Os ydych chi’n adolygu adroddiad cwmpasu AEA, gwnewch yn siŵr ei fod wedi nodi’r holl fywyd gwyllt pwysig rydych chi’n gwybod sy’n bresennol ar y safle neu yn yr ardal gyfagos. Er enghraifft:
- A yw’r adroddiad cwmpasu yn nodi’r holl safleoedd gwarchodedig (fel safleoedd bywyd gwyllt lleol neu safleoedd sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) yn yr ardal y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arnynt?
- A yw’r holl rywogaethau pwysig sy’n defnyddio’r safle neu’r ardal gyfagos wedi cael eu nodi ar gyfer asesiad effaith? (bydd ein canllaw Cofnodi Bywyd Gwyllt yn rhoi syniad i chi o ba rywogaethau sy’n debygol o gario’r pwysau mwyaf – gweler y ddolen ar y diwedd)
- A yw amseriad a dulliau unrhyw arolygon arfaethedig yn addas ar gyfer y rhywogaethau rydych chi’n gwybod eu bod yn bresennol, ee sicrhau bod arolygon yn ystod y gaeaf yn cael eu cynnig os ydych chi’n gwybod bod y safle’n bwysig ar gyfer adar sy’n gaeafu.
- A yw’r holl ffynonellau data presennol rydych chi’n gwybod amdanynt wedi cael eu nodi? Os ydych chi wedi casglu unrhyw gofnodion bywyd gwyllt eich hun a allai fod yn berthnasol, mae bob amser yn well sicrhau bod y rhain ar gael i’r ymgeisydd neu i’w hymgynghorwyr cyn gynted â phosib yn y broses – gallwch bob amser gytuno ar delerau ar gyfer defnyddio’r data.
Os ydych chi’n adolygu’r Datganiad Amgylcheddol (DA) terfynol, dylech ailedrych ar y pwyntiau uchod, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi gwneud sylwadau ar unrhyw un o’r rhain yn ystod y cam cwmpasu. Yn ogystal, efallai yr hoffech ystyried y canlynol:
- A yw’r DA wedi asesu’n drylwyr yr holl effeithiau posibl a allai godi yn ystod y gwaith adeiladu a defnydd / gweithredu’r datblygiad newydd yn y tymor hwy? Er enghraifft, os yw’r datblygiad arfaethedig ar gyfer tai newydd, a yw’r adroddiad wedi cynnwys asesiad o’r ‘effeithiau anuniongyrchol’ sy’n deillio o bobl sy’n byw yn y tai newydd, fel aflonyddwch hamdden ar safleoedd bywyd gwyllt cyfagos?
- Yn eich barn chi, a yw graddfa ddisgwyliedig yr effeithiau tebygol yn cael ei hasesu’n briodol (ar sail eich gwybodaeth neu, yn well fyth, waith ymchwil rydych chi’n ymwybodol ohono) ac a yw’r asesiad yn ddigon rhagofalus lle mae’n anoddach rhagweld effeithiau (er enghraifft, lle mae gwaith ymchwil cyhoeddedig i ddangos ymatebion ymddygiadol tebygol y rhywogaethau dan sylw yn ddiffygiol)?
- Pan fo mesurau lliniaru neu ddigolledu yn cael eu cynnig i warchod bywyd gwyllt neu fuddiannau eraill, a yw’r rhain yn briodol ac yn debygol o fod yn effeithiol ar sail eich gwybodaeth leol am y rhywogaethau neu’r cynefinoedd dan sylw (neu ar sail profiad o fannau eraill)? Os oes angen monitro neu reoli tymor hir, a yw’n glir pwy fydd yn gwneud hyn, am ba hyd, a sut y caiff ei sicrhau a’i ariannu?
Os ydych chi’n ansicr ynghylch casgliadau DA ar fywyd gwyllt, gallwch bob amser ofyn am gyngor gan arbenigwr bywyd gwyllt lleol (ee canghennau lleol yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt neu’r Gymdeithas Mamaliaid, y mae’n bosibl bod yr ACLl wedi ymgynghori â rhai ohonynt eisoes ynghylch y datblygiad) a allai helpu i gadarnhau neu leddfu eich pryderon. Fodd bynnag, cofiwch mai amser ac adnoddau cyfyngedig sydd gan y sefydliadau hyn yn aml, felly mae’n well gofyn cwestiynau penodol iddynt yn hytrach na gofyn iddynt ddarllen penodau cyfan o’r DA neu ddogfennau cysylltiedig eraill.
Yn olaf, os ydych chi’n meddwl bod unrhyw ran o’r AEA yn annigonol – gwrthwynebwch! Gwnewch yn glir yn eich gwrthwynebiad pam eich bod yn teimlo nad yw’r asesiad yn addas i’r diben a’i anfon at yr ACLl cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad. Os bydd yr ACLl yn cytuno, efallai y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth i fodloni gofynion Rheoliadau’r AEA, a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses ymgeisio.