News
Nawr mae’r ddrama’n dechrau ar Ynys Gwales
Bob gwanwyn, mae dychweliad adar môr i arfordir Cymru yn arwydd bod rhywbeth arbennig ar fin digwydd. Ond wrth i’r tymor...
5th May 2026
Bob gwanwyn, mae dychweliad adar môr i arfordir Cymru yn arwydd bod rhywbeth arbennig ar fin digwydd. Ond wrth i’r tymor cyflymu, dyma pryd mae’r gwir ddrama’n dechrau. Ymhell allan i’r môr, oddi ar arfordir Sir Benfro, mae Ynys Gwales unwaith eto’n dod yn fyw.
5 min read
As the season gathers pace, the real spectacle begins. Out at sea, beyond the Pembrokeshire coast, Grassholm is once again coming to life.
Cyhoeddwyd: 5 Mai
Mae’r awyr uwchben yr ynys bellach yn llawn symudiad. Mae miloedd o Huganod yn cylchdroi uwchben, eu cyrff gwyn yn disgleirio wrth iddynt hofran, troi a phlymio. Islaw, mae’r gytref yn fosaig trwchus a di-baid o adar, pob un yn ymladd am le ar y clogwyni prysur.
Prin yw’r llonyddwch yma. Mae’r aer yn llawn sŵn – galwadau, chwifio adenydd a’r symudiad cyson o adar yn cyrraedd ac yn gadael. I’r rhai sy’n ddigon ffodus i fod ar y môr gerllaw, mae’n brofiad bythgofiadwy. Dyma dymor yr adar môr ar ei fwyaf angerddol.
Mae Huganod wedi’u hadeiladu ar gyfer drama. O uchder mawr uwchben y dŵr, maent yn plymio i mewn ar gyflymder o hyd at 60 milltir yr awr, gan blygu eu hadenydd yn dynn cyn torri i mewn i’r môr wrth hela pysgod. Mae’r plymiadau hyn yn gyflym, manwl ac yn ddi-baid – yn digwydd dro ar ôl tro drwy gydol y dydd.
Yn ôl ar y clogwyni, nid yw’r cyflymder yn arafu. Mae parau’n cyfarch ei gilydd gyda symudiadau seremonïol, yn ymestyn eu gyddfau ac yn tapio pigau. Mae nythod yn cael eu hamddiffyn, eu hailadeiladu a’u gwella, yn aml ddim ond modfeddi oddi wrth adar cyfagos.
Mae pob symudiad yn rhan o gydbwysedd eiddil – byd gorlawn a chystadleuol lle mae lle gwag ac amser yn hollbwysig.
Er ei holl egni, mae hon hefyd yn foment fregus.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae adar môr ar draws y DU wedi wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn. Ar Ynys Gwales, mae’r effaith ar y Huganod wedi bod yn ddifrifol, gyda niferoedd yn parhau’n sylweddol is na lefelau hanesyddol.
Ac eto, mae pob aderyn sy’n dychwelyd yn rhan o stori o wydnwch.
Er gwaethaf yr heriau, mae miloedd yn dal i gyrraedd, gan hawlio’u lle ar y clogwyni a pharhau â chylch bywyd sydd wedi digwydd yma ers cenedlaethau.
Mae’r ynys hefyd yn cynnal niferoedd cynyddol o adar môr eraill, gan gynnwys Gwylogod, gan ychwanegu at yr ymdeimlad bod hwn yn lle sy’n dal yn llawn bywyd.
Dim ond un bennod mewn stori llawer mwy yw’r hyn sy’n digwydd ar Ynys Gwales.
Mae adar môr yn dibynnu ar foroedd iach a chynhyrchiol – ac mae eu llwyddiant yn gysylltiedig yn agos â chyflwr yr amgylchedd morol o’u cwmpas.
Wrth i’r wythnosau mynd yn ei blaen, bydd y ddrama’n parhau i ddatblygu ar hyd arfordiroedd Cymru, o ynysoedd alltraeth i glogwyni’r tir mawr.
Ac er bod golygfeydd a synau tymor yr adar môr ymhlith y rhai mwyaf ysblennydd ym myd natur, maent hefyd yn ein hatgoffa’n rymus: mae’r eiliadau hyn yn bwysig, ac felly hefyd y lleoedd sy’n eu gwneud yn bosibl.