
Os oes gennych bryderon am gais am gymeradwyaeth ymlaen llaw neu hysbysiad blaenorol - ee os yw’r cais yn cam-gyfleu rhai ffeithiau neu elfennau hanfodol o’r datblygiad arfaethedig sy’n allweddol o ran penderfynu a fyddai’n cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir neu a fyddai angen caniatâd cynllunio arno - gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon sylwadau at y swyddog cynllunio cyn gynted â phosibl.
Mae gan rai ceisiadau am gymeradwyaeth ymlaen llaw gyfnodau penderfynu byrrach (ee 28 diwrnod) felly mae’n bwysig gweithredu’n gyflym!
