News
Tymor nythu llwyddiannus i Fodaod Tinwyn yng Nghymru
Mae newyddion calonogol i un o adar ysglyfaethus mwyaf prin Gymru, yn dilyn tymor nythu llwyddiannus ar warchodfeydd nat...
23rd Sep 2026
Mae newyddion calonogol i un o adar ysglyfaethus mwyaf prin Gymru, yn dilyn tymor nythu llwyddiannus ar warchodfeydd natur RSPB Cymru.
5 min read
Yn RSPB Llyn Efyrnwy, sefydlwyd chwe thiriogaeth Boda Tinwyn y gwanwyn hwn, gyda 17 o gywion yn magu plu’n llwyddiannus o phum nyth. Llwyddodd pedwar cyw arall i fagu plu yn RSPB Tanrallt gerllaw, gan ddod â’r cyfanswm ar draws y ddau safle i 21 o Fodaod Tinwyn ifanc.
Mae gan Fodaod Tinwyn anghenion cynefin penodol. Maen nhw fel arfer yn nythu ar y ddaear yng nghanol grug a llystyfiant tal ar dirweddau agored yr ucheldir. Gall rheoli brithwaith o gynefinoedd ucheldirol rhoi llefydd addas iddynt nythu, ochr yn ochr â’r ardaloedd bwyta sydd eu hangen i fagu cywion yn llwyddiannus.
Mae nifer yr adar sy’n defnyddio Llyn Efyrnwy yn arwyddocaol iawn. Er bod Llyn Efyrnwy yn cynrychioli llai nag 1% o’r cynefin nythu a allai fod yn addas i’r Boda Tinwyn sydd ar gael ledled Cymru, amcangyfrifir bod dros 20% o boblogaeth Cymru wedi defnyddio’r warchodfa yn ystod y tymor bridio.
Roedd rhagor o newyddion da ymhellach i’r de yn RSPB Carngafallt, lle llwyddodd tri chyw Boda Tinwyn i fagu plu’r haf hwn. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm i 19 o gywion sydd wedi magu plu ar y warchodfa ers 2022.
Mae’r llwyddiant nythu hwn yn amlygu ba mor bwysig y gall tirweddau’r ucheldir sydd wedi’u rheoli’n dda fod i Fodaod Tinwyn, gan ddarparu’r cyfuniad o gynefinoedd nythu a bwydo sydd eu hangen ar yr adar trawiadol hyn.
Ac nid unig yng Nghymru y mae’r newyddion cadarnhaol. Mae Bodaod Tinwyn hefyd wedi cael llwyddiant nythu yn RSPB Geltsdale yng Nghumbria eleni.