Feature

Pa amddiffyniadau sydd gan goed o ran cynllunio?

Mae coed yn rhan mor bwysig o’r llefydd rydym ni’n byw ynddyn nhw. Dyma eu hamddiffyniadau cyfreithiol yng Nghymru.

On this page

Last updated: 2 July 2025

Nid yn unig y mae coed yn darparu cynefinoedd naturiol, maent hefyd yn ychwanegu gwerth at lesiant ac yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o liniaru newid yn yr hinsawdd.

Mae rhai coed yn cael eu gwarchod gan y gyfraith felly mae angen caniatâd cyn y gellir gwneud gwaith arnynt. Gellir defnyddio polisïau neu amodau cynllunio hefyd i warchod coed. Y tro nesaf y byddwch yn gweld neu’n clywed gwaith coed yn cael ei wneud yn eich ardal leol, efallai y byddwch am ystyried a yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol.

Beth yw Gorchmynion Diogelu Coed?

Gall awdurdod cynllunio lleol (ACLl) wneud Gorchmynion Diogelu Coed (GDC) i ddiogelu coed unigol, grwpiau o goed neu goetiroedd rhag cael eu difrodi neu eu dinistrio’n fwriadol. Dim ond gyda chaniatâd yr ACLl y gellir torri, tocio neu ddadwreiddio coeden sy’n cael ei diogelu gan GDC.  

Rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu gwneud gwaith o’r fath, waeth pa mor fach ydyw, wneud cais am ganiatâd i’r ACLl a fydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais mewn ffordd debyg i gais cynllunio. Mae hyn yn rhoi cyfle i gymdogion ac aelodau eraill o’r cyhoedd wrthwynebu’r cais. Gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad os yw’r ACLl yn gwrthod y cais, ond nid oes hawl i apelio gan barti â buddiant os rhoddir caniatâd i’r gwaith coed arfaethedig.

Mae’n drosedd difrodi neu ddinistrio coeden a warchodir yn fwriadol, neu wneud unrhyw waith coed heb ganiatâd. Gall euogfarn arwain at ddirwy fawr. Gall difrod bwriadol hefyd gynnwys gwaith adeiladu o amgylch coeden sy’n achosi iddi farw.

Tawny Owl, perched on a branch, surrounded by greenery
Tawny Owl
Cyngor gorau

I gael cyngor ar sut i weithredu i warchod coed yn eich ardal leol, edrychwch ar ein canllaw Sut i Sefyll yn Gadarn Dros Goed.

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi'r pŵer i ACLlau wneud Gorchmynion Diogelu Coed i ddiogelu coed ‘er budd amwynder’. Rhaid i’r ACLl fod yn argyhoeddedig fod gan y goeden ddigon o werth amwynder cyn gwneud GDC. Pennir gwerth amwynder gan ffactorau sy’n cynnwys oedran a disgwyliad oes, cyflwr, gwerth bywyd gwyllt, gwelededd i’r cyhoedd neu bwysigrwydd i’r amgylchedd lleol.

Cyn y gellir cadarnhau GDC, bydd yr ACLl yn hysbysu’r tirfeddiannwr ac yn caniatáu cyfnod o ymgynghori cyhoeddus. Nid oes hawl i apelio yn erbyn ACLl sydd naill ai’n gwneud neu’n cadarnhau GDC.

Gall GDCau hefyd gael eu gwneud mewn ymateb i fygythiad datblygu uniongyrchol, a all godi ar ffurf cais cynllunio neu gan aelod o’r cyhoedd sy’n ‘canu’r larwm’. Yn ogystal â GDCau unigol, grŵp neu goetir, gall yr ACLl wneud GDC ‘ardal’ fel mesur brys. Bydd hyn yn darparu gwarchodaeth ar unwaith i’r holl goed mewn ardal tra bo’r ACLl yn penderfynu pa goed sy’n teilyngu GDC unigol neu grŵp.

Sut mae GDCau yn effeithio ar geisiadau cynllunio?

Os yw’r datblygiad a gynigir mewn cais cynllunio yn cynnwys unrhyw waith ar goeden a warchodir, bydd y GDC yn ystyriaeth berthnasol ond ni fydd o reidrwydd yn peri i’r cais gael ei wrthod. Fodd bynnag, os yw cais cynllunio’n cynnig tynnu coeden sy’n destun GDC, gallai hyn fod yn sail gadarn dros wrthwynebu’r cais, yn enwedig os yw’r goeden yn parhau i fod o werth amwynder uchel. Gall caniatâd cynllunio osod gofyniad ar gyfer plannu coeden newydd, ond nid yw hyn yn debygol o ddisodli gwerth amwynder y goeden sydd i’w thynnu. Nid oes angen cais gwaith coed ar wahân os caiff gwaith i’r goeden neu ei thynnu ei gymeradwyo fel rhan o gais cynllunio.

Sut mae GDCau yn effeithio ar ddatblygiad a ganiateir?

Nid yw hawliau datblygiadau a ganiateir yn drech na GDC. O ganlyniad, bydd angen cael cydsyniad yr ACLl ar gyfer unrhyw waith ar goeden warchodedig sy’n angenrheidiol i roi cynnig datblygu a ganiateir ar waith.

Sut gall amodau cynllunio ddiogelu coed?

Mae’n bosibl y bydd coed nad ydynt yn cael eu gwarchod gan GDC yn dal i fod yn ystyriaeth berthnasol i gais cynllunio, yn enwedig os ydynt yn sgrinio neu’n cyfrannu fel arall at amwynder preswyl neu leol.

Gall ceisiadau cynllunio gynnwys arolwg manwl o’r holl goed, nid coed GDC yn unig, ar safle’r cais, fel y gellir ystyried oedran, maint a chyflwr y coed ac, os oes angen, diogelu’r coed hynny. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofyniad llym i gynnal arolwg coed fel rhan o gais cynllunio, felly mae p’un a oes angen un ai peidio yn dibynnu ar ddisgresiwn yr ACLl.

Wrth ystyried cais cynllunio, gall yr ACLl benderfynu gwneud GDC i warchod coed o werth amwynderol uchel. Fodd bynnag, os yw’n penderfynu na ellir cyfiawnhau gwneud GDC, gall yr ACLl ddal i sicrhau bod y coed ar y safle yn cael eu diogelu yn ystod y gwaith o adeiladu’r datblygiad trwy osod amod cynllunio priodol. Fel arfer, bydd amod o’r fath yn ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr roi mesurau diogelu coed ar waith a’u cynnal yn unol â Safon Brydeinig (BS) 5837 – ‘Coed mewn perthynas â Dylunio, Dymchwel ac Adeiladu’. Dylid monitro’r mesurau diogelu coed, a gall yr ACLl orfodi yn erbyn unrhyw achos o dorri amod diogelu coed.

A Pipistrelle Bat swoops in under a full moon.

A all polisi cynllunio ddiogelu coed?

Er nad oes gwarchodaeth uniongyrchol na phenodol ar gyfer coed unigol, ar wahân i rai sy’n destun GDC, mae Polisi Cynllunio Cymru (pennod 6, tudalen 144) yn galw ar bolisïau a phenderfyniadau cynllunio i wella’r amgylchedd naturiol, gan gynnwys coed a choetiroedd. Ar ben hynny, mae hefyd yn galw ar benderfyniadau cynllunio i osgoi effeithiau niweidiol ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a cholli neu ddirywiad cynefinoedd na ellir eu disodli fel coetir hynafol a choed hynafol neu aeddfed. Yn aml, ceir polisïau tebyg sy’n ceisio gwarchod coed a choetiroedd mewn cynlluniau datblygu lleol.

Sut mae coed mewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu gwarchod?

Rhaid hysbysu’r ACLl am unrhyw fwriad i wneud unrhyw waith ar goed dros faint penodol (diamedr boncyff o 75mm neu fwy, o 1.5m o lefel y tir, neu 100mm mewn diamedr os mai'r bwriad yw teneuo er mwyn helpu twf coed eraill) mewn Ardal Gadwraeth, ond nid oes gofyniad i hysbysu cymdogion yn ffurfiol. Y rheswm dros yr hysbysiad yw rhoi cyfle i’r ACLl wneud GDC, y mae’n rhaid ei wneud o fewn chwe wythnos i ddyddiad yr hysbysiad os ydynt o’r farn bod y coed yn teilyngu hynny.

Mewn ymateb i’r hysbysiad, mae gan yr ACLl dri opsiwn:

  • Gwneud GDC
  • Rhoi caniatâd penodol i wneud y gwaith a nodir yn yr hysbysiad
  • Gwneud dim, os felly gellir gwneud y gwaith ar ôl i’r cyfnod rhybudd o 6 wythnos ddod i ben

 

Ni all yr ACLl ‘wrthod’ y gwaith a hysbyswyd. Os ydynt o’r farn na ddylai’r gwaith fynd yn ei flaen, rhaid iddynt wneud GDC.

Sut mae rhywogaethau a warchodir yn cael eu hystyried?

Mae gan lawer o rywogaethau adar ac ystlumod warchodaeth gyfreithiol lem sy’n ei gwneud yn drosedd i darfu arnynt yn fwriadol neu’n ddi-hid, neu ddinistrio eu cynefin nythu neu glwydo. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cymryd camau rhagofalus wrth ystyried unrhyw ymyrraeth â chynefin tebygol rhywogaeth sy’n cael ei gwarchod yn gyfreithiol.

Mae sawl rhywogaeth warchodedig o adar ac ystlumod, a phathewod, yn defnyddio coed ar gyfer nythu a chlwydo. Rhaid i goed a all gynnwys nythod adar neu glwydfannau ystlumod gael eu nodi a’u hamddiffyn yn briodol am o leiaf cyn hired ag y mae’n ei gymryd i asesu, ac os oes angen, i liniaru effaith unrhyw waith coed ar rywogaethau a warchodir. Mae’n debyg y bydd angen gofyn am gyngor gan ecolegydd cymwys. Efallai fod gan ACLlau eu hecolegwyr eu hunain, neu efallai y byddant yn gofyn am gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru (asiantaeth y llywodraeth sy’n cynghori ar yr amgylchedd naturiol yng Nghymru).

Darllenwch fwy am fywyd gwyllt a’r gyfraith yma.

Pryd mae angen trwydded cwympo coed?

O dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, mae’n bosibl y bydd angen trwydded cwympo coed ar gyfer cwympo coed mewn ardal goetir gan yr awdurdod coedwigaeth perthnasol (Cyfoeth Naturiol Cymru), oni bai fod eithriad yn berthnasol. Mae eithriadau’n cynnwys coed o dan faint penodol neu mewn lleoliadau penodol (er enghraifft, gerddi neu fannau agored cyhoeddus) neu gwympo coed sy’n ofynnol er mwyn rhoi caniatâd cynllunio ar waith.

Beth am goed marw, coed sy’n marw neu goed peryglus?

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen torri coed i lawr, er enghraifft os ydynt wedi marw neu’n afiach ac yn peri risg i ddiogelwch pobl.

Nid oes angen caniatâd yr ACLl i wneud gwaith ar goeden farw, ond yn y rhan fwyaf o achosion dylid rhoi pum niwrnod o rybudd ysgrifenedig cyn ymgymryd â gwaith o’r fath ar goeden a ddiogelir gan GDC.

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen gwaith brys ar goeden sy’n destun GDC i leihau’r risg o niwed difrifol ar unwaith, er enghraifft tynnu canghennau i atal anaf i gerddwyr sy’n pasio. Yn yr achosion hyn, rhaid i berchennog y goeden roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ACLl cyn gynted â phosibl ar ôl i’r gwaith ddod yn angenrheidiol. 

Gellir tynnu canghennau marw o goeden fyw heb roi rhybudd na chael caniatâd.

Fodd bynnag, dylid cadw pren marw ar goed byw lle bynnag y bo modd gan ei fod yn darparu cynefin gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt. Darllenwch fwy am hyn yng nghanllawiau Coed Cadw ar bwysigrwydd pren marw.

Share this article