Feature

Trwyddedu adar hela - pam ydyn ni'n aros?

Mae dros ddwy filiwn o Ffesantod a Phetris Coesgoch anfrodorol yn cael eu rhyddhau i gefn gwlad Cymru bob blwyddyn, heb fawr o gyfyngiadau o ran pryd a ble y cânt eu rhoi. Gyda thystiolaeth dda o blaid rheoleiddio a phryderon am effeithiau'r ffliw adar, pam mae Llywodraeth Cymru mor araf yn gwarchod ein bywyd gwyllt?

A Pheasant stood in a field of dry grass.
On this page

Published: 9 September

Methu dau ddyddiad cau

Cyhoeddwyd: 9 Medi

Dechreuodd y tymor saethu ar gyfer Petris Coesgoch ar 1 Medi, ac yna tymor saethu'r Ffesantod ar 1 Hydref. Roedd hon i fod yr ail flwyddyn y gallai rhyddhau adar hela fod wedi gofyn am drwydded, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yr ymatebodd llawer o gefnogwyr yr RSPB iddo.

Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyngor clir i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023, ond mae cynlluniau ar gyfer trwyddedu wedi cael eu gohirio dro ar ôl tro. Gyda dau ddyddiad cau wedi'u methu, a mwy na thair blynedd ers i Weinidogion ddechrau'r adolygiad, mae'r aros yn parhau.

Ein barn ni ar ryddhau adar hela

Roedd adolygiad manwl gan wyddonwyr yr RSPB yn 2020 wedi amlygu’r effeithiau amgylcheddol yn sgil rheoli sy'n gysylltiedig â rhyddhau adar hela ar raddfa fawr. Mae saethu ar raddfa llai, sy’n rhyddhau niferoedd is o adar, yn llawer llai tebygol o achosi niwed. Yn wir, gall saethu, sy'n cael ei reoli'n dda, helpu i greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt brodorol a rheoli ysglyfaethwyr mewn mannau lle byddai amaethyddiaeth ddwys fel arall yn sbarduno dirywiad.

Mae CNC yn cynghori Llywodraeth Cymru y dylai rhyddhau Ffesantod a Phetris Coesgoch heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Byddai’n rhaid i CNC fod yn sicr na fyddai unrhyw niwed i fywyd gwyllt sy’n cael eu diogelu, cyn iddynt roi trwydded i ganiatáu gwneud hynny mewn neu o amgylch ardaloedd sy’n cael eu hadnabod fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mewn ardaloedd eraill, byddai ‘Trwydded Gyffredinol’ yn diffinio uchafswm nifer yr adar sy’n cael eu rhyddhau mewn ardal.

Mae CNC yn dweud na all y system bresennol warchod natur yn ddigonol.

Mae'n hanfodol nad yw gweithgareddau sy'n cynnwys rhyddhau niferoedd mawr o adar anfrodorol ar safleoedd dynodedig yn peri risg i'n bywyd gwyllt.

Ffliw adar - bygythiad dirfodol

Roedd ein hadolygiad yn 2020 yn tynnu sylw at y risgiau fod adar hela yn trosglwyddo clefydau i fywyd gwyllt sy'n cael eu cadw’n helaeth ac yna'n cael eu rhyddhau i gefn gwlad. Ond ar y pryd, ni fyddem wedi gallu rhagweld yr effaith y byddai'r ffliw adar yn ei chael wedyn ar adar yn fyd-eang. Mae'r effeithiau mwyaf wedi bod ar adar y môr, ond ymysg y rhai sydd wedi profi’n bositif yng Nghymru mae adar sydd ar y rhestr Goch sy'n peri pryder cadwraethol, fel Gylfinirod a Bodaod Tinwyn yn ogystal â Bwncathod, Hebogiaid Tramor a Thylluanod Brech.

Ym mis Mai, profodd ddau Ffesant yn bositif am ffliw adar ym mryniau Gogledd Berwyn, ar ôl cael eu rhyddhau o gorlan mae'n debyg. O fewn wythnosau, cadarnhawyd ffliw adar mewn adar hela caeth gerllaw. Gwyddom bellach, ar ôl cael gwybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, fod y ddau achos a adroddwyd yn deillio o ddigwyddiad marwoldeb torfol o tua 875 o Ffesantod wedi marw “yn y gwyllt”. Roedd y cyfleuster magu adar hela cyfagos yn cynnwys 11,000 o Ffesantod a 10,000 o Betris, ac ar ôl hynny datganwyd parthau gwarchod a gwyliadwriaeth, a oedd yn atal adar hela rhag cael eu rhyddhau, nes iddo gael ei ddiddymu fis diwethaf.

Mae hyn yn peri pryder mawr oherwydd bod poblogaeth gyfan y Grugieir Duon sydd ar y Rhestr Goch yng Nghymru yng Ngogledd Berwyn a'r rhostiroedd cyfagos, ac mae'n ardal bwysig ar gyfer Gylfinirod sy'n bridio. Mae achosion o ffliw adar mewn Ffesantod a ryddhawyd hefyd yn risg i sborionwyr, gan gynnwys adar ysglyfaethus. Mae'r digwyddiadau'n agos at Ardal Gwarchodaeth Arbennig y Berwyn, sydd wedi'i dynodi ar gyfer ei phoblogaethau o Fodaod Tinwyn, Cudyllod Bach, Hebogiaid Tramor a Barcud Coch.

Yng Nghymru, nid yw achosion o ffliw adar mewn Ffesantod sydd wedi'u rhyddhau yn effeithio ar barthau rheoli clefydau, sy'n golygu os bydd achosion o Ffesantod wedi'u rhyddhau, gall saethu barhau i ryddhau adar a allai ledaenu'r clefyd ymhellach. Nid oes yn rhaid i’r weithred o saethu roi gwybod am Ffesantod neu adar gwyllt sy'n sâl neu wedi marw, na chasglu carcasau Ffesantod marw sydd wedi'u rhyddhau ar eu tir. Gan nad oes system drwyddedu ar waith i reoleiddio rhyddhau adar hela, does dim llawer y gall CNC ei wneud i helpu i warchod bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.

Angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru

Dim ond amser a ddengys a oedd y Grugieir Duon mewn mwy o berygl gan yr achosion yn y Berwyn, ond mae'n amlwg mai trwyddedu yw'r unig ffordd o reoleiddio rhyddhau adar hela yn effeithiol.

Hyd yn oed pe na bai'r ffliw adar erioed wedi digwydd yng Nghymru, mae nifer o resymau pam fod angen rheoleiddio i ddiogelu'r amgylchedd.

Gall niferoedd uchel o adar hela niweidio pridd drwy gyfoethogi, arwain at ysglyfaethu ymlusgiaid, a gall gynyddu nifer yr ysglyfaethwyr cyffredinol fel Llwynogod, sydd wedyn yn gallu bygwth bywyd gwyllt sydd mewn perygl. Ar ben hynny, mae lladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yn gysylltiedig â saethu adar hela: roedd digwyddiadau yng Nghymru deirgwaith yn fwy tebygol o ddigwydd mewn ardaloedd lle mae saethu adar hela yn digwydd.

Gyda'r Senedd ar fin dechrau ei sesiwn olaf cyn yr etholiadau fis Mai nesaf, mae amser yn brin. Fe wnaethom groesawu cytundeb diweddar i wahardd gwerthu a defnyddio'r rhan fwyaf o fwledi a chetris plwm, ond drwy anwybyddu argymhellion ei gynghorydd natur ei hun, mae Llywodraeth Cymru yn methu gwarchod natur a bydd yn gwanhau ei huchelgais i 30% o dir a môr Cymru fod mewn cyflwr da erbyn 2030.

Mae gan Lywodraeth Cymru amser o hyd i wneud y penderfyniad cywir a chyflwyno trwyddedu, ond mae amser yn brin. Gallwch helpu drwy anfon ebost at y Dirprwy Brif Weinidog (Correspondence.Huw.Irranca-Davies@gov.wales) i ddweud ein bod angen gweithredu, ac rydym ni angen hyn nawr.

 

Share this article