Feature

Dod ynghyd i fynnu gweithredu dros natur yng Nghymru

Bydd cannoedd o bobl yn ymgynnull yng Nghaerdydd ym mis Medi i ddangos eu cefnogaeth i weithredu brys er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd. Fase'n grêt gweld chi yno hefyd.

On this page

Cyhoeddwyd: 15 Awst

Bydd Lobi Torfol Gweithredwch Nawr am y Dyfodol yn dod i’r Senedd ddydd Mercher 17 Medi. Rydym yn ymuno â Climate Cymru a llawer o sefydliadau ac unigolion eraill o bob cwr o Gymru i gynllunio’r digwyddiad. Bydd y trefnwyr yn helpu i amserlennu cyfarfodydd gydag Aelodau o’r Senedd drwy gydol y dydd, fel y gall y cyfranogwyr godi’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw, gyda’u cynrychiolwyr etholedig.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Gofynnwn i chi, ein cefnogwyr, i gofrestru nawr a dod â’ch straeon personol am gân yr adar yn diflannu, mannau gwyrdd gwerthfawr a datblygiadau lleol i’w trafod gyda’ch AS, gan ddangos yn uniongyrchol yr ystod a’r brys sydd ei angen i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar natur ledled Cymru.

Yn ystod y digwyddiad, byddwch yn cael eich annog i ddweud eich dweud a ‘chodi gwrychyn’, gan ychwanegu eich negeseuon o obaith ar gyfer dyfodol ein bywyd gwyllt a’n mannau gwyllt i ein gosodiad ‘adenydd gobaith’. Rhai gweithgareddau eraill drwy gydol y dydd fydd teithiau cerdded bywyd gwyllt, gweithdai creadigol a sgyrsiau gan arbenigwyr.

Mae lobi torfol Cymru yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg lle cyfarfu miloedd o bobl â’u Haelodau Seneddol yn San Steffan ym mis Gorffennaf (gweler llun), gan alw am y camau brys sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae eich lleisiau'n bwysig

Credwn yn gryf fod eich lleisiau yn hanfodol ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried penderfyniadau hollbwysig sy’n ymwneud â ffermio, natur, yr hinsawdd a’r gymuned, ac mae etholiad y Senedd ar y gorwel. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni, i gwrdd â’ch Aelodau o’r Senedd ac i siarad am y pethau sydd bwysicaf i chi.

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr. Os ydych chi’n poeni am y dyfodol – am fywyd gwyllt, swyddi gwyrdd, ynni adnewyddadwy neu eich cymuned – mae eich llais yn bwysig. Efallai ei fod yn swnio’n frawychus, ond bydd popeth sydd ei angen arnoch i deimlo’n hyderus ac yn barod i siarad â’ch AS, yn unigol neu mewn grŵp, yn cael ei ddarparu cyn y digwyddiad.”

Rydyn ni’n annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan, gyda chyllid posibl ar gael i’r rhai sydd ei angen fwyaf, i helpu i dalu costau teithio i Gaerdydd. 

Share this article