Feature

Coetir Coffa Llyn Efyrnwy

Dathlwch achlysur arbennig neu gofio am eich anwylyd drwy blannu coeden yn Efyrnwy am Byth. Bydd plannu coeden frodorol hefyd yn ein helpu i warchod cynefinoedd a rhywogaethau rhyfeddol Llyn Efyrnwy.

A view through the treeline and across the lake.
On this page

Sut mae’n gweithio?

Mae’n costio £950. Mae hyn yn cynnwys coeden ar hyd y llwybr trawiadol i Bistyll Rhiwargor, ffens ddynodedig, tag llechen Gymreig wedi’i osod ar y goeden, a chofrodd llechen Gymreig i’w gadw.

Rydym yma i helpu

Mae croeso i chi fod yno i weld eich coeden yn cael ei phlannu.

I gael am ragor o wybodaeth ac i drafod pa goeden goffa sy’n addas i chi, cysylltwch ag Anya Hickman: vyrnwyforever@rspb.org.uk

Bydd Anya yn eich helpu i ddod o hyd i’r goeden o’ch dewis, ac yn trafod y trefniadau ar gyfer plannu’r goeden gyda chi. 

Efyrnwy am Byth – Vyrnwy Forever

Lleolir Coetir Coffa Llyn Efyrnwy ger y llwybr trawiadol i Bistyll Rhiwargor ym mherfeddion Mynyddoedd y Berwyn. Yn ogystal â bod yn hafan i fywyd gwyllt, mae’r gronfa ddŵr dawel hon yn lle arbennig i lawer.

Yn ogystal â dathlu bywyd neu achlysur, mae plannu coed yma yn rhan o’r broses o adfer cynefinoedd, achub rhywogaethau a diogelu dyfodol yr hinsawdd yn Llyn Efyrnwy.

Mae’n gyfle i chi ddod yn rhan o etifeddiaeth amgylcheddol barhaol a datblygu perthynas arbennig â’r dirwedd hardd hon.

The moon rising over Lake Vyrnwy

Dewiswch eich coeden berffaith

Dewiswch o blith ein casgliad o goed brodorol hardd, sy’n cynnwys: Coeden Afal Surion, Bedwen Lwyd, Draenen Wen, Oestrwydden, Pisgwydden Dail Mawr, Derwen Ddigoes a Cheiriosen Ddu. Cewch gymorth i ddewis y goeden gywir ar gyfer eich lleoliad.

Gosodir eich tag llechen Gymreig, ynghyd â’ch neges bersonol, ar y rheilen a fydd yn gwarchod eich coeden. Cewch hefyd gofrodd llechen Gymreig i’w gadw, gyda chyfeirnod grid unigryw’r goeden arni.

Darllenwch y cwestiynau cyffredin
  1. Cwestiynau cyffredin
A waterfall surrounded by autumnal trees
RSPB Lake Vyrnwy Nature Reserve
Neges i’ch anwylyd

Yn ogystal â phlannu coeden, gallwch hefyd roi neges a rhannu atgofion a ffotograffau o adegau hapus ger Llyn Efyrnwy ar ein tudalen teyrngedau.

More RSPB memorial woodlands

Our other memorial woodland sites are: Haweswater in the Lake District, and Dove Stone in the Peak District

Share this article