News
Over 250,000 seabirds set to benefit as Rathlin Island declared ferret free
Ground-breaking project improves prospects for Northern Ireland's largest seabird colony.
23rd Mar 2026
Ar ôl llwyddiant mawr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau’r RSPB (SVN) wedi ehangu i Gymru a'r Alban!
5 min read
Mae'r prosiect cyffrous hwn, diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, yn cefnogi prosiectau adfer rhywogaethau oddi ar warchodfeydd. Drwy adeiladu timau gwirfoddoli amrywiol, profiadol, hunangynhaliol, nod SVN yw creu gwaddol ar gyfer y prosiectau hyn, fel y gallant barhau ymhell i'r dyfodol. Gall unrhyw un fod yn rhan o'r rhwydwaith hwn, gan weithio ar y rheng flaen i warchod byd natur!
I ddechrau, mae SVN yn cefnogi tri phrosiect yng Ngogledd Cymru: adfer y Gylfinir a’r Grugiar Ddu ar Rosydd Gogledd Cymru, ac adfer y Frân Goesgoch yn Eryri, Llŷn ac Ynys Môn.
Roedd y Gylfinir yn olygfa gyfarwydd ledled Cymru ar un pryd, gyda’i alwad nodedig, fyrlymus. Yn anffodus, mae'r Gylfinir o dan fygythiad, ac amcangyfrifir y bydd wedi diflannu’n gyfan gwbl yng Nghymru erbyn 2033, heb gamau cadwraeth pwrpasol.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae prosiect y Gylfinir mewn Argyfwng wedi bod yn cyflawni’r camau cadwraeth hyn ledled y DU, diolch i gyllid EU-LIFE.
Mae ardal y prosiect yng Nghymru yn cwmpasu dau o’r 12 o Ardaloedd Gylfinir Pwysig yng Nghymru: ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ysbyty Ifan ac ardal fawr o rostir, sy’n gyfarwydd fel Mynydd Hiraethog.
Ers dechrau’r prosiect, mae tîm Cri’r Gylfinir, gan gynnwys dros 25 o wirfoddolwyr wedi gwneud llawer iawn o waith amrywiol i warchod ac adennill y rhywogaeth fregus hon. Bob gwanwyn, mae'r tîm wedi cynnal arolwg o gynefinoedd y Gylfinir, darganfod nythod a helpu i adeiladu ffensys dros dro i warchod y nythaid rhag mamaliaid mawr. Mae prosiect SVN yn cefnogi’r tîm anhygoel hwn wrth iddynt barhau â’u gwaith adfer eleni.
Mae’r Grugiar Ddu yn aderyn trawiadol, gyda’r gwrywod yn enwog am eu hymddygiad paru yn ystod y gwanwyn. Yn ystod yr arddangosfa baru hon, maen nhw'n ymestyn plu eu cynffonnau gwyn, yn rhedeg ac yn sgrechian i greu argraff ar y menywod. Arferai’r Grugiar Ddu fod yn niferus mewn rhai ardaloedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ond mae wedi wynebu dirywiad aruthrol.
Dechreuodd Prosiect Adfer Grugiar Ddu yr RSPB yn y 1990au, gan weithio ochr yn ochr â thirfeddianwyr a chymunedau lleol i helpu i adfer cynefin y Grugiar Ddu.
Fel rhan o’r prosiect, bob gwanwyn, mae’r RSPB ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a Thirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn mentro i rostir Gogledd Cymru yn y bore bach i chwilio am y Grugiar Ddu sy’n paru. Mae’r arolygon hollbwysig hyn i ‘Gyfri’r Grugiar Ddu’ yn helpu i amcangyfrif niferoedd yr aderyn trawiadol hwn, sydd hefyd yn gostwng.
Mae eleni’n arbennig. Rydyn ni wedi recriwtio tîm o wirfoddolwyr ychwanegol i gymryd rhan yn yr arolygon hollbwysig hyn, diolch i’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau!
Mae Cymru yn gartref i’r mwyafrif o Frain Coesgoch yn y DU (79%). Mae angen glaswelltir byr, wedi'i bori ar Frain Coesgoch, lle maen nhw’n cloddio am infertebratau yn y pridd. Mae'r cynefin hwn yn prinhau, yn bennaf oherwydd newidiadau mewn defnydd tir a gorchudd tir.
Mae Rhaglen Adfer Brain Coesgoch Gogledd-orllewin Cymru yn gweithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid i adfer a chadw’r cynefin hanfodol hwn. Mae cyfrif a monitro'r boblogaeth adar hefyd yn bwysig i sefydlu lefel sylfaenol poblogaethau bridio sy’n bodoli’n barod ac i ddeall tueddiadau cyfredol a pharhaus. Mae SVN yn cefnogi'r prosiect hwn drwy adeiladu rhwydwaith o wirfoddolwyr i wneud gwaith arolygu, fel cyfrif adar, canfod nythod, monitro a gwarchod.
Mae’r Frân Goesgoch hefyd yn rhywogaeth darged ar gyfer Natur am Byth, rhaglen gadwraeth genedlaethol ar gyfer rhywogaethau yng Nghymru, y mae SVN hefyd yn ei chefnogi.
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli ac yr hoffech chi gymryd rhan mewn prosiectau adfer rhywogaethau neu unrhyw rolau gwirfoddoli eraill, ewch i dudalen Cyfleoedd Gwirfoddoli’r RSPB.
Os na allwch chi ddod o hyd i'r math o rôl wirfoddoli rydych chi'n chwilio amdani o'n cyfleoedd a restrir, cysylltwch â ni fel y gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r rôl iawn i chi! Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol yn SpeciesVolunteerNetwork@rspb.org.uk.