
Days out
Frampton Marsh Frampton
This Lincolnshire nature reserve is a special place. Whichever season you visit, there's wildlife to watch and trails to tromp. Spy foraging Avocets, boxing Hares, and hunting Hen Harriers all at Frampton Marsh.
Mae’r RSPB yn dod â phobl fel chi at ei gilydd, i warchod y pethau sy’n bwysig i ni i gyd. I roi hwb i’n gilydd ac i roi hwb i fyd natur.
Mae croeso i bawb yn yr RSPB, ac mae cymaint o wahanol ffyrdd o gymryd rhan, gallwch chi wneud rhywbeth bach, rhywbeth mawr, neu rywbeth yn y canol rhwng y ddau. Gallwch chi ein helpu ni i roi’r neges ar led, neu dorchi eich llewys yn y warchodfa natur leol, cymryd rhan mewn gweithgaredd i godi arian, neu ymuno â grŵp RSPB lleol. Pa ffordd bynnag y byddwch chi’n dewis cymryd rhan, mae eich cyfraniad yn bwysig, a gyda’n gilydd gallwn ni gael effaith gadarnhaol ar fyd natur.
Fe wnawn ni eich helpu i ddarganfod pa mor hawdd yw gweithredu dros natur, cymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Gall fod mor hawdd â gwneud dim byd – a gadael i’ch lawnt dyfu’n wyllt dros y gwanwyn i fod yn hafan i flodau gwyllt a phryfed. Ond os oes arnoch awydd gwneud rhywbeth ychydig yn fwy, mae hynny’n newyddion gwych hefyd! Yn ogystal â hyn, fe wnawn ni eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu â natur, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith rydyn ni’n ei wneud i achub rhywogaethau a chynefinoedd.
Ymunwch â thîm o dros filiwn o bobl a chofrestrwch er mwyn cael newyddion am natur yn eich blwch derbyn bob pythefnos. Bob yn ail ddydd Sadwrn, byddwch chi’n derbyn neges ebost Notes on Nature – mae’r ebost poblogaidd hwn yn llawn straeon am lwyddiant, newyddion am yr hyn sy’n digwydd mewn gwarchodfeydd natur, ac awgrymiadau a chyngor defnyddiol.
Byddwch chi’n cael:
Rydych chi wedi gwneud eich rhan chi dros fyd natur drwy gofrestru i dderbyn negeseuon ebost Notes on Nature. Ond, os hoffech chi wneud mwy, mae nifer o wahanol ffyrdd o gychwyn arni. Mae pob math o wahanol bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu - mawr a bach. Beth bynnag fyddwch chi’n dewis ei wneud, byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth.
Mae natur yn adfywio, ac mae antur yn yr aer. Mae tymor nythu’r adar wedi cychwyn, mae adar mudol y gwanwyn wedi dychwelyd ac mae pawb yn mentro i’r awyr agored eto. Mae nifer rhyfeddol o 18,700 o rywogaethau wedi eu cofnodi yng ngwarchodfeydd yr RSPB. Ewch i’ch gwarchodfa leol er mwyn gweld natur yn ffynnu â’ch llygaid eich hun.
Mae gwarchodfeydd natur yn fwy na llefydd i ymweld â nhw yn unig, dyma ble mae ein gwaith i achub byd natur yn digwydd. Yn 1997, dim ond 11 Aderyn y Bwn gwrywaidd oedd yn y Deyrnas Unedig. Ond, drwy greu cynefin iddynt yn ein gwarchodfeydd natur, mae’r nifer hwnnw wedi codi, ac erbyn hyn mae dros 200 ohonynt.