Ailgysylltu tirwedd werthfawr

Helpwch i ddiogelu 96 hectar o gynefinoedd prin ac ailgysylltu tirwedd sy’n hanfodol i fywyd gwyllt dan fygythiad.

Pied Flycatcher perched on a tree branch.

Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i aduno tirwedd doredig

Yng nghalon canolbarth Cymru, mae Gwarchodfa Natur RSPB Gwenffrwd Dinas - tirwedd sy’n cynnwys coedwigoedd glaw Celtaidd prin, ucheldiroedd gwyntog a dyffrynnoedd gwyllt, lle mae cân Deloriaid y Coed yn atsain drwy’r coed hynafol a'r Gwiwerod Coch yn sgrafangu ar hyd eu canghennau.

Rhwng dwy ran wahanol y warchodfa, mae Gallt y Bere - 96 hectar o gynefin prin, ac mae gennym ni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'w sicrhau ar gyfer byd natur. 

Gyda’ch help chi, gallwn ni brynu’r cyswllt coll hanfodol hwn, a chreu coridor di-dor o gynefin gwarchodedig lle gall bywyd gwyllt prin ffynnu. 

96 hectar - y darn coll fydd yn uno Gwenffrwd a Dinas
Mae angen £520,000 i brynu’r tir hanfodol hwn
Mae 40% o'r coedwigoedd glaw Celtaidd sy’n weddillyn y DU yng Nghymru
Wistman's Wood National Nature Reserve, Devon

Gall £27 sicrhau 50m2 sgwâr o Goedwig Law Geltaidd brin

Fyddai neb yn eich beio am feddwl eich bod wedi dod ar draws set ffilm ffantasi wrth grwydro dyffryn Gallt y Bere. Yma, mae canghennau'r coed derw hynafol wedi’u gorchuddio â mwsoglau a chennau, mae Clychau’r Gog yn dawnsio yn awel y gwanwyn, ac mae sŵn hymian y pryfed yn llenwi’r lle.

Ond nid gardd o ffilm ffantasi yw hon, ond coedwig law Geltaidd - cynefin sydd hyd yn oed yn fwy prin na’i goedwigoedd trofannol cyfatebol. 

Bob gwanwyn, mae adar mudol prin sy’n dirywio fel Telor y Coed a’r Gwybedog Brith yn hedfan yr holl ffordd o Affrica i fagu eu cywion yn y goedwig arbennig hon, gan wledda ar y pryfed niferus mae'r goedwig yn eu cefnogi.

Ond gan fod cyn lleied o’r cynefin hwn ar ôl, mae eu dyfodol yn y fantol.

Bydd eich rhodd chi yn ein helpu i ddiogelu ac adfer y rhan werthfawr hon o’r goedwig law yn Gallt y Bere, a’i hailgysylltu â choetir Dinas, gan roi tir bridio diogel a gwarchodedig am flynyddoedd i ddod i rai o’r adar sydd dan y bygythiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig. 

Whinchat, adult male perched on gorse

Gall £40.62 sicrhau 75m2 sgwâr o ffriddoedd Cymru

Wrth ddringo i frig llethrau Gallt y Bere, fe welwch y goedwig law fawr yn agor allan i ffriddoedd - brithwaith garw o rug, eithin, a Rhedyn. 

Mae’r cynefin unigryw hwn yng Nghymru yn gartref i amrywiaeth o adar dan fygythiad fel Crec yr Eithin, y Gog, Corhedydd y Coed, a’r Bras Melyn, sy’n chwilio am bryfed ac aeron yn y gwrychoedd.  

Gyda’ch help chi, gallwn ni ehangu ac adfer y cynefin pwysig hwn ar hyd y dyffryn, gan roi’r lle sydd ei angen ar fywyd gwyllt i ffynnu. 

Hen Harrier, adult male hunting, side view showing rump and upper wing

Gall £54.16 sicrhau 100m2 sgwâr o fawndir

Ar gopa Gallt y Bere, mae mawnogydd sy’n rhoi noddfa i adar hirgoes sy’n dirywio, fel y Gylfinir a’r Gornchwiglen.

Gallai eich rhodd chi ein helpu ni i adfer y mawnogydd corslyd hyn sy’n storio carbon, a chreu ardaloedd mwy cyfoethog o bryfed ar gyfer adar bach a mamaliaid, fel Corhedydd y Waun a Llygoden y Dŵr. 

Yn eu tro, bydd y rhain yn darparu bwyd hanfodol i adar ysglyfaethus fel y Boda Tinwyn, sydd wedi cael eu gweld yn yr ardal o bryd i'w gilydd. Gyda’ch cefnogaeth chi, rydyn ni’n gobeithio creu’r amodau sydd eu hangen i ddenu'r adar urddasol hyn i ymgartrefu yma a pherfformio eu dawnsfeydd trawiadol yn yr awyr uwchben yr ucheldiroedd yn y gwanwyn.

Rydyn ni wedi achub rhywogaethau gyda’n gilydd o’r blaen – gadewch i ni wneud hynny eto

Bron i 60 mlynedd yn ôl, fe wnaeth cefnogwyr fel chi helpu’r RSPB i brynu Gwenffrwd Dinas, er mwyn darparu noddfa i’r Barcud Coch, oedd ar fin diflannu’n llwyr yn y DU. Ers hynny, mae'r Barcud Coch wedi dod yn ôl. 

Mae angen eich cefnogaeth chi arnom eto er mwyn cael yr un llwyddiant i rywogaethau eraill sydd dan fygythiad a chreu dyfodol mwy disglair i fywyd gwyllt Cymru.

Mae Gwenffrwd Dinas yn dirwedd cwbl unigryw. Ond mae rhywbeth wedi bod ar goll erioed. Cefnogwyr fel chi achubodd y Barcud Coch, felly beth am fanteisio ar y cyfle hwn i uno’r warchodfa a rhoi gobaith i fwy o adar sydd dan fygythiad.”

- Jonathan Cryer Rheolwr Safle, Gwarchodfeydd Coetir Canolbarth Cymru

Red Kite in flight over a meadow

Fe wnaethom ni weithredu ar unwaith - mae angen eich help chi arnom ni nawr

Pan ddaeth y cyfle i ddiogelu’r tir yn Gallt y Bere ddiwedd 2025, fe wnaethom neidio ar y cyfle i achub y lle arbennig hwn rhag defnydd tir amhriodol a'i ddiogelu ar gyfer natur. 

Nawr, rydyn ni’n gofyn i gefnogwyr fel chi am help i ariannu'r caffaeliad hanfodol hwn. Gyda natur dan bwysau eithriadol ledled Cymru a gweddill y DU, ni allwn golli'r cyfle hwn i achub a gwarchod tirwedd hynod brin sydd mor gyfoethog o ran bywyd gwyllt. 

Cyfrannwch heddiw, er mwyn i ni allu ariannu’r pryniant hwn a dechrau ar y gwaith brys o ailgysylltu ac adfer y dirwedd werthfawr hon.

I ble mae eich rhodd yn mynd

Bydd eich haelioni yn ein helpu ni i brynu Gallt y Bere, ac i dalu’r costau cysylltiedig.  

Os byddwn yn codi mwy nag sydd ei angen, bydd eich rhodd yn cefnogi gwaith cadwraeth parhaus yn Gallt y Bere a gwarchodfeydd natur hanfodol eraill ledled y DU. 

Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol mwy disglair, lle mae bywyd gwyllt, mannau gwyllt, a phobl, yn ffynnu. 

Diolch yn fawr.