Feature

Crynodeb cyflym o’r system gynllunio yng Nghymru

Beth yw’r system gynllunio, beth yw ei phwrpas a pham mae ei hangen?

Red Kite perched on a rock.
On this page

Last updated: 2 July 2025

Beth yw’r system gynllunio?

Mae’r system gynllunio, a elwir weithiau’n 'cynllunio gwlad a thref' neu’n 'cynllunio defnydd tir', yn ymwneud â rheoli datblygiad tir ac adeiladau yn ein trefi, ein dinasoedd ac yng nghefn gwlad. Ei phwrpas yw cydbwyso anghenion unigolion preifat, busnesau a’r sector cyhoeddus â’r effeithiau y gall datblygiadau eu cael arnom ni a’r amgylchedd.

Dylai cynllunio sicrhau bod y datblygiad iawn yn digwydd yn y lle iawn. Mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni datblygu cynaliadwy, drwy sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn gwarchod yr amgylchedd wrth ddiwallu anghenion cymdeithasol ac economaidd ar yr un pryd.

Berwyn Mountains
Cyngor gorau

Mae cynllunio yn un o swyddogaethau Llywodraeth Cymru sydd wedi’i ddatganoli’n llawn, sy’n golygu bod y cyfrifoldeb dros faterion cynllunio wedi cael ei drosglwyddo o Lywodraeth y DU i Senedd Cymru.

Byddwch yn ofalus, wrth chwilio am adnoddau ar-lein, a sicrhewch nad ydynt yn cyfeirio at wlad arall yn y DU, gan ei bod yn debygol y bydd gwahaniaethau.

Mae’r system gynllunio yn y DU, sy’n amrywio ychydig ar draws y pedair gwlad ddatganoledig, yn system sy’n cael ei harwain gan gynlluniau. Yng Nghymru, mae unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei arwain gan bolisïau cynllunio a nodir mewn cynlluniau datblygu lleol. Pan gyflwynir cais cynllunio ar gyfer datblygiad newydd, rhaid iddo ddilyn polisïau cynllunio’r ardal er mwyn bod yn llwyddiannus.

Mae prosiectau seilwaith mawr dros faint penodol (ee datblygiadau gwynt ar y môr a gorsafoedd pŵer dros 350 MegaWat) yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU drwy’r broses Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (PSAC). Mae hon yn system ar wahân i gynllunio gwlad a thref, a nodir yn Neddf Cynllunio 2008 ac a reolir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Mae prosiectau seilwaith mawr eraill (ee prosiectau cynhyrchu ynni sy’n llai na 350 MegaWat, yr holl brosiectau gwynt ar y tir, meysydd awyr a rheilffyrdd) yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru drwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC). 

Beth yw ‘datblygiad’?

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn diffinio datblygiad fel a ganlyn:

  • Datblygiad gweithredol – sy’n cynnwys gwaith adeiladu, peirianneg neu gloddio (ond nid gwaith adeiladu mewnol)
  • Newid defnydd – sy’n golygu newid sylweddol yn y defnydd o adeiladau, er enghraifft ysgubor i dŷ, a / neu dir, er enghraifft safle maes glas sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tai newydd (mae ‘defnyddiau’ cynllunio yn cael eu dosbarthu yn y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd)

 

Gellir gwneud rhai mathau o ddatblygiadau, a elwir yn ddatblygiadau a ganiateir, heb ganiatâd cynllunio.

Pwy sy’n gyfrifol am gynllunio lleol?

Eich awdurdod cynllunio lleol (ACLl) sy'n gyfrifol am reoli'r broses gynllunio. Yr Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru yw’r 22 awdurdod unedol a’r tri awdurdod Parc Cenedlaethol.

Mae’r 22 awdurdod unedol wedi’u rhannu’n wardiau etholiadol, sydd wedi’u rhannu ymhellach yn gymunedau. Defnyddir wardiau i ethol cynghorwyr lleol mewn awdurdodau unedol.

Yr haen isaf o lywodraeth leol yng Nghymru yw cynghorau cymuned, y gellir eu galw hefyd yn gynghorau tref. Caiff cynghorwyr cymuned a thref eu hethol i gynghorau cymuned / tref i gynrychioli buddiannau’r cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu. Rhaid rhoi gwybod i’r cynghorau hyn am geisiadau cynllunio sydd wedi cael eu cyflwyno yn eu hardaloedd a rhoi cyfle iddynt roi sylwadau arnynt os ydynt yn dymuno. Fodd bynnag, nid oes ganddynt y pŵer i wneud penderfyniad ar geisiadau cynllunio. 

Mae gan awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gynghorwyr etholedig hefyd, ond mae’r broses ychydig yn wahanol. Mae eu cynghorwyr etholedig yn cynnwys cynghorwyr o awdurdodau lleol sydd â thir yn rhan o’r Parc Cenedlaethol, ynghyd ag aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru.

Goldfinch
Cyngor gorau

I gael gwybod pwy yw eich ACLl, nodwch eich cod post yma. Gallwch hefyd weld rhestr o’r holl ACLlau yng Nghymru.

Mae dwy brif elfen i’r system gynllunio – llunio cynlluniau a gwneud penderfyniadau. Mae’r ddwy swyddogaeth yn ddyletswydd gyfreithiol ar yr ACLl.

Beth yw ‘llunio cynlluniau’?

Llunio cynlluniau yw’r broses o baratoi, profi drwy ymgynghori cyhoeddus ac, yn y pen draw, mabwysiadu cynllun datblygu sy’n cynnwys y polisïau cynllunio hollbwysig ar gyfer yr ardal. Gelwir y cynllun datblygu y mae’n rhaid i bob ACLl ei lunio ar gyfer ei ardal yn ‘gynllun datblygu lleol’ (CDLl). Mae’n cynnwys cyfres o fapiau a pholisïau sy’n nodi’r hyn y gellir ei adeiladu a ble, a materion eraill gan gynnwys sut y bydd bioamrywiaeth yn cael ei gwarchod rhag datblygu lleol a’i gwella yn unol â pholisïau a deddfwriaeth genedlaethol.

Beth yw gwneud penderfyniadau?

Mae gwneud penderfyniadau’n golygu penderfynu pa geisiadau cynllunio a dderbynnir gan yr ACLl i’w datblygu yn ei ardal. Rhaid i bob cais cynllunio dilys gael ei gofrestru, ei hysbysebu, ei ystyried yn briodol yn erbyn y polisi cynllunio perthnasol, a’i benderfynu yn unol â’r cynllun datblygu, y polisïau cenedlaethol a’r gofynion gweithdrefnol amrywiol.

Os gwrthodir cais cynllunio gan yr ACLl, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Ymdrinnir ag apeliadau gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), asiantaeth o’r llywodraeth sy’n delio ag apeliadau cynllunio, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) a thrwy archwilio cynlluniau datblygu lleol. Gall penderfyniadau cynllunio ac apêl fod yn destun her gyfreithiol.  

I ddysgu mwy am wahanol elfennau’r system gynllunio, edrychwch ar ein canllawiau cyfeirio ar hafan y system gynllunio yng Nghymru

Share this article