Feature

Y gwahanol fathau o geisiadau cynllunio

Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o geisiadau cynllunio a'r hyn y mae angen iddynt ei gynnwys.

On this page

Last updated: 2 July 2025

Mae’r crynodeb canlynol yn amlinellu’r gwahanol fathau o geisiadau cynllunio. Mae’n nodi’r gofynion sylfaenol ar gyfer y ddau fath mwyaf cyffredin o gais rydych chi’n debygol o’u gweld – ceisiadau cynllunio llawn a cheisiadau cynllunio amlinellol – er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno digon o fanylion.

Beth yw cais cynllunio llawn?

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio ar gyfer pob math o ddatblygiad yn geisiadau cynllunio llawn. Mae cais am ganiatâd cynllunio llawn yn gofyn am gyflwyniad cyflawn o'r holl fanylion sy'n ymwneud â datblygiad. Mae hyn yn caniatáu i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau asesu holl fanylion y cynllun, gan gynnwys materion dylunio technegol, a'r holl effeithiau tebygol y gallai’r datblygiad eu cael ar ardal.  

Beth yw cais cynllunio amlinellol?

Defnyddir ceisiadau cynllunio amlinellol i sefydlu a yw egwyddor a phrif elfennau datblygiad arfaethedig yn dderbyniol. Mae angen llai o wybodaeth ar gyfer cais amlinellol, o'i gymharu â chais llawn. Defnyddir ceisiadau amlinellol yn aml ar gyfer cynlluniau mwy, fel datblygiad tai newydd, neu pan fydd yr ymgeisydd eisiau gwerthu'r safle ymlaen a pheidio â'i ddatblygu ei hun. Gall ymgeiswyr hefyd ddewis cyflwyno cais amlinellol lle mae ansicrwydd ynghylch a fydd y cynnig yn llwyddiannus.

Dim ond yn amodol ar amodau sy'n gofyn am gymeradwyaeth ddilynol i un neu fwy o 'faterion a gadwyd yn ôl‘ y gellir rhoi caniatâd cynllunio amlinellol, trwy gais faterion a gadwyd yn ôl.

Beth yw cais ‘materion a gadwyd yn ôl?

Mae materion a gadwyd yn ôl yn agweddau ar ddatblygiad arfaethedig nad ydynt wedi'u cymeradwyo yn y caniatâd cynllunio amlinellol. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedyn yn penderfynu ar y manylion hyn yn nes ymlaen. Maent fel arfer yn ymwneud â lleoliad, dyluniad, ymddangosiad allanol, modd mynediad, neu dirlunio'r safle (er bod angen rhywfaint o wybodaeth sylfaenol o hyd ar y cam cais amlinellol).

Unfurling fern
Cyngor gorau

Dylid ystyried effaith datblygiad ar natur yn ystod y cam cais amlinellol ac nid fel rhan o gais dilynol am faterion a gadwyd yn ôl. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan allai safle gwarchodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gael ei effeithio.

Pa fathau eraill o geisiadau sydd yna?

Yn ogystal â’r mathau uchod o geisiadau, gellir gwneud ceisiadau hefyd ar gyfer:

  • Datblygiadau deiliaid tai
  • Cymeradwyo (rhyddhau) amodau
  • Tynnu / amrywio amodau
  • Diwygio cynigion sydd eisoes â chaniatâd cynllunio
  • Diwygio rhwymedigaethau cynllunio
  • Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon
  • Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw (ar gyfer rhai hawliau datblygu a ganiateir)
  • Caniatâd adeilad rhestredig
  • Caniatâd i hysbysebu
  • Caniatâd dan Orchmynion Cadw Coed

 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o geisiadau cynllunio a chaniatadau ar gael ar wefan y Porth Cynllunio – gweler y ddolen isod.

Share this article