Digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2027

Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn ôl ar gyfer 2027! Ymunwch â miloedd o ysgolion eraill i ddarganfod pa adar sy’n ymweld â thir eich ysgol, meithrin sgiliau data a defnyddio’r hyn rydych chi’n dod o hyd iddo i helpu byd natur. Gwnewch i’ch safle gyfrif!

Three children sat on a wooden bench outside of their school.

Gwyliwch: Digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol ar waith

Yn y ffilm fer yma, cewch weld beth sy’n gwneud y digwyddiad yma'n un mor arbennig, gyda’r Pennaeth Cynorthwyol, Sam Clarke, a disgyblion Ysgol Gynradd Wigmore yn Luton. Gydag adnoddau arbenigol – o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i’r Uwchradd – mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn addas i bob dysgwr.

Mae’n hawdd cymryd rhan 

1. Cofrestrwch heddiw 

Cofrestrwch am ddim ac fe gewch chi'r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol.

Eleni, mae gennym adnoddau newydd a gwell i gefnogi’r gwaith o drin data. Os taw dyma eich tro cyntaf i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol ac eisiau cael mesur sylfaenol, neu os ydych chi’n dychwelyd i fonitro eich data o un flwyddyn i’r llall, mae’n ffordd berffaith o ddarganfod pa adar sy’n ymweld â thir eich ysgol.

Young children taking part in the RSPB's annual Big School's Birdwatch activity, smiling and spotting birds.

2. Dechrau cyfrif

Dechreuwch gyfrif ar dir eich ysgol unrhyw bryd rhwng 4 Ionawr a 22 Chwefror 2027.

Lawrlwythwch ein taflenni arolwg, neu edrychwch i weld a all eich dysgwyr ddylunio eu taflenni eu hunain, a monitro’r rhywogaethau adar sy’n ymweld â thir eich ysgol. Mae ein hadnoddau defnyddiol hefyd yn gadael i chi gymharu eich canlyniadau lleol â’r data cenedlaethol, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i drin data.

Defnyddiwch yr hyn a ddysgoch o’ch digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol i weithio tuag at ein gwobr Sialens Wyllt. Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o gynyddu bioamrywiaeth ar dir eich ysgol, mae Sialens Wyllt yn fframwaith am ddim drwy gydol y flwyddyn ar gyfer dysgu drwy fyd natur.  

3. Gweithredwch

Gwnewch i’ch safle gyfrif! Cyflwynwch eich canlyniadau ar-lein cyn 22 Chwefror er mwyn gallu ychwanegu’r data o’ch safle chi at y darlun cenedlaethol. Mae’n hawdd gwneud hyn gyda’ch dosbarth yn rhyngweithiol ar y bwrdd gwyn. Rydym ni eisiau gwybod beth rydych chi’n ei weld, hyd yn oed os nad ydych chi’n gweld dim adar o gwbl. Beth mae eich canlyniadau’n ei ddweud wrthych chi am fyd natur ar dir eich ysgol? Beth allech chi ei wneud nesaf i wneud gwahaniaeth cadarnhaol?

Gall Gwobr Sialens Wyllt gynnig syniadau i droi eich canlyniadau Gwylio Adar yr Ysgol yn gamau gweithredu sy’n helpu i ddiogelu ac adfer byd natur ar eich tir.

Mae angen i chi gyflwyno eich canlyniadau erbyn 22 Chwefror 2027.  

Two children outside of their school building, one in a red coat writing on a clipboard and the other in a green coat looking through binoculars.
Cymryd rhan

Rhannwch eich digwyddiad #GwylioAdarYrYsgol gyda ni ar ein cyfryngau cymdeithasol dysgu.

Chwilio am RSPB Learning ar y cyfryngau cymdeithasol