Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd tir neu adeiladau os ystyrir y newid yn ‘sylweddol’ o ran ei effaith ar yr ardal gyfagos. Yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) sy’n penderfynu a yw newid defnydd yn sylweddol ai peidio, ond y rhagdybiaeth gyffredinol yw y bydd newid o un dosbarth defnydd i un arall, neu newid sy’n ymwneud ag unrhyw ddefnydd sui generis (a elwir hefyd yn ddefnydd ‘unigryw’) gyfwerth â newid defnydd sylweddol. Defnyddiau sui generis yw’r rhai nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o’r dosbarthiadau penodedig.
Nid oes angen caniatâd cynllunio pan fydd y defnyddiau presennol a’r defnyddiau arfaethedig yn dod o fewn yr un dosbarth (nid yw symud o un defnydd i’r llall o fewn yr un dosbarth defnydd yn cael ei ystyried yn ddatblygiad).
Ceir hefyd rai hawliau datblygu a ganiateir sy’n caniatáu i rai newidiadau defnydd ddigwydd rhwng gwahanol ddosbarthiadau defnydd heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.