Feature

Cynllunio morol: rheoli datblygiadau yn ein moroedd a’n harfordiroedd

y dudalen hon, byddwn yn egluro sut mae’r broses yn gweithio a sut gallwch chi gymryd rhan.

A pair of Gannets on the edge of a cliff next to the sea.
On this page

Last updated: 2 July 2025

Mae gan gynllunio morol ei system a’i fframwaith ei hun, er ei fod yn debyg iawn i gynllunio gwlad a thref.

Beth yw cynllunio morol?

Mae cynllunio morol yn golygu rheoli gweithgareddau o fewn moroedd ac o amgylch arfordiroedd. Yng Nghymru a Lloegr, fe’i cyflwynwyd gan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Daeth yr angen am gynllunio morol i’r amlwg wrth i’n moroedd ddod yn fwyfwy prysur, gyda gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd ar y gofod o ran gweithgareddau morol a mesurau diogelu. Sefydlwyd cynllunio morol i reoli’r defnydd o’n moroedd yn y ffordd fwyaf cynaliadwy.

Edrychwch ar yr animeiddiad byr hwn i gael trosolwg syml o beth yw cynllunio morol.

Beth yw cynlluniau morol?

Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lunio cynllun morol ar gyfer eu hardaloedd. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer cynllunio morol yng Nghymru. Cyhoeddwyd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn 2019 gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cwmpasu’r glannau (allan hyd at 12 milltir forol) a’r ardaloedd ar y môr (12 i 200 milltir forol). Mae gan gynlluniau morol olwg tymor hir (20 mlynedd) o weithgareddau ac maent yn cael eu hadolygu bob tair blynedd.

Amlinellir gwahanol gamau a gofynion y broses cynllunio morol yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru (Atodiad 1, tudalen 156) ac Atodlen 6 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Datganiad Polisi Morol y DU (MPS) yw’r fframwaith ar gyfer paratoi cynlluniau morol a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar yr amgylchedd morol. Mabwysiadwyd yr MPS ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban ac Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon yn 2011. Mae’r MPS a’r cynlluniau morol yn ffurfio system sy’n seiliedig ar gynlluniau ar gyfer gweithgareddau morol, mewn ffordd debyg i’r hyn y mae Polisi Cynllunio Cymru a chynlluniau datblygu lleol yn ei wneud ar gyfer datblygiadau ar y tir.

Mae’n rhaid i gynlluniau morol ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys ardaloedd gwarchodedig morol a dyletswyddau ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ‘statws amgylcheddol da’, fel y nodir yn Strategaeth Forol y DU.

Chough standing on cliff top
Chough
Cyngor gorau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyfres o weminarau sy’n ymdrin â phob agwedd ar gynllunio morol a Chynllun Cenedlaethol Morol Cymru – gwyliwch nhw yma.

Beth mae cynllun morol yn ei wneud?

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cynlluniau a pholisïau sy’n ceisio:

  • Cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer moroedd glân, iach, diogel ac amrywiol
  • Arwain datblygu cynaliadwy yn y dyfodol
  • Cefnogi twf gofod morol ac adnoddau naturiol (‘twf glas’)

 

Gall cynlluniau morol hefyd annog cymunedau lleol i gymryd rhan mewn cynllunio, sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ystyried o’r dechrau ac annog datblygiadau sy’n ystyriol o natur. Gallant hefyd arwain at fanteision economaidd drwy fanteisio i’r eithaf ar dwf a chyfleoedd gwaith.

Dylid hefyd ystyried Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tir – edrychwch ar y ffeithlun hwn gan Lywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Pa mor aml mae cynlluniau morol yn cael eu hadolygu?

Gan fod cynlluniau morol yn gynlluniau 20 mlynedd, mae’n bwysig eu bod yn cael eu hasesu’n rheolaidd. Rhaid i Lywodraeth Cymru fonitro ac adolygu ei Chynllun o leiaf bob tair blynedd; maent yn gwirio bod polisïau’n dal i fod yn effeithiol, a bod cynnydd yn cael ei wneud i gyflawni amcanion y cynllun a’r Datganiad Polisi Morol. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi adroddiad bob chwe blynedd o leiaf (tan 1 Ionawr 2030) ar baratoi, mabwysiadu a diwygio’r Cynllun.

Sut alla i gymryd rhan mewn cynllunio morol?

Yr amser gorau i gyfrannu at gynllunio morol yw yn ystod y cam paratoi ac adolygu cynlluniau morol. Cafodd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ei gyhoeddi yn 2019, felly’r cyfle nesaf i ymgysylltu â phroses y cynllun fydd pan fydd yn cael ei adolygu neu ei ddiwygio. Ar y pwynt hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn llunio Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd (SPP), a fydd yn nodi sut y byddant yn cynnwys y cyhoedd yn y broses adolygu. Gallwch weld yr SPP ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yma.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i ymgysylltu, cysylltwch â’r tîm Cynllunio Morol yn marineplanning@gov.wales.

Gulls at sea
Cyngor gorau

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, gallwch danysgrifio i gylchlythyr cynllunio morol y Llywodraeth neu ei weld ar-lein yma.

Share this article