Blaenoriaethau Er Lles Byd Natur yng Nghymru 2026-2030
Ar 7 Mai 2026 bydd pobl ar hyd a lled Cymru yn pleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd. Wrth i ni edrych ymlaen at yr hyn sydd ei angen ar Gymru dros y pedair blynedd nesaf, rhaid i adferiad byd natur fod yn flaenoriaeth allweddol i bob plaid wleidyddol.

On this page
Mae’n her a hanner - ond mae gennym ni’r atebion
Cyhoeddwyd: 7 Ionawr 2026
Mae byd natur yn bwysig i bob un ohonom. Rydyn ni i gyd yn dibynnu arno a’r hyn mae’n ei ddarparu; aer a dŵr glân, pridd iach i gynhyrchu bwyd, y capasiti i storio carbon er mwyn atal newid hinsawdd, ac i ddal dŵr rhag achosi llifogydd. Mae hefyd yn hollbwysig i’n hiechyd a’n llesiant.
Ond, mae natur mewn argyfwng. Mae bywyd gwyllt Cymru wedi gostwng 20% ar gyfartaledd ers 1994 yn unig. Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu’n llwyr yng Nghymru, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid fel y Gylfinir, Tegeirian y Fign Galchog, Llygoden y Dŵr a Madfall y Tywod.
Mae’r dasg o wrthdroi'r colledion hyn yn enfawr, mae hynny’n sicr – ond mae’r atebion i achub byd natur gennym ni.
O gwlyptiroedd i gopaon mynyddoedd ac ar hyd ein harfordiroedd, mae unigolion, prosiectau, elusennau, busnesau a ffermwyr yn dod at ei gilydd i weithredu dros fyd natur. Mae pobl yn creu lle i fywyd gwyllt yn eu gerddi a'u cymunedau, ac mae mudiadau fel yr RSPB yn helpu i adfer natur drwy ein gwarchodfeydd a'n prosiectau.
Ond mae gan y llywodraeth rôl allweddol i'w chwarae o ran sicrhau bod yr ysgogiadau a'r cyllid ar waith i sbarduno adferiad byd natur ar raddfa fawr. Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn gyfrifol am gyflawni ein hymrwymiadau rhyngwladol i gymryd camau brys i wrthdroi colled bioamrywiaeth a rhoi natur ar lwybr at adferiad erbyn 2030.
Blaenoriaethau Er Lles Byd Natur
Rydyn ni wedi llunio ein maniffesto Blaenoriaethau Er Lles Byd Natur 2026-2030, sy’n nodi’r pethau sydd eu hangen os ydym am gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol i adfer natur.
Y prif bethau rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru eu gwneud yw:
- Gosod targedau uchelgeisiol i adfer byd natur
- Sicrhau bod y safleoedd bywyd gwyllt gorau, ar y tir ac ar y môr, yn cael gofal da
- Gwneud yn siŵr bod prosesau cynllunio a datblygu yn helpu byd natur
- Cefnogi ffermio sy'n ystyriol o natur i adfer byd natur a gofalu amdano
Mae angen i'r llywodraeth nesaf weithredu a buddsoddi'n uchelgeisiol mewn natur os ydym am ymateb i'r argyfwng natur mewn pryd.
Mae pobl eisiau gweithredu dros fyd natur
Mae’r cyhoedd yn awyddus iawn i weld y llywodraeth yn gweithredu dros fyd natur. Pan holwyd y cyhoedd mewn arolwg yn 2025*, dywedodd dros dri chwarter eu bod yn credu bod angen i lywodraethau nawr ac yn y dyfodol gymryd mwy o gamau i fynd i'r afael â cholli bywyd gwyllt.
Roedd yr arolwg hwn hefyd wedi amlygu bod pobl yng Nghymru yn gwerthfawrogi natur a mannau gwyrdd yn fawr, gyda dros dri chwarter o’r bobl a holwyd yn dweud eu bod yn awyddus i weld mwy o fywyd gwyllt yn ffynnu yn eu mannau gwyrdd lleol. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru gymryd camau gweithredu mwy, a darparu'r mecanweithiau a'r ysgogiadau i alluogi newid ar raddfa fawr.
Etholiad gwahanol
Bydd rhai pethau’n siŵr o newid yn yr etholiad hwn, bydd mwy o Aelodau o'r Senedd, etholaethau gwahanol a system bleidleisio wahanol. Gallwch ddarllen mwy am etholiad y Senedd a sut mae pethau'n newid fis Mai yma: Beth yw Etholiad y Senedd?
Sut gallwch chi helpu?
Dros y misoedd nesaf byddwn yn cynhyrchu rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi helpu i sicrhau bod byd natur yn flaenoriaeth ar yr agenda yn y cyfnod cyn yr etholiad. Cofrestrwch fel hyrwyddwr Ymgyrchoedd yr RSPB i gael ein negeseuon ebost rheolaidd am ymgyrchu, ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau cyn yr etholiad.
Dim mwy o oedi.
*Arolwg a gynhaliwyd rhwng 3 a 23 Mawrth 2025 gan Beaufort Research Limited. Cafodd cyfanswm o 1,000 o arolygon eu cynnal ar-lein ac mae’r canlyniadau’n cynrychioli’r boblogaeth oedolion (dros 16 oed) yng Nghymru.