Feature

Y broses o wneud cais cynllunio: canllaw cam wrth gam

Dysgwch fwy am y camau sy’n rhan o’r broses o wneud cais cynllunio – o’r dechrau i’r diwedd

An Emperor Dragonfly sat on a single reed.
On this page

Last updated: 2 July 2025

Dyma bob cam y bydd cais cynllunio yn mynd drwyddo, o’r adeg y caiff ei gyflwyno gyntaf i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) hyd nes y gwneir penderfyniad.

1. Cyflwyno a dilysu

Cyflwynir ceisiadau cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl). Mae’r ACLl yn gwirio bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi’i darparu i’w alluogi i ddilysu’r cais. Ar ôl ei ddilysu, caiff y cais cynllunio ei gofnodi ar y gofrestr ar-lein.

Mae’r gofrestr gynllunio ar-lein ar gael ar dudalennau cynllunio gwefan yr ACLl ac mae’n eich galluogi i ganfod, gweld a gwneud sylwadau ar bob cais cynllunio. Gellir hefyd gosod rhybuddion i roi gwybod i chi am unrhyw geisiadau cynllunio yn eich ardal. Mae’r holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â chais cynllunio, gan gynnwys ymatebion i ymgynghoriadau gan sefydliadau perthnasol a sylwadau gan y gymuned leol, ar gael i’w gweld ar y gofrestr ar-lein.

2. Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori

Ar ôl i gais cynllunio gael ei ddilysu, mae angen rhoi cyhoeddusrwydd iddo. Mae angen i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r datblygiad arfaethedig a chael cyfle i fynegi eu barn.

Fel arfer, rhoddir gwybod i dirfeddianwyr neu feddianwyr eiddo sy’n gyfagos at safle’r cais, ond nid bob amser, am y cynnig yn ysgrifenedig, a gosodir hysbysiadau cais ar y safle (neu mor agos ato ag sy’n bosibl). Mewn rhai achosion, hysbysebir ceisiadau hefyd mewn papurau newydd lleol. Ar ôl cyhoeddi cais, ceir cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod lle gall aelodau o’r cyhoedd gyflwyno sylwadau ar y cais.

Bydd y cyngor cymuned neu dref hefyd yn cael ei hysbysu, ac efallai y bydd yr ACLl yn dymuno ymgynghori â phartïon eraill sydd â diddordeb. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ymgynghori â chyrff penodol cyn gwneud penderfyniad ar geisiadau penodol – mae’r rhain yn cael eu galw’n ymgyngoreion statudol. Er enghraifft, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymgynghorai statudol ar gyfer unrhyw gais a allai effeithio ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

A lone Swallow sat in the guttering of a roof singing.
Swallow
Cyngor gorau

Mae hysbysiadau cynllunio yn wasanaeth am ddim sy’n anfon hysbysiadau e-bost atoch am geisiadau cynllunio yn eich ardal leol. Gall hwn fod yn adnodd defnyddiol i’ch helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau arfaethedig a allai effeithio ar eich cymuned. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth yn cynnwys 241 awdurdod cynllunio ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda’r nod o wasanaethu’r DU gyfan.

Gall unrhyw un gyflwyno sylwadau ar gais cynllunio. Gall sylwadau wrthwynebu neu gefnogi cynnig, neu wneud sylwadau cyffredinol, gan ofyn efallai am ystyried rhai materion neu awgrymu sut y gellid gwneud y cynnig yn dderbyniol (ee drwy newid y dyluniad neu osod amodau cynllunio ar y caniatâd).

Gall gwrthwynebiadau dilys ar sail cynllunio nodi a thynnu sylw at faterion a allai fod yn rhesymau dros wrthod cais cynllunio. Gall sylwadau effeithiol annog yr ACLl i osod amodau sy’n gwneud y cynnig yn dderbyniol, er enghraifft drwy gynnwys mesurau i warchod bywyd gwyllt. Mae’n bwysig sicrhau bod sylwadau’n ymwneud â materion cynllunio (ee maint y cynnig, effaith ar rywogaethau a warchodir ac ati), yn hytrach na hoff neu gas bethau personol.

Harbour Seal poking its head out of the water looking up.
Harbour Seal
Cyngor gorau

Hyd yn oed os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer ymgynghori â chymdogion, efallai y bydd sylwadau’n dal i gael eu hystyried nes bydd y cais wedi’i benderfynu. Os oes gennych chi rywbeth perthnasol i’w ddweud am gais cynllunio, mae’n werth cyflwyno eich sylwadau i’r ACLl cyn gynted â phosibl.

3. Dyfarniad

Amserlenni

Y terfyn amser statudol ar gyfer penderfynu ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio yw wyth wythnos o ddyddiad y dilysu, neu 13 wythnos ar gyfer ceisiadau mawr. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae’n aml yn cymryd mwy o amser na hynny i’r ACLl benderfynu ar geisiadau (ee os oes angen mwy o amser i’r ymgeisydd fynd i’r afael ag unrhyw broblemau gyda’i gynnig). Mae opsiwn hefyd i’r ymgeisydd a’r ACLl gytuno’n ffurfiol ar gyfnod penderfynu hwy.

Y cynharaf y gellir penderfynu ar gais cynllunio yw ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol o 21 diwrnod ddod i ben.

Asesu

Dylai’r swyddog cynllunio asesu’r cynnig datblygu drwy:

  • Edrych yn bennaf ar y cynllun datblygu – ar gyfer beth y dyrennir y safle a beth yw’r polisïau perthnasol
  • Ystyried unrhyw ganllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol eraill
  • Cynnal ymweliad safle
  • Edrych ar yr effaith ar ddefnyddiau tir cyfagos a’r amgylchedd 
  • Ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio perthnasol (materion sy’n uniongyrchol berthnasol i’r cynnig)
  • Ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd o ganlyniad i’r broses ymgynghori 
  • Ystyried a oes ganddynt ddigon o wybodaeth i ystyried y cynnig yn llawn a gofyn am ragor o wybodaeth os na
  • Ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol yr ACLl, fel y Rheoliadau Cynefinoedd
  • Trafod unrhyw faterion gyda’r ymgeisydd

Argymhelliad a phenderfyniad

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu gan swyddogion cynllunio o dan bwerau dirprwyedig (sy’n golygu bod y pwerau gwneud penderfyniadau’n cael eu trosglwyddo iddynt gan y cynghorwyr etholedig). Mewn rhai sefyllfaoedd, megis pan fydd cais yn denu nifer fawr o wrthwynebiadau, bydd ceisiadau’n cael eu penderfynu gan bwyllgor cynllunio. Bydd gan bob ACLl ei gynllun dirprwyo a’i brotocolau ei hun ar gyfer penderfynu’n union sut y penderfynir ar ei geisiadau cynllunio. Dylai’r cynllun dirprwyo hwn fod ar gael i’r cyhoedd a gellir ei weld ar-lein neu drwy ofyn amdano.

Ar ôl y cam asesu, mae’r swyddog cynllunio yn paratoi adroddiad sy’n cynnwys argymhelliad i gymeradwyo (gydag unrhyw amodau angenrheidiol) neu wrthod y cais. Mae’r rhesymau dros yr argymhelliad hefyd wedi’u cynnwys yn adroddiad y swyddog. Bydd yr argymhelliad wedyn naill ai’n cael ei gymeradwyo gan swyddog sydd â phwerau dirprwyedig neu’n cael ei benderfynu gan y pwyllgor cynllunio.

Rhoddir hysbysiad penderfynu ffurfiol i’r ymgeisydd, sy’n nodi’n glir a yw caniatâd yn cael ei roi neu ei wrthod. Rhaid i'r rhesymau dros wrthod cais, neu osod unrhyw amodau, gael eu nodi ar yr hysbysiad penderfynu. Os caiff ei wrthod, neu os nad yw’r ymgeisydd yn fodlon ag unrhyw un o’r amodau a osodwyd, yna mae ganddynt yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Blue Tit, adult perched in witch hazel tree
Blue Tit
Cyngor gorau

Dylid lanlwytho adroddiad y swyddog a’r hysbysiad penderfynu i’r gofrestr cynllunio ar-lein. Os nad yw hyn wedi digwydd, cysylltwch â’r Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn i’r dogfennau hyn fod ar gael i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl.

Fel arfer, bydd yr ACLl yn rhoi gwybod am ei benderfyniad i unrhyw un a wnaeth sylwadau ar y cais cynllunio.

Ceisiadau a gaiff eu galw i mewn

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gymryd yr awenau o ran ceisiadau cynllunio (‘galw i mewn’), yn lle bod yr ACLl yn gwneud y penderfyniad. Fodd bynnag, dim ond os yw’r cais yn gwrthdaro â pholisi cenedlaethol mewn ffyrdd pwysig neu os yw’n genedlaethol arwyddocaol y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud hyn fel arfer. Os gelwir cais i mewn, penodir arolygydd o Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) i gynnal ymchwiliad i’r cynnig. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried canfyddiadau'r arolygydd wrth wneud eu penderfyniad.

Datblygiad nad yw’n cydymffurfio â’r cynllun datblygu

O bryd i’w gilydd, gall Awdurdodau Cynllunio Lleol roi caniatâd ar gyfer datblygiad nad yw’n cydymffurfio â pholisïau’r cynllun datblygu – gelwir y rhain yn geisiadau gwyro. Rhaid i’r ACLl roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y ceisiadau hyn.

Diwygio caniatâd cynllunio

Pan roddir caniatâd cynllunio, rhaid i’r cynnig datblygu gael ei gyflawni yn unol â’r cynlluniau, y manylion a’r amodau a gymeradwywyd. Fodd bynnag, weithiau mae materion newydd yn codi a allai olygu bod angen newid y cynnig a gymeradwywyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i ganiatâd cynllunio yn gofyn am gais newydd, ond mae opsiwn arall ar gael ar gyfer newidiadau llai sylweddol, a elwir yn fân newidiadau ansylweddol (sylwer na chynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer mân newidiadau o’r fath a rhaid i’r ACLl benderfynu ar y mathau hyn o geisiadau o fewn 28 diwrnod).

Gellir gwneud cais i amrywio neu ddileu amod neu amodau cynllunio o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad mawr

Pan fydd datblygwr yn dymuno dechrau ar ei ddatblygiad mawr, rhaid iddo hysbysu’r ACLl a dangos hysbysiad safle / cynllun lleoliad ar y safle o’r dyddiad y mae’r datblygiad yn dechrau, a rhaid i’r cynllun aros yn ei le drwy gydol y datblygiad. Mae hyn yn helpu’r ACLl i gadw llygad ar sut mae datblygiadau’n mynd rhagddynt yn eu hardaloedd, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol.

Share this article