News
Influx of Nutcrackers a sweet treat for birdwatchers!
Excitement in Norfolk as rare bird arrives on UK shores from Siberia, as part of a wider influx on the continent.
27th Oct 2026
Mae RSPB Cymru yn falch iawn o fod wedi dechrau gweithio’n ddiweddar ar brosiect newydd cyffrous yng ngogledd Cymru sy’n dod â ffermwyr, sefydliadau cadwraeth a chynghorwyr at ei gilydd i helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i ffermio a byd natur.
5 min read
Mae Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) Dalgylch Caletwr yn brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio gydag wyth fferm sy’n rhan o Glwstwr Ffermwyr Caletwr (CFC). Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y prosiect yn profi sut gall cyngor cydlynol o ansawdd uchel helpu ffermwyr i adeiladu busnesau cynhyrchiol a gwydn ar yr un pryd â gwella cynefinoedd, diogelu adnoddau naturiol a chefnogi adfer bywyd gwyllt.
Yn y bôn, mae’r prosiect yn ymwneud â dangos bod ffermio a natur yn gallu gweithio law yn llaw. Mae ffermwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth, gwella ansawdd dŵr, storio carbon a helpu bywyd gwyllt i adfer. Drwy’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig, rydym am edrych ar y ffyrdd gorau o gefnogi’r canlyniadau hyn ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn llwyddiannus.
Un o’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu’n aml yw canfod eu ffordd drwy’r cyngor a’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael gan sefydliadau niferus. Nod y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yw mynd i’r afael â hyn drwy ddod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd i ddarparu cymorth cydlynol drwy un fframwaith cydweithredol.
Gan weithio ochr yn ochr â ffermwyr, bydd RSPB Cymru a sefydliadau partner, gan gynnwys cynghorwyr amaethyddol, amgylcheddol a milfeddygol lleol, yn edrych ar gyfleoedd ar draws ffermydd cyfan ac ar draws y dalgylch ehangach. Mae hyn yn golygu ystyried cynhyrchu bwyd, lles anifeiliaid, rheoli dŵr, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd ac adfer natur gyda’i gilydd, yn hytrach nag fel materion ar wahân.
Bydd y prosiect yn helpu ffermydd sy’n cymryd rhan i nodi cyfleoedd ymarferol sy’n gweithio i’w busnesau tra hefyd yn sicrhau manteision amgylcheddol ehangach. Drwy ddefnyddio’r dull hwn o weithredu, rydym yn gobeithio dangos sut gall gweithio mewn partneriaeth gefnogi’r gwaith o gyflawni rheoli tir yn gynaliadwy yng Nghymru yn y dyfodol.
Un o brif elfennau’r prosiect fydd helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y cyfleoedd sydd ar gael drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a manteisio i’r eithaf arnynt.
Bydd y prosiect yn cefnogi ffermwyr i ddatblygu a gweithredu cynlluniau fferm integredig sy’n adlewyrchu anghenion busnes a blaenoriaethau amgylcheddol lleol. Mae hyn yn cynnwys nodi camau gweithredu a all fod o fudd i fywyd gwyllt, priddoedd, ansawdd dŵr a storio carbon tra hefyd yn cyd-fynd â systemau fferm unigol.
Yn bwysig, rydym yn cydnabod bod pob fferm yn wahanol, felly bydd cymorth yn cael ei deilwra i amodau lleol ac amgylchiadau unigol.
Bydd RSPB Cymru yn arwain y gwaith o ddarparu cyngor arbenigol ar gadwraeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar adfer y Gylfinir ac adfer mawndiroedd.
Mae Clwstwr Ffermwyr Caletwr yn rhan o un o Ardaloedd Gylfinir Pwysig Cymru , sy’n golygu ei fod yn dirwedd hanfodol i un o’r adar bridio sydd dan y bygythiad mwyaf yn y wlad. Mae niferoedd y Gylfinir wedi gostwng yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, ac mae gweithredu cydlynol ar draws nifer o ffermydd yn hanfodol er mwyn i boblogaethau adfer.
Gan weithio’n agos gyda ffermwyr, byddwn yn edrych ar gyfleoedd i wella cynefinoedd nythu a bwydo, lleihau’r pwysau ar adar bridio a chreu’r amodau sydd eu hangen er mwyn i boblogaethau’r Gylfinir ffynnu.
Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddiogelu ac adfer cynefinoedd mawndiroedd lle mae cyfleoedd ar gael i wneud hynny. Mae mawndiroedd iach yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, rheoli dŵr a storio carbon, sy’n golygu eu bod yn rhan werthfawr o dirweddau ffermio cadarn.
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd ein tîm ymroddedig yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr a sefydliadau partner i helpu i droi cynlluniau’n gamau gweithredu ymarferol ar lawr gwlad.
Gallai hyn gynnwys rheoli cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr, adfer mawndiroedd a mesurau eraill rheoli tir sy’n fuddiol i natur a gefnogir drwy’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd y prosiect hefyd yn helpu ffermwyr i ganfod cyfleoedd drwy raglenni megis Ffermio Bro a Cyswllt Ffermio.
Un o nodau allweddol y prosiect yw dysgu beth sy’n gweithio orau pan fydd ffermwyr, cynghorwyr a sefydliadau cyflawni yn gweithio gyda’i gilydd tuag at amcanion cyffredin. Bydd y ffermydd sy’n cymryd rhan yn gweithredu fel safleoedd arddangos, gan helpu i rannu profiadau a gwersi ymarferol gyda ffermwyr, partneriaid a llunwyr polisïau eraill.
Er mai newydd ddechrau y mae’r prosiect, rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i adeiladu’r sylfeini ar gyfer cydweithio tymor hir ar draws y dirwedd ehangach, gan gefnogi busnesau fferm ffyniannus, adnoddau naturiol iachach a dyfodol mwy disglair i fyd natur ar draws dalgylch Caletwr a thu hwnt.