Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr ‘asesiad priodol’ yn cael ei chasglu gan yr ymgeisydd, gan gynnwys asesu’n fanwl yr effeithiau posibl ar y safle dynodedig a’i nodweddion ac, yn hollbwysig, unrhyw effeithiau ar gyflawni amcanion cadwraeth y safle. Mae’n ddefnyddiol os yw’r ymgeisydd yn trafod yr asesiad gyda’r corff cadwraeth natur statudol perthnasol ymlaen llaw, ond nid oes angen gwneud hyn bob amser.
Ar ôl casglu’r brif wybodaeth asesu, ystyrir mesurau lliniaru a darperir tystiolaeth o sut y gallent leihau’r risg o effeithiau niweidiol ar y safle a’i nodweddion.
Yr ‘awdurdod cymwys’ sy’n ‘cyflawni’ yr asesiad ffurfiol ei hun; yn achos cais cynllunio, yr awdurdod cynllunio lleol yw hwn fel arfer. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth angenrheidiol a ddarperir gan yr ymgeisydd ac yn cael cyngor gan y cyrff cadwraeth natur statudol perthnasol. Fodd bynnag, mae’n arferol i’r ymgeisydd ddarparu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Cysgodol (mewn geiriau eraill, ‘drafft’) ar gyfer yr awdurdod cymwys.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth orau sydd ar gael ac unrhyw fesurau arfaethedig i osgoi neu liniaru niwed (mesurau lliniaru), penderfynir a oes posibilrwydd o ‘effeithiau niweidiol ar uniondeb’ yr AGA, yr ACA a / neu’r safle Ramsar. Os na ellir diystyru effeithiau niweidiol, dim ond os gellir bodloni profion llym pellach (Cam tri) y gellir rhoi caniatâd. Mae rhagor o wybodaeth am y ‘prawf uniondeb’, sydd wrth wraidd yr asesiad priodol, ar gael ar-lein, er enghraifft yma.