaf yn cyd-fynd â’r Weledigaeth Bioamrywiaeth Fyd-eang, y bydd bioamrywiaeth erbyn 2050 yn cael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod, ei hadfer a’i defnyddio’n ddoeth...gan sicrhau manteision hanfodol i bawb. I wneud hyn, bydd yn rhaid i Weinidogion weithredu ar frys yn ystod tymor y Senedd hon – erbyn 2030 – i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a dechrau adfer natur.
Rhaid i Gynllun sy’n mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a newid hinsawdd gyda’i gilydd, ein helpu fwyaf yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Bydd diogelu ac adfer cynefinoedd, yn ogystal ag adeiladu poblogaethau mwy cadarn o’n rhywogaethau sy’n ei chael hi’n anodd, yn cyfrannu at ddatgarboneiddio ac yn helpu cymunedau i addasu i effeithiau dirywiol hafau poethach a gaeafau gwlypach.
Er mwyn gwahaniaethu ei hun oddi wrth gynlluniau presennol y llywodraeth ar gyfer natur, mae’n rhaid i’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur fod yn eiddo i’r Llywodraeth gyfan a sbarduno camau gweithredu gan bob adran a sector. Dylid ei gostio, a nodi cyllid ar gyfer ei gyflawni. Fel y nodir yn adroddiad newydd yr RSPB – yr Achos Economaidd dros Natur – rydyn ni’n anwybyddu dirywiad byd natur yn enbyd, ond mae buddsoddi mewn adferiad yn debygol o gynhyrchu biliynau o bunnoedd mewn allbwn economaidd a chreu miloedd o swyddi newydd.
Un o gyhoeddiadau eraill Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod prysur yr haf yw’r Papur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, a lansiwyd ar 22 Gorffennaf. Yn ogystal â chynigion ar gyfer dyletswydd prawfesur gwledig, mae’r Papur Gwyn yn nodi newidiadau sy’n dechnegol a phenodol i raddau helaeth i ddeddfwriaeth ar newid hinsawdd, coedwigaeth a gwastraff. Fodd bynnag, mae un adran o’r Papur Gwyn wedi bod yn sioc inni ac mae’n peri pryder difrifol. Sef cynnig i Weinidogion gael pŵer ysgubol i ddiwygio, disodli neu ddileu rhestr hir o gyfreithiau amgylcheddol drwy is-ddeddfwriaeth.
Yn ystod y Senedd ddiwethaf, cafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu gan Aelodau o’r Senedd am orddibyniaeth ar Filiau fframwaith – sef Biliau nad ydynt yn rhoi llawer o fanylion am sut bydd y gyfraith yn gweithredu’n ymarferol, ond sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru nodi hyn mewn rheoliadau yn nes ymlaen. Mae’r llywodraeth newydd yn cynnig dilyn yr un llwybr drwy roi’r gallu iddi hi ei hun i newid rhai o’r deddfau pwysicaf ar gyfer gwarchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd, heb fawr o oruchwyliaeth gan y Senedd. Ni welwn unrhyw gyfiawnhad dros y pŵer eang y mae Gweinidogion yn ei gynnig.