Feature

Eich cynllun datblygu lleol: beth ydyw a phryd gallwch chi gymryd rhan?

Gallwch helpu bywyd gwyllt drwy ddweud eich dweud yn eich cynllun datblygu lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael yma

A Black Redstart perched on a painted wooden fence
On this page

Last updated: 2 July 2025

Beth yw cynllun datblygu lleol a pham ei fod yn arwyddocaol?

Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yng Nghymru gynhyrchu cynllun datblygu lleol (CDLl) ar gyfer ei ardal, sy’n cynnwys polisïau a chynigion ynghylch datblygu a defnyddio tir. Mae hyn yn caniatáu i bawb edrych ymlaen at y dyfodol, gan feddwl sut y dylai eu hardaloedd edrych, a sut y gall penderfyniadau cynllunio ar gyfer datblygu helpu i gyflawni hyn. Ynghyd â Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, mae CDLl yn rhan o’r cynllun datblygu statudol sydd wrth galon y system gynllunio.

Rhaid i CDLl gymhwyso’r egwyddorion a nodir yn Cymru’r Dyfodol a Pholisi Cynllunio Cymru (PCC) drwy gael polisïau cynllunio strategol a lleol ymarferol ar gyfer yr ardal. Bydd hefyd yn nodi gweledigaeth a fframwaith ar gyfer datblygu ardal yn y dyfodol dros gyfnod o 15 mlynedd o’r dyddiad mabwysiadu.

Rhaid i bob ardal ACLl gael CDLl sydd wedi’i ddiweddaru (neu sydd wrthi’n cael ei fabwysiadu). Rhaid ystyried y polisïau cynllunio yn y CDLl wrth benderfynu ar bob cais cynllunio.

Poppies
Cyngor gorau

Mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan ac yn cyflwyno sylwadau fel rhan o’r gwaith o baratoi CDLl. Dyma eich cyfle chi gael lleisio barn am y polisïau strategol a fydd yn llywio datblygiadau yn eich ardal, a’r polisïau lleol sy’n nodi gofynion a nodweddion cyffredinol y datblygiadau hyn.

Beth yw’r broses ar gyfer paratoi CDLl?

Rhaid i’r gwaith o baratoi CDLl ddilyn nifer o gamau casglu tystiolaeth ac ymgynghori, gan arwain at archwiliad ffurfiol gan arolygydd cynllunio a mabwysiadu fersiwn terfynol y cynllun pan ddaw ei bolisïau cynllunio i rym.

Mae pob CDLl yn ddarostyngedig i’r camau canlynol, fel yr amlinellir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005:

  • Cytundeb Cyflawni (CC) (cam Rheoliad 9) – ar ddechrau’r broses, bydd yr ACLl yn paratoi CC sy’n cynnwys dwy ran – amserlen ar gyfer paratoi CDLl a Chynllun Cynnwys y Gymuned (CIS), sy’n egluro sut a phryd y bydd yr ACLl yn cynnwys y gymuned leol yn y broses o lunio cynlluniau. Bydd y CC ar gael i’r cyhoedd ar wefan yr ACLl ac yn ei swyddfeydd.
  • Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid (Rheoliad 14) – dyma pryd mae’r ACLl yn casglu tystiolaeth i lywio’r cynllun ac yn cynnal ymarfer ‘galw am safleoedd’ i ganfod safleoedd datblygu posibl. Nid oes ymgynghoriad cyhoeddus ar y cam hwn.
  • Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir (Rheoliad 15) – dyma pryd y bydd yr ACLl yn ymgynghori ar y materion a’r opsiynau o ran anghenion datblygu’r ardal a fydd yn llywio’r cynllun drafft.
  • Ymgynghoriad ar y Cynllun Adneuo (Rheoliad 17) – ar y cam hwn, gall y cyhoedd wneud sylwadau ar y cynllun drafft terfynol y mae’r ACLl yn bwriadu ei gyflwyno i’w archwilio.
  • Cyflwyniad (Rheoliad 22) – ar y cam hwn, cyflwynir fersiwn terfynol y CDLl i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) i’w archwilio.
  • Adroddiad yr Arolygydd a mabwysiadu – ar ddiwedd yr archwiliad bydd yr arolygydd yn paratoi adroddiad ar gadernid y cynllun ac yn cynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol. Bydd yr ACLl wedyn yn cynnal pleidlais i dderbyn y newidiadau a rhaid mabwysiadu’r CDLl o fewn 8 wythnos o dderbyn adroddiad yr arolygydd.

 

Rhaid i’r ACLl adolygu ei CDLl o leiaf bob pedair blynedd o’r dyddiad y’i mabwysiadwyd. Os daw’r adolygiad i’r casgliad bod angen diweddaru’r cynllun, bydd y broses baratoi’n dechrau eto ar gyfer CDLl newydd.

I gael rhagor o fanylion am y gwahanol gamau o baratoi CDLl, gan gynnwys sut i ymgysylltu, edrychwch ar y Canllawiau Cymunedol ar Gynlluniau Datblygu a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru.

Ar ddechrau’r broses baratoi ac ar unrhyw adeg yn ystod y broses, caiff yr ACLl hefyd gyhoeddi adroddiadau ‘materion ac opsiynau’ ar gyfer ymgynghori. Bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o faterion cynllunio ac opsiynau arfaethedig ar gyfer datblygu ardal yn y dyfodol. Felly, yn ymarferol, efallai y bydd sawl drafft interim arall o’r CDLl ac ymgynghoriadau ar y drafftiau hynny.

Pryd gall y cyhoedd gymryd rhan?

Gellir cyflwyno sylwadau cyhoeddus (safbwyntiau naill ai’n gwrthwynebu, yn gwneud sylwadau neu’n cefnogi’r CDLl arfaethedig) yn ystod camau ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir a’r Cynllun Adneuo, ac ar unrhyw ymgynghoriadau ar faterion ac opsiynau ychwanegol. Wrth gyflwyno sylwadau, mae’n bwysig deall ar ba gam y mae’r cynllun a sut y mae wedi esblygu o gamau cynharach. Er bod yn rhaid i’r ACLl gofnodi’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad, mae sylwadau ar rannau o’r cynllun sydd eisoes wedi eu setlo yn y cam blaenorol yn annhebygol o gael llawer o ddylanwad.

Beth sy’n digwyddodd yn ystod yr archwiliad?

Cam allweddol o’r broses yw archwilio’r cynllun, a gynhelir gan arolygydd cynllunio annibynnol a benodir gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). Pwrpas yr archwiliad yw profi ‘cadernid’ y cynllun, a sicrhau ei fod wedi’i baratoi’n briodol ac yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnol.

Nodir y tri phrawf cadernid ym Mhennod chwech y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Tabl 27, tudalen 166) ac maent fel a ganlyn:

Prawf Un: A yw’r cynllun yn addas? (A yw’n glir bod y CDLl yn gyson â chynlluniau eraill?)

Prawf Dau: A yw’r cynllun yn briodol? (A yw’r cynllun yn briodol ar gyfer yr ardal yng ngoleuni’r dystiolaeth?)

Prawf Tri: A fydd y cynllun yn cyflawni? (A yw’n debygol o fod yn effeithiol?)

Mae’r arolygydd yn ystyried y cynllun yn erbyn y profion hyn fesul pwnc gyda mewnbwn gan bartïon sydd â diddordeb, yr ACLl ac amrywiol randdeiliaid eraill drwy sylwadau ysgrifenedig a gwrandawiadau wyneb yn wyneb neu rithiol.

Os yw aelodau o’r cyhoedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cynllun Adneuo (cam Rheoliad 17) gallant gymryd rhan mewn gwrandawiad, naill ai drwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig neu siarad yn bersonol. Fodd bynnag, mae croeso i unrhyw un fynd i archwiliad i wrando ar yr achos hyd yn oed os nad ydynt yn cymryd rhan.

Cyngor gorau

Os hoffech gymryd rhan yn yr archwiliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno sylwadau yn y cam ymgynghori ar y Cynllun Adneuo (Rheoliad 17) hyd yn oed os ydych eisoes wedi gwneud sylwadau yn ystod cam ymgynghori cynharach. Os na fyddwch yn gwneud hynny, nid oes gennych hawl gyfreithiol i gymryd rhan yn yr archwiliad.

Beth fydd yn digwydd os na fydd y cais yn cael ei fabwysiadu?

Os yw’r arolygydd o’r farn nad yw’r cynllun yn sylfaenol gadarn, ni allant argymell ei fabwysiadu. Yna, bydd yr ACLl yn penderfynu a ddylid tynnu ei gynllun yn ôl a pharatoi un newydd i’w gyflwyno. Os bydd hyn yn digwydd, bydd unrhyw bolisïau CDLl presennol yn aros mewn grym tra bod cynllun newydd yn cael ei baratoi, a allai arwain at bolisïau o’r fath yn dyddio fwyfwy.

Sut mae effeithiau amgylcheddol yn cael eu hasesu?

Wrth ei baratoi, rhaid i CDLl fynd drwy broses Arfarniad o Gynaliadwyedd. Mae’r broses wedi’i chynllunio i sicrhau bod unrhyw effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y polisïau a’r cynigion yn cael eu nodi a’u lliniaru. Bydd Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl hefyd yn cynnwys y gofyniad i gynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol. Rhaid i’r Arfarniad o Gynaliadwyedd gael ei integreiddio â phob cam o’r broses o lunio cynlluniau a’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ar bob cam. Darllenwch fwy am hyn yn Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru (Argraffiad 3, pennod 4, tudalen 63). 

Efallai y bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer CDLl hefyd, fel y nodir yn Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, os ystyrir ei fod yn debygol o gael effaith sylweddol ar safleoedd bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu safleoedd Ramsar). Dylai’r Arfarniad o Gynaliadwyedd ystyried canfyddiadau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, os bydd un yn cael ei gynnal.

Two adult Great Crested Grebes, one with two chicks on their back, and the other with a feather in its mouth
Great Crested Grebes
Cyngor gorau

Archwiliwch yr Arfarniad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (lle mae un) ar gyfer eich CDLl drafft.

Gwnewch yn siŵr bod y cynllun yn nodi ac yn lliniaru’n briodol yr holl effeithiau o unrhyw gynigion datblygu newydd ar y safleoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt rydych chi’n gwybod amdanynt yn eich ardal.

Sut alla i gymryd rhan?

Bydd holl ddogfennau’r CDLl yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau polisi cynllunio gwefan yr ACLl er mwyn i chi allu eu gweld a gwneud sylwadau ar-lein. Dylai copïau papur o ddogfennau’r CDLl hefyd fod ar gael i’w harchwilio ar gais yn swyddfeydd yr ACLl.

Gall yr ACLl hefyd gynnal arddangosfeydd cyhoeddus fel rhan o’r ymgynghoriad, a gynhelir fel arfer mewn lleoliadau cymunedol fel neuaddau pentref, i roi gwybod i’r gymuned leol am gynigion y CDLl a gofyn am eu barn.

A pair of Long-tailed Tits, one perched on a twig and the other in flight, about to land.
Long-tailed Tits
Cyngor gorau

Edrychwch ar Gytundeb Cyflawni’r ACLl (amserlen y CDLl) ar dudalennau polisi cynllunio’r ACLl i gadw golwg ar sut mae eich CDLl yn dod yn ei flaen. Efallai y byddwch yn gallu cofrestru i gael negeseuon e-bost i’ch atgoffa am ymgynghoriadau’r CDLl, a dylai hefyd fod hysbysiadau mewn cylchlythyrau cymunedol lleol os nad oes gennych chi fynediad at e-bost.

Os nad ydych chi’n siŵr sut neu bryd i gymryd rhan, cysylltwch â’r tîm Polisi Cynllunio yn eich ACLl i gael cyngor. Dewch o hyd i’ch ACLl yma.

Share this article