Defnyddio cofnodion bywyd gwyllt i achub byd natur
Dewch i gwrdd â Mark, rhywun sy’n frwd dros fyd natur ac sydd wedi cynorthwyo i warchod dros 50 o rywogaethau sy’n flaenoriaeth rhag datblygiadau.

On this page
“Pan laniodd taflen sgleiniog ar garreg y drws, yn darlunio fy hoff safle bywyd gwyllt wedi’i fritho â dwsinau o dai a ffyrdd, fe ddrylliwyd fy myd. Roedd yr hyn na allwn fyth ei ddychmygu wedi digwydd: roedd y safle wedi’i dargedu ar gyfer datblygiad tai mawr.”
Drwy gydol ei oes, roedd Mark wedi bod yn adarwr a oedd yn frwd dros fyd natur, ac roedd wedi bod yn cofnodi’r rhywogaethau ar y safle hwn ers wyth mlynedd. Roedd y clytwaith o dir fferm, perthi a phrysgwydd a oedd yn cydffinio â’i ardd bellach dan fygythiad.
Canolbwyntio ar faterion o bwys
“Nid oedd y rhan fwyaf o’r rhywogaethau roeddwn i’n gwybod eu bod yn bresennol, hyd yn oed grwpiau cyfan o ieir bach yr haf a gwyfynod, yn ymddangos yn yr arolygon a wnaed. Roedden nhw hyd yn oed yn awgrymu y byddai mwy o fywyd gwyllt ar y safle ar ôl ei ddatblygu. Roeddwn i’n gwybod am fwy na 1,000 o rywogaethau gwahanol a oedd yn defnyddio’r ardal, felly roedd hi’n bryd imi sicrhau bod fy nghofnodion yn cyfrif a mynd ati i lenwi bylchau â gwybodaeth hollbwysig.”
I gael eu cynnwys mewn chwiliadau yn ystod y broses gynllunio, mae angen i gofnodion fod yn y mannau cywir ac yn y fformat cywir. Yn yr un modd â chofnodion llawer o bobl sy’n frwd dros fywyd gwyllt, roedd cofnodion Mark wedi’u nodi mewn llawysgrifen mewn detholiad o ddyddiaduron maes.
”Roedd gen i filoedd o gofnodion natur ynghylch yr hyn roeddwn i wedi’i weld bob wythnos, bob mis a bob tymor dros gyfnod o wyth mlynedd. Roeddwn i’n gwybod sut yr oedd Moch Daear (yr oeddwn i’n eu hadnabod yn unigol) yn defnyddio’r ardal, ymhle’r oedd adar yn nythu ac yn bwydo, a pha bryfed oedd i’w cael yno a phryd.”
Sylweddolodd Mark yn gyflym fod angen iddo gyflwyno’i ddata i’r broses gynllunio ar fyrder. Yn bwysicaf oll, roedd yn gwybod mai’r peth gorau i’w wneud oedd canolbwyntio ar adar sydd ar y Rhestrau Coch ac Oren a rhywogaethau eraill sy’n flaenoriaeth y mae’r drefn gynllunio’n rhoi pwysau iddynt. Roedd ganddo gofnodion am oddeutu 50 o rywogaethau sy’n flaenoriaeth ar y safle, gan gynnwys ieir bach yr haf, mamaliaid, blodau gwyllt, gwyfynod ac adar, ac roedd hi’n bryd iddo wneud i’r cofnodion hynny gyfrif.

Sut i wneud i’ch cofnodion gyfrif
Ac yntau wedi bod yn gweithio’n broffesiynol ym maes cadwraeth am 25 mlynedd, roedd yn wybyddus bod cofnodion Mark yn ddibynadwy. Roedd wedi cyflwyno llawer ohonynt i gofnodwyr sirol a chynlluniau cofnodi ond, ym maes cynllunio, rhaid eu bod wedi’u cyflwyno i’r Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol (LERC). Mae’r cofnodion a geir yn y canolfannau hyn ar gael i ddatblygwyr ac ecolegwyr eu gweld a’u defnyddio.
Dewch o hyd i’ch canolfan chi drwy fynd i https://www.alerc.org.uk
“Ar ôl cysylltu â’r Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol i gael cyngor, fe dreuliais i wythnosau’n trosglwyddo fy nghofnodion i’w thaenlenni cofnodi. Byddwn i’n eich annog i gyflwyno’ch cofnodion ar unwaith (neu o leiaf unwaith y flwyddyn), ac mae’n hollbwysig eich bod yn rhoi cyfeirnod grid cywir ar gyfer pob cofnod.”
Canfu Mark fod yr ap iRecord yn offeryn defnyddiol arall. Drwy ddefnyddio’r ap, gellir cyflwyno cofnodion mewn fformat digidol hygyrch, a’u hychwanegu at fapiau dosbarthiad rhywogaethau. Gall arbenigwyr eu ‘gwirhau’ ac maent ar gael i unrhyw un eu gweld a’u hidlo. Mae llawer o’r cofnodion sy’n dod i law’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol yn cael eu cyflwyno drwy ap iRecord.
“Gyda chymorth ap symudol iRecord, fe allaf i fewnbynnu fy nghofnodion yn y fan a’r lle mewn ychydig eiliadau, ac maen nhw’n barod i gynorthwyo â materion cynllunio a fydd yn codi yn y dyfodol.”

Y camau nesaf
Gan ddefnyddio ei gofnodion helaeth a’i wybodaeth am fywyd gwyllt yr ardal, ysgrifennodd Mark Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer ei ardal, ynghyd ag adran bywyd gwyllt y Cynllun Bro.
“Mae llawer o gynghorau plwyf yn falch o gael gwybodaeth arbenigol am fywyd gwyllt, felly cysylltwch â’ch cyngor plwyf chi. Roedd fy un i wedi’i synnu o wybod cymaint o fywyd gwyllt sydd ar gael yn y plwyf.”
Mae i’r stori hon ddiweddglo hapus! Heb fod yn hir ar ôl ysgrifennu’r astudiaeth achos hon, cafodd Mark newyddion da iawn fod y cais cynllunio wedi’i dynnu’n ôl.
“Roedd yr holl ymdrech wedi talu ffordd, a does dim amheuaeth y bydd bywyd gwyllt yn cael lle blaenllaw ym meddyliau llawer mwy o bobl.”
All the effort had been worthwhile and there is no doubt that wildlife will be at the forefront of many more people’s minds.”