Gall cynigion datblygu fod yn fygythiad difrifol i goetir hynafol, coed hynafol a choed hynod, a’r bywyd gwyllt maen nhw’n ei gefnogi. Gall effeithiau datblygu fod yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Mae Polisi Cynllunio Cymru (paragraff 6.4.43, tudalen 159) yn datgan bod coetir hynafol, coed hynafol a choed hynod “yn cael eu gwarchod rhag datblygiadau a fyddai’n arwain at eu colli neu eu dirywio, oni bai bod manteision sylweddol a chlir iawn i’r cyhoedd; rhaid i’r warchodaeth hon atal gweithrediadau a allai fod yn niweidiol i goed, a cholli coed yn ddiangen”.
Un enghraifft o amgylchiadau eithriadol fyddai prosiect seilwaith yr ystyrir ei fod o fudd i’r cyhoedd sy’n ddigon sylweddol i wrthbwyso colli neu ddirywiad y cynefin.
Y man cychwyn ar gyfer unrhyw gynnig datblygu yw nodi ffyrdd o osgoi effeithiau niweidiol ar goetir hynafol neu goed hynafol a hynod, fel chwilio am safleoedd amgen neu ail-ddylunio’r cynllun. Y cam nesaf wedyn yw lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau na ellir eu hosgoi, ac fel dewis olaf dylid defnyddio digolledu i wrthbwyso unrhyw effeithiau sy’n weddill nad oes modd eu hosgoi.
Yr hierarchaeth lliniaru yw’r enw ar y dull ‘osgoi, lliniaru, digolledu’ hwn.
Os bydd awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio sy’n arwain at golli neu ddirywiad cynefin (pan arddangosir rhesymau eithriadol), dylent ddefnyddio’r hierarchaeth lliniaru i osgoi niwed sylweddol i fioamrywiaeth.