Advice
December's birds of the month
Five winter wonders to discover this festive season.
Un o’r camau mwyaf arwyddocaol y gallwch ei gymryd i ddiogelu’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas yw ei gofnodi.

Os yw cofnodi’n beth newydd i chi, gall amrywiaeth anhygoel bywyd gwyllt y DU fod ychydig yn frawychus, yn enwedig o ran ceisio adnabod yr hyn rydych chi wedi’i weld. Ond mae llawer o ffyrdd i chi allu cael cymorth. Mae cannoedd o gymdeithasau hanes naturiol a grwpiau cofnodi y gallwch ymuno â nhw, gan gynnwys llawer o grwpiau sy'n weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gallwch gael help i adnabod rhywogaethau gan ddefnyddio rhai o'r adnoddau ar-lein a restrir isod.
Gallwch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â’ch Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol (LERC). Mae LERC yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gasglu cofnodion bywyd gwyllt at ei gilydd a sicrhau eu bod yn cael eu bwydo i’r broses gynllunio, felly mae’n werth gwneud yn siŵr bod eich cofnodion yn cyrraedd y ganolfan LERC berthnasol mewn fformat priodol. Byddant yn hapus iawn i helpu gyda chwestiynau am gofnodi bywyd gwyllt a dylent hefyd allu eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau a chymdeithasau lleol.
Gallwch weld pa LERC sy’n berthnasol i ran benodol o’r DU drwy ddefnyddio adnodd canfod LERC yn alerc.org.uk. Bydd pob LERC yn gallu rhoi cyngor ar y ffordd sydd orau ganddynt o ran derbyn cofnodion, a fydd yn aml yn cynnwys defnyddio un o’r systemau ar-lein a nodir isod. Fodd bynnag, ni fydd pob LERC yn mynd ati i gasglu cofnodion o’r systemau hyn, felly mae’n werth gofyn a ydyn nhw’n gwneud hynny, a threfnu i anfon eich data atyn nhw ar wahân os oes angen.
Os ydy cofnodi yn beth newydd i chi, mae iNaturalist yn wefan ac yn ap hawdd ei ddefnyddio sy’n eich helpu i adnabod ac yn eich galluogi i ymgysylltu â chymuned enfawr o gofnodwyr bywyd gwyllt o bob cwr o’r byd. Tynnwch luniau o’r bywyd gwyllt rydych chi’n ei weld, eu llwytho i fyny i iNaturalist ynghyd ag ychydig o fanylion am pryd a ble wnaethoch chi dynnu’r llun, a byddwch yn cael awgrymiadau ynghylch adnabod ar sail adnabod delweddau awtomatig. Mae’r rhain fel arfer yn hynod gywir, ond weithiau bydd iNaturalist yn awgrymu rhywogaeth sydd ond yn digwydd mewn rhan arall o’r byd, felly mae’n werth gwneud archwiliad cyflym a diwygio’r dull adnabod os oes angen.
Ar ôl i gofnod gael ei ychwanegu at iNaturalist, mae ar gael i'w adolygu gan gymuned iNaturalist, sy’n gallu cadarnhau neu wella’r manylion adnabod cychwynnol – felly peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod beth rydych chi wedi’i weld, bydd rhywun yn siŵr o allu eich helpu cyn bo hir.
Un o nodweddion difyr iNaturalist yw’r opsiwn i sefydlu prosiectau bywyd gwyllt i ddod ag arsylwadau bywyd gwyllt at ei gilydd ar gyfer lle penodol, er mwyn i chi allu gweld beth arall sy’n cael ei ganfod ar eich hoff safleoedd. Mae hefyd yn cynnwys ap hawdd ei ddefnyddio, ac os byddwch chi’n ei ddefnyddio i gofnodi’r hyn rydych chi’n ei weld, bydd yn cofnodi’r amser a’r lleoliad ar eich cyfer yn awtomatig.
Unwaith y bydd gan gofnod ar iNaturalist ddau neu fwy o bobl yn cytuno ar ei adnabod, caiff ei nodi fel ‘gradd ymchwil’ ac yna bydd ar gael drwy iRecord i Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol a chynlluniau cofnodi cenedlaethol.

Efallai y byddai’n well gan gofnodwyr mwy profiadol a’r rhai sydd â llawer o gofnodion ddefnyddio’r system iRecord fel ffordd gyflymach o gofnodi yr hyn a welwyd gennych lle rydych chi’n hyderus y byddant yn cael eu hadnabod. Gan ddefnyddio naill ai gwefan neu ap symudol iRecord, gallwch gofnodi’n gyflym yr holl fywyd gwyllt rydych chi’n dod o hyd iddo a sicrhau bod eich cofnodion ar gael yn syth i rwydwaith o ddilyswyr arbenigol. Yn wahanol i iNaturalist, nid oes angen llun ar gyfer pob cofnod, er y bydd yn helpu dilyswyr os byddwch yn darparu un, yn enwedig ar gyfer rhywogaethau anarferol neu anodd eu hadnabod.
Rhoi cofnodion ar iRecord yw’r ffordd orau o sicrhau eu bod ar gael i’r set ehangaf bosibl o bobl, a hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu dilysu ar unwaith, cânt eu storio’n ddiogel i’w defnyddio yn y dyfodol. Mewn ffordd debyg i brosiectau ar iNaturalist, gallwch sefydlu neu ymuno â ‘gweithgareddau’ i ddod â chofnodion ar gyfer lle neu set benodol o rywogaethau at ei gilydd. Mae hefyd yn hawdd iawn allgludo eich cofnodion i daenlen os oes angen i chi rannu eich data ag unrhyw un nad yw’n defnyddio iRecord.

Mae BirdTrack yn wefan ac yn ap sydd wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer cofnodi adar. Gallai hwn fod yn ddewis da os ydych chi’n cofnodi adar yn bennaf ac yn hyderus ac yn hyderus ynghylch adnabod adar. Gallwch naill ai ychwanegu cofnodion unigol neu ‘restr gyflawn’ o’r holl adar rydych chi’n eu gweld ar ymweliad â safle; mae’r olaf yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer creu darlun o’r gymuned o adar sy’n defnyddio’r safle, a sut mae hyn yn newid dros amser. Drwy gyflwyno rhestrau cyflawn, byddwch hefyd yn helpu gwyddonwyr cadwraeth i greu darlun o sut mae poblogaethau a dosbarthiad rhywogaethau yn newid dros amser, ac i nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil.
Mae Swift Mapper yn wefan ac ap hawdd ei ddefnyddio arall, a ddyluniwyd yn benodol i gasglu cofnodion o Wenoliaid Duon sy’n bridio ledled y DU. Yn ogystal â chofnodi gweld Gwenoliaid Duon sy’n nythu, gallwch hefyd gofnodi lleoliadau blychau nythu Gwenoliaid Duon a ‘chriwiau sy’n sgrechian’ o Wenoliaid Duon sy’n hedfan ar uchder y to gan ddangos eu bod yn nythu gerllaw. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy Swift Mapper ar gael yn rhad ac am ddim i bawb, gan gynnwys cynllunwyr awdurdodau lleol, datblygwyr ac unigolion neu grwpiau sydd eisiau helpu eu Gwenoliaid Duon lleol. Mae mapio Gwenoliaid Duon sy’n bridio yn helpu i bennu lle mae angen gwarchod safleoedd nythu gweithredol, a lle byddai’n well darparu cyfleoedd nythu newydd ar gyfer Gwenoliaid Duon – po agosaf yw’r safleoedd nythu newydd posibl i’r nythod presennol o Wenoliaid Duon, y mwyaf yw’r siawns y byddant yn cael eu defnyddio.

Pa bynnag ddull rydych chi’n ei ddewis i gofnodi’r bywyd gwyllt rydych chi’n ei weld, mae ychydig o ganllawiau i’w cofio.

Gall rhai rhywogaethau hefyd fod â nwy o bwysau fel rhan o’r broses gynllunio, naill ai oherwydd eu bod wedi cael mwy o warchodaeth dan deddfau gwarchod bywyd gwyllt y DU (mae ychydig o rywogaethau a restrir ar Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar yr UE hefyd yn cael gwarchodaeth ychwanegol dan ddeddfau ar wahân yn y DU) neu oherwydd eu bod yn cael eu cydnabod fel rhywogaethau sy’n peri pryder cadwraeth (fel adar ar y Rhestr Goch a’r Rhestr Oren dan yr Adar o Bryder Cadwriaethol neu rywogaethau blaenoriaeth genedlaethol). Mae’n gwneud synnwyr mai cofnodi’r rhain yw’r flaenoriaeth uchaf. Mae gan lawer o ardaloedd hefyd rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth leol, felly mae’n werth gwirio'r rhain gyda’ch LERC.