Y cam cyn-ymgeisio yw’r amser gorau i annog datblygwr i wneud cynllun yn fwy ystyriol o natur. Mae ymgynghoriadau cymunedol (fel arfer ar gyfer datblygiadau mwy) yn gyfle gwych i siarad â’r datblygwr a’i ymgynghorwyr ac i rannu eich syniadau.
Ond bydd dal cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad arfaethedig, hyd yn oed ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno. Tarwch olwg ar ddogfennau’r cais i weld a oes unrhyw nodweddion sy’n ystyriol o natur wedi cael eu cynnwys fel rhan o’r dyluniad. Os nad oes cyfeiriad atynt, neu os ydych yn teimlo eu bod yn annigonol, rhowch wybod i’r Swyddog Cynllunio drwy gyflwyno sylwadau ar sut gellid gwella’r cynnig ar gyfer natur. Cyfeiriwch at bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol sy’n ymwneud â gwarchod a gwella bioamrywiaeth i gefnogi eich achos.
Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rywogaethau arbennig o bwysig neu lai cyffredin sy’n bresennol yn yr ardal, naill ai drwy wybodaeth leol neu’r asesiad ecolegol a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio, gallech awgrymu bod y cais yn darparu rhai planhigion a nodweddion a allai fod o fudd i anghenion penodol y rhywogaethau hynny. Er enghraifft, gall brics Gwenoliaid Du ac ystlumod neu gwpanau nythu Gwenoliaid y Bondo sicrhau bod y datblygiad newydd yn helpu’r rhywogaethau hyn. Yn yr un modd, gall plannu rhai rhywogaethau helpu gloynnod byw a gwyfynod, er enghraifft plannu Celyn ac Eiddew sy’n darparu planhigion bwyd rhagorol ar gyfer gloynnod byw Glesyn yr Eiddew (sydd i’w gweld ar hyd a lled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac weithiau yn yr Alban). Gallwch hefyd ofyn am gynlluniau plannu ar gyfer neithdar sy’n helpu pryfed peillio fynd o un lle i’r llall o fewn y datblygiad.
Er mwyn cael yr effaith fwyaf ar fyd natur, mae angen i’r cynllun ddarparu’r nodweddion hyn ar hyd a lled y datblygiad cyfan, nid dim ond mewn corneli. Dylai datblygwyr fod yn uchelgeisiol gyda’u nodweddion sy’n ystyriol o natur ac nid eu gwthio i un cornel fach.