Feature

Ar ôl y penderfyniad: apeliadau a heriau cyfreithiol

Fan hyn, byddwn yn trafod pryd y gellir gwneud apêl cynllunio a sut y gallwch gymryd rhan yn y broses.

A lone Common Buzzard perched on lichen covered rock
On this page

Last updated: 2 July 2025

Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio

I gymuned leol, mae gwrthod cais cynllunio ar gyfer datblygiad a allai fod yn niweidiol yn aml yn achos dathlu. Fodd bynnag, efallai nad yw’r frwydr wedi dod i ben eto gan fod gan yr ymgeisydd hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os bydd awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y gwrthodiad hwnnw. Gall yr ymgeisydd hefyd apelio yn erbyn amodau a osodir ar ganiatâd cynllunio, os nad yw’n fodlon arnynt, neu os nad yw’r ACLl yn gwneud penderfyniad ar gais cynllunio o fewn y cyfnod penderfynu statudol (fel arfer wyth neu 13 wythnos, yn dibynnu ar y math o gais).

Rhaid i apeliadau gael eu gwneud o fewn chwe mis i’r penderfyniad (neu o fewn 12 wythnos os yw’n ymwneud â chais deiliad tŷ neu gais masnachol bach).

Mae hawl hefyd i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio eraill, gan gynnwys caniatâd hysbysebu, caniatâd adeilad rhestredig a hysbysiadau gorfodi cynllunio. Bydd cyfnodau gwahanol ar gyfer apelio yn berthnasol, yn dibynnu ar y math o benderfyniad cynllunio.

A all partïon sydd â diddordeb apelio?

Yng Nghymru a Lloegr, ni all partïon sydd â diddordeb (a elwir hefyd yn ‘drydydd partïon’), fel y cyhoedd, apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio. Gallant ond gymryd rhan mewn apêl ymgeisydd yn erbyn gwrthod cais cynllunio.

Pwy sy’n penderfynu ar yr apêl?

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn delio ag apeliadau ar ran Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i benderfynu ar apêl yn lle PCAC – gelwir hyn yn apêl a adferir – ond dim ond mewn canran fach iawn o achosion y mae’n gwneud hynny, sy’n tueddu i fod yn gynigion datblygu mawr neu ddadleuol iawn.

Yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n penderfynu ar Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn Lloegr.

Beth yw’r gwahanol fathau o apeliadau?

Ceir tri math o weithdrefn apêl: sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau ac ymchwiliadau.

Sylwadau ysgrifenedig

Mae’r rhan fwyaf o apeliadau cynllunio yn cael eu penderfynu gan y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig. Gyda’r weithdrefn hon, mae’r Arolygydd yn ystyried tystiolaeth ysgrifenedig gan yr apelydd (y sawl sy’n gwneud yr apêl), yr ACLl ac unrhyw un arall sydd â diddordeb, a bydd hefyd yn ymweld â safle’r apêl.

Gwrandawiadau

Mae PCAC yn cynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb, gyda chyfranogwyr yn bresennol yn gorfforol mewn lleoliad (ee swyddfa’r cyngor neu neuadd y dref), neu’n ‘rhithwir’ lle mae cyfranogwyr yn cysylltu o bell â chynhadledd fideo ar-lein.

Mae gwrandawiad yn drafodaeth bwrdd crwn dan arweiniad arolygydd cynllunio sy’n nodi’r materion i’w trafod ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd ac unrhyw sylwadau a wnaed. Rhaid i’r apelydd a’r ACLl anfon eu datganiadau achos at PCAC cyn cynnal y gwrandawiad. Cynhelir ymweliad safle fel rhan o broses y gwrandawiad.

Ymchwiliadau

Ymchwiliad yw’r mwyaf ffurfiol o’r gweithdrefnau apelio, gan ei fod fel arfer yn cynnwys apeliadau mwy neu fwy cymhleth. Mae’r rhain yn aml yn achosion lle mae tystiolaeth arbenigol yn cael ei chyflwyno, a thystion yn cael eu croesholi (cwestiynu). Gall ymchwiliad bara am sawl diwrnod, neu hyd yn oed wythnosau. Nid yw’n llys barn, ond bydd yr achos yn ymddangos yn eithaf tebyg i un yn aml, ac mae’r cyfranogwyr yn aml yn cael eu cynrychioli gan weithiwr cyfreithiol proffesiynol.

Beth yw dyfarniad costau?

Dyfarniad costau yw pan fo’n ofynnol i un parti mewn apêl (ee yr apelydd neu’r ACLl) dalu naill ai gostau llawn neu rannol parti arall. Dyfernir costau pan fydd un parti wedi ymddwyn yn afresymol, a bod yr ymddygiad afresymol wedi arwain yn uniongyrchol at y parti arall yn colli arian. Gallai enghreifftiau o ymddygiad afresymol gynnwys methu terfynau amser, cyflwyno rhesymau newydd dros wrthod neu seiliau newydd dros apelio yn hwyr yn ystod y broses, neu ddarparu gwybodaeth sy’n amlwg yn anwir neu’n anghywir. Fel arfer, dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y dyfernir costau. Ystyrir ceisiadau am gostau fel rhan o’r broses apelio.

A all partïon sydd â diddordeb gymryd rhan mewn apeliadau?

Ar ôl i PCAC dderbyn bod yr apêl yn ddilys, bydd yr ACLl yn hysbysu unrhyw berson a hysbyswyd neu yr ymgynghorwyd ag ef ynghylch y cais gwreiddiol, ac unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau ar y cais, fod apêl yn cael ei chynnal.

Mae gan bartïon sydd â diddordeb yr hawl i anfon sylwadau am apêl at PCAC, ni waeth a oeddent wedi gwneud sylwadau ar y cais o’r blaen ai peidio.

Mae gwrandawiadau ac ymchwiliadau’n agored i aelodau’r cyhoedd ac anogir pobl leol i gymryd rhan gan fod gwybodaeth a barn leol yn aml yn gallu bod yn ychwanegiad gwerthfawr at y dystiolaeth a roddir gan yr apelydd a’r ACLl. Fodd bynnag, rhaid i’r rheini sy’n dymuno cymryd rhan neu gael dweud eu dweud yn yr apêl (yn hytrach na dim ond arsylwi) fod wedi cofrestru eu diddordeb ymlaen llaw.

Nid oes unrhyw ofyniad i unrhyw un gael cynrychiolaeth gyfreithiol mewn ymchwiliad, ond fel arfer mae gan y prif bartïon eiriolwr sy’n eu cynrychioli (fel arfer cyfreithiwr neu fargyfreithiwr sy’n cyflwyno’r dystiolaeth ac yn croesholi tystion y parti sy’n gwrthwynebu).

Gall partïon sydd â diddordeb hefyd gymryd rhan mewn ymchwiliad ar gais cynllunio a elwir i mewn neu apêl a adferwyd (y ceisiadau / apeliadau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn cymryd drosodd gan yr ACLl / PCAC i ymdrin â hwy) yn yr un modd ag ar gyfer achosion apêl safonol.

Os byddai’n well gennych gyflwyno un sylw ysgrifenedig yn unig i apêl, ac nad ydych yn dymuno cymryd rhan weithredol yn y gwrandawiad neu ymchwiliad apêl, gallwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau cyntaf heb orfod cofrestru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu datganiad achos yr apelydd (a gyhoeddir ochr yn ochr â'r dogfennau cais eraill ar wefan yr ACLl) er mwyn deall eu rhesymau dros apelio yn erbyn eu penderfyniad cynllunio. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi eich ymateb.

Mae rhai mathau o apêl na chaniateir i drydydd partïon gymryd rhan ynddynt, ee caniatâd deiliad tŷ, caniatâd hysbysebu ac apeliadau masnachol bach. Yn yr achosion hyn, bydd sylwadau gan bartïon sydd â diddordeb a gyflwynir yn ystod y cam ymgeisio yn cael eu cyflwyno i’r Arolygydd gan yr ACLl ond ni fydd unrhyw sylwadau newydd yn cael eu hystyried.

A Water Vole sat on the edge of a river bank eating grass.
Water Vole
Cyngor gorau

Os ydych chi’n ystyried cymryd rhan mewn apêl, edrychwch ar y canllawiau hyn gan y Llywodraeth sy’n egluro sut gallwch chi gymryd rhan a lleisio eich barn.

Pa opsiynau eraill sydd ar gael i bartïon sydd â diddordeb?

Gall parti sydd â diddordeb ofyn am gymorth Ombwdsmon Cymru sy’n delio â chwynion am ymddygiad cyngor, fel peidio â dilyn gweithdrefnau cynllunio priodol. Fodd bynnag, nid yw’r Ombwdsmon yn delio â chwynion am fanylion neu rinweddau penodol cais cynllunio.

Heriau cyfreithiol i benderfyniadau cynllunio

Mae opsiynau ar gael i bartïon sydd â diddordeb herio penderfyniad arolygydd cynllunio neu ACLl yn gyfreithiol – a elwir yn heriau statudol neu’n adolygiadau barnwrol. Fodd bynnag, gall y prosesau cyfreithiol hyn ond ymdrin â’r ffordd y gwnaed penderfyniad, yn hytrach na manylion neu rinweddau’r cais cynllunio neu benderfyniad yr ACLl. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o fanylion am y prosesau hyn.

Beth yw her statudol?

Gellir herio penderfyniad apêl gan arolygydd cynllunio neu Weinidogion Cymru (a rhai mathau penodol iawn eraill o benderfyniad cynllunio) yn gyfreithiol o dan Adran 288 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Gall yr her statudol hon gael ei gwneud gan yr apelydd neu gan drydydd parti a all ddangos bod ganddynt ddigon o ddiddordeb ym mhenderfyniad yr apêl. Y sail ar gyfer yr her statudol hon yw bod camgymeriad difrifol neu ddiffyg gweithdrefnol wedi digwydd a arweiniodd at y penderfyniad a wnaed gan yr arolygydd neu Weinidogion Cymru.

Rhaid gwneud her statudol drwy wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos i ddyddiad y penderfyniad dan sylw (sef fel arfer y dyddiad y mae’r ACLl yn cyhoeddi’r hysbysiad penderfynu ar ei wefan).

Beth yw adolygiad barnwrol?

Gellir herio penderfyniadau cynllunio eraill, megis rhoi caniatâd cynllunio gan awdurdod cynllunio lleol, drwy adolygiad barnwrol. Fel gyda heriau statudol, mae’r broses hon yn golygu gwneud cais i’r Uchel Lys am ganiatâd i fwrw ymlaen ac fe’i cyfyngir hefyd i gamgymeriadau difrifol neu ddiffygion gweithdrefnol. I fod yn llwyddiannus, rhaid i adolygiad barnwrol ddangos bod y penderfyniad yn anghyfreithlon, yn afresymol, yn ddi-sail neu’n annheg ac (yn hollbwysig) os na wnaed hynny, mae siawns gref y byddai canlyniad gwahanol wedi bod i’r hawlydd (y sawl sy’n herio’r penderfyniad).

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw adolygiad barnwrol yn ail-edrych ar yr hyn sy’n iawn ac yn anghywir yn y penderfyniad (y ‘rhinweddau’), ond yn hytrach yn adolygiad o’r prosesau a’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad.

Yn arwyddocaol, adolygiad barnwrol yw’r unig ffordd y gall gwrthwynebydd trydydd parti herio rhoi caniatâd cynllunio gan ACLl.

Rhaid cychwyn adolygiad barnwrol o benderfyniad cynllunio drwy wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos i ddyddiad y penderfyniad dan sylw.

Fodd bynnag, cyn y gellir gwneud y cais hwnnw, mae adolygiad barnwrol yn ddarostyngedig i’r hyn a elwir yn brotocol cyn gweithredu. Mae hyn yn annog y sawl sy’n ystyried adolygiad barnwrol i gyflwyno ei gŵyn yn ysgrifenedig yn gyntaf i’r corff cyhoeddus dan sylw, gyda digon o amser ar gyfer ymateb cyn y terfyn amser o chwe wythnos. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r corff dan sylw egluro pam yr oedd ei benderfyniad yn gyfreithlon, neu i ddiwygio neu wrthdroi ei benderfyniad os yw’n cyfaddef bod camgymeriad wedi’i wneud. Mewn rhai achosion, mae hyn yn galluogi’r hawlydd i gyflawni ei amcanion heb wynebu costau cyfreithiol beichus.

Three Red Fox cubs stood on a rock with a green grass background.

Ac yn olaf, cofiwch...

Mae’r her statudol i benderfyniad apêl ac adolygiad barnwrol o benderfyniad cynllunio yn ddarostyngedig i weithdrefnau cyfreithiol llym. Argymhellir yn gryf y dylid cael cynrychiolaeth gyfreithiol ffurfiol. Mae achosion o’r fath fel arfer yn hir, yn cymryd llawer o amser ac yn gostus. O ganlyniad, mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n ystyried cymryd camau cyfreithiol o’r fath yn gofyn am gyngor proffesiynol ynghylch a yw’n debygol o fod yn werth chweil. O ystyried y terfynau amser byr iawn sy’n gysylltiedig, dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol o’r penderfyniad y gallech ddymuno ei herio.

Share this article