Feature

Gallai Bil Amgylchedd newydd Cymru drawsnewid byd natur – ond dim ond gyda’ch cymorth chi!

Anfonwch ebost at eich Aelod o’r Senedd i dynnu sylw at y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod hwn yn Fil gwirioneddol gadarnhaol o ran natur.

Swallow perched on rusty barbed wire.
On this page

Edrych tuag at ddyfodol lle mae bioamrywiaeth wedi adfer

Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn wynebu argyfwng natur. Mae Adroddiad Sefyllfa Natur 2023 wedi canfod bod cyfoeth rhywogaethau tir a dŵr croyw yng Nghymru wedi dirywio 20% ar gyfartaledd dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Dim ond cyfran fechan o’n hardaloedd gwarchodedig sydd mewn cyflwr da ac mae gan lai na hanner ein hafonydd statws ecolegol da.

Ond gallai Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), a gyflwynwyd i’r Senedd ar 2 Mehefin, fod yn gyfle ardderchog i wyrdroi’r tueddiadau yma. Mae gan y Bil y potensial i fraenaru’r tir tuag at amgylchedd iachach, drwy greu system lywodraethu newydd a fydd yn sicrhau bod cyfreithiau amgylcheddol yn cael eu cymhwyso’n effeithiol, a drwy osod targedau uchelgeisiol ar gyfer adfer natur.

Fodd bynnag, er mwyn gwireddu’r potensial yma, rydym yn galw ar nifer o rannau o’r Bil i gael eu cryfhau a’u gwneud yn fwy eglur.

An adult Curlew stalks the grass at RSPB Geltsdale.

Egwyddorion Amgylcheddol

Yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, collasom effaith egwyddorion amgylcheddol cyfreithiol craidd Cytuniadau’r UE, a oedd yn berthnasol i’n holl gyfreithiau a pholisïau amgylcheddol domestig; eu rôl oedd sicrhau nad oedd cyfraith a pholisi yn niweidiol i’r amgylchedd, ond yn hytrach o fudd iddo. Mae’r Bil hwn yn ceisio pontio’r bwlch hwn drwy fynnu bod  Gweinidogion, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac (mewn modd mwy cyfyngedig) cyrff cyhoeddus eraill, yn cysidro’r egwyddorion amgylcheddol – sef cymryd rhagofalon, atal, cywiro yn y ffynhonnell a sicrhau mai’r llygrwr sy’n talu – ac yn integreiddio mesurau diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi.

Fodd bynnag, rydym yn pryderu fod y Bil yn cyfyngu’r gofyniad hwn i bolisi sy’n effeithio ar yr amgylchedd, neu a allai effeithio ar yr amgylchedd yn unig. Rydym am i hyn gael ei gryfhau, fel bod yr egwyddorion a’r ddyletswydd integreiddio yn berthnasol i’r holl waith llunio polisi, yn unol â gofynion cyffelyb mewn mannau eraill yn y DU.

Llywodraethu Amgylcheddol

Mae’r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu corff newydd, sef Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol Cymru, (SLlAC), a fydd yn goruchwylio effeithiolrwydd a gweithrediad ein cyfreithiau amgylcheddol gan y llywodraeth drwyddi draw, gan gynnwys ei chyrff cyhoeddus. Fel ei chymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, (Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (OEP)) ac yn yr Alban (Safonau Amgylcheddol yr Alban), bydd y swyddfa newydd yn gallu ymchwilio i faterion a gaiff eu codi gan ddinasyddion, lle mae’r gyfraith neu ei gweithrediad yn ddiffygiol. Er enghraifft, yn y blynyddoedd diwethaf mae Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd wedi cysidro sut y defnyddir cyfreithiau i wella ein hafonydd a’n moroedd, effeithiolrwydd ardaloedd gwarchodedig, a gofynion asesu amgylcheddol.

Er mwyn iddi gyflawni'r rôl hanfodol yma, bydd rhaid i SLlAC fod yn gwbl annibynnol ac yn weledol annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac rydym yn credu bod angen gwneud rhai newidiadau i’r Bil er mwyn sicrhau hynny. Dylai fod gofyniad penodol i Weinidogion barchu annibyniaeth SLlAC a sicrhau ei bod yn cael ei hariannu’n ddigonol, a dylai’r Bil fod yn llai rhagnodol ynghylch dulliau SLlAC o weithio. Dylai’r broses o benodi aelodau i Fwrdd SLlAC olygu rôl lai i Lywodraeth Cymru a rôl fwy i’r Senedd, gan adlewyrchu natur unigryw'r corff newydd o ran dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r broses orfodi a amlinellir yn y Bil ar gyfer SLlAC yn cynnwys rhoi pŵer i Banel Adolygu, a fydd yn cynnwys pobl o’r tu hwnt i’r corff newydd. Byddai’r dull hwn yn tanseilio rôl llywodraethu annibynnol SLlAC a rhaid ei newid.

Dylai’r Bil hefyd amlinellu’n glir y modd y gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno sylwadau i SLlAC os ydynt yn pryderu am weithrediad cyfraith amgylcheddol neu os ydynt yn credu bod corff cyhoeddus yn methu â chydymffurfio.

Eurasian Otter pup with its mother peering over wood in the foreground.

Targedau Bioamrywiaeth

Mae’r Bil yn creu fframwaith ar gyfer gosod targedau bioamrywiaeth a gofyniad i Weinidogion sicrhau bod y targedau yn cael eu cyflawni. Dyma gam mawr ymlaen! Dylai targedau cyfreithiol rhwymol olygu y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am sicrhau’r camau angenrheidiol sydd eu hangen i adfer natur yng Nghymru. Nid yw’r Bil yn cynnwys targedau mewn gwirionedd, ond mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gosod mewn deddfwriaeth eilaidd wedi i’r ddeddf hon gael ei phasio – sy’n golygu mai cyfrifoldeb Llywodraeth nesaf Cymru a’r Senedd fydd gwneud hyn. Rydym yn cefnogi’r dull hwn, ond credwn fod angen cryfhau’r rhan yma o’r Bil er mwyn sicrhau bod y brys i weithredu dros natur yn gwbl glir, a sicrhau bod yr ymrwymiad yma yn parhau i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol.

Er mwyn cyflawni hyn rydym yn galw am ofyniad penodol am darged i wrthdroi’r dirywiad mewn cyfoeth rhywogaethau yn ystod y deng mlynedd nesaf. Byddai hyn yn amlygu bwriad a brys y ddeddfwriaeth sylfaenol o’r dechrau. Yn ogystal, dylai’r Bil nodi fod angen i Weinidogion osod targedau hirdymor a thymor byr – gan sefydlu amcanion hirdymor ar gyfer bioamrywiaeth, a sicrhau y gwnaiff pob Llywodraeth ddilynol yng Nghymru chwarae ei rhan i’w cyflawni.

Dylai Gweinidogion fod yn hyderus y bydd y targedau a osodir – ar y cyd – yn sbarduno cynnydd ystyrlon a wnaiff wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ac mae’n hanfodol bod yr amserlen ar gyfer gosod y grŵp cyntaf o dargedau bioamrywiaeth yn cael ei byrhau. Ar hyn o bryd, mae’r Bil yn caniatáu tair blynedd ar gyfer hyn, sy’n golygu na ellir gosod targedau tan 2029!  Rydym yn galw am fynnu bod targedau yn cael eu gosod o fewn 12 mis i’r Bil ddod yn gyfraith.

Gwyliwch y fideo yma i ddarganfod mwy

Cymru Natur Bositif
Lone Hedgehog sat on a rotting log, surrounded by golden, fallen leaves.
Hedgehog
Gweithredu

Mae’r RSPB wedi croesawu’r cyfle i ymgysylltu â’r Bil wrth iddo symud ymlaen at y cam yma, ond mae angen gweithredu ar frys i sicrhau ei fod yn cyflawni’r newid sydd ei angen ar natur. Os gwnaiff digon ohonom leisio barn nawr, gallwn roi gwybod i’r Senedd na all natur aros. Gweithredwch. Defnyddiwch ein templed ebost hawdd i adael i’ch Aelod o’r Senedd wybod am y newidiadau yr hoffech eu gweld i’r Bil. Gyda’n gilydd, gallwn arwain at ddyfodol lle bydd natur yn ffynnu dros Gymru.

Share this article