Advice

Sut mae cael y canlyniadau gorau o ymgyrchu i warchod natur ym maes cynllunio

Dyma rai tactegau y gallwch eu defnyddio i gael y canlyniadau gorau i fyd natur wrth gynnal ymgyrch gynllunio

Little Owl, perched on a wooden post in a meadow
On this page

Does dim rhaid i ymgyrchu fod yn uchel ei gloch yn cynnwys llawer o bobl a gweithgareddau – gallwch ymgyrchu’n effeithiol ar lefel unigol neu gyda chamau gweithredu byr, penodol hefyd. Pa lefel bynnag o ymgyrchu rydych chi’n dewis ei wneud i warchod natur yn ystod y broses gynllunio, dyma rai awgrymiadau o dactegau y gallech chi roi cynnig arnynt.

I gael awgrymiadau ar ddechrau ymgyrch, edrychwch ar ein canllaw Sut mae sefydlu eich ymgyrch eich hun i warchod natur rhag bygythiad datblygu.

Tynnu sylw eich cynghorwyr lleol

Mae cynghorwyr etholedig yn gweithredu fel cyswllt rhwng y cyhoedd a’r cyngor. Maen nhw’n cynrychioli eich barn ar faterion sy’n bwysig i chi, megis cynigion datblygu,, a gallant ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio drwy gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio a siarad mewn pwyllgorau cynllunio (mae manylion cyswllt eich cynghorwyr lleol ar gael yma). Felly, mae’n fuddiol iawn ennyn eu diddordeb yn eich ymgyrch.

Gallwch hefyd gysylltu â’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr etholedig lleol sy’n cynrychioli eich barn ar lefel genedlaethol. Yn Lloegr, eich AS (Aelod Seneddol), yng Nghymru eich AS (Aelod o Senedd Cymru), yn yr Alban eich ASA (Aelod o Senedd yr Alban) ac yng Ngogledd Iwerddon eich MLA (Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol).

Edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gysylltu â’ch cynrychiolydd lleol (rhan o’n hadnoddau ‘Gweithredu dros natur’ ehangach) i gael cyngor ar ysgrifennu at neu e-bostio unrhyw un o’ch cynrychiolwyr etholedig a defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.

Gallwch ganfod pwy yw eich cynrychiolwyr etholedig  ac ysgrifennu atynt gan ddefnyddio gwefannau defnyddiol fel WriteToThem a TheyWorkforYou.

Unwaith yr oedd fy nghyngor plwyf yn gwybod beth oedd yn bresennol yn y plwyf roedden nhw wir wedi synnu ac eisiau ei warchod. Does gan y rhan fwyaf o bobl ddim syniad pa fywyd gwyllt sydd mewn ardal – mae nhw’n meddwl mai ‘dim ond cae’ ydyw pan mae’n gartref i Ehedyddion, Petris Llwyd, Tylluanod Gwyn, ayb.” -Hyrwyddwr natur lleol

Gannet, spreading it's wings at sunset
Gannet
Cofiwch

Mae rhoi eich prif gais ar ddechrau e-bost yn gwneud iddo sefyll allan mewn blwch derbyn prysur, ond gallai cais yn y paragraff olaf gael ei fethu! Os oes gennych ychydig o amser ychwanegol, ystyriwch ysgrifennu llythyr – gallai hyn ymddangos braidd yn henffasiwn ond gall llythyr wedi’i ysgrifennu’n dda (yn enwedig un wedi’i ysgrifennu â llaw) wneud i chi sefyll allan.

Cyfarfod eich cynghorwyr lleol

Gall cwrdd â’ch cynghorydd etholedig lleol yn bersonol fod hyd yn oed yn fwy effeithiol o ran cyfleu eich neges. Cynigiwch gwrdd â nhw ar safle’r datblygiad arfaethedig neu gerllaw er mwyn helpu i egluro pam ei bod yn bwysig, yn ddelfrydol ar adeg pan allai bywyd gwyllt fod yn bresennol a allai gael ei fygwth gan y datblygiad.

Byddwch yn glir ynghylch yr hyn yr hoffech i’ch cynghorydd lleol ei wneud ar ôl eich cyfarfod – ee cefnogi eich ymgyrch a chyflwyno sylwadau ar y cais cynllunio. Yn dibynnu ar yr hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfod, mae fel arfer yn syniad da cysylltu â nhw drwy e-bost neu alwad ffôn. Gallech anfon diolch syml, neu hwb cwrtais hyd yn oed os ydynt wedi addo gwneud rhywbeth ond heb wneud hynny. Bydd hyn yn eu hatgoffa o’r mater ac yn dangos eich bod yn ei gymryd o ddifrif.

Edrychwch ar ein hargymhellion am gyfarfod eich gwleidydd lleol (rhan o’n hadnoddau ‘Gweithredu dros natur’) i gael cyngor ar sut mae trefnu cyfarfod a sut mae manteisio i’r eithaf ar y sgwrs.

Young member of the Fowlmere Wildlife Explorers group taking part in a photography walk with the aim of capturing photos of fungi, autumn colours and generally enjoying being out in nature, RSPB The Lodge Nature Reserve, Bedfordshire.
Youth Group Member
Cofiwch

Gallech hefyd dynnu lluniau a rhannu eich gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnwch i’ch cynrychiolydd etholedig a wnaiff ymuno â chi am lun a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol – cofiwch eu tagio yn eich post, yn ogystal â nodi’n glir beth rydych am iddyn nhw ei wneud o ganlyniad i’ch cyfarfod.

Estyn allan at y cyfryngau lleol

Gall cael sylw yn y cyfryngau lleol ar gyfer eich ymgyrch fod yn ffordd wych o gyfleu eich neges i gynulleidfa ehangach a meithrin momentwm, yn enwedig os ydych chi’n gallu cael y papur newydd lleol neu’r orsaf radio i hyrwyddo eich achos. Gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro pam eich bod chi’n gwrthwynebu’r datblygiad a pham eich bod o’r farn y byddai’n niweidiol i natur ac i’r gymuned.

Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr etholedig yn dilyn cyfryngau lleol yn frwd ac yn awyddus i gadw proffil da am resymau amlwg, felly gall rhywfaint o sylw lleol helpu i newid eu barn o blaid ymgyrch.

Edrychwch ar ein hargymhellion ar gyfer cysylltu â’ch cyfryngau lleol (rhan o’n hadnoddau ‘Gweithredu dros natur’ ehangach) i gael llawer o gyngor defnyddiol ar ysgrifennu llythyr at y golygydd, cael eich stori yn y cyfryngau ac ysgrifennu datganiad i’r wasg. Hefyd, edrychwch ar ein canllaw Sut mae defnyddio cyfryngau lleol i hyrwyddo eich ymgyrch gynllunio i gael awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau radio/teledu a chynnal diddordeb yn eich ymgyrch chi.

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Gyda chyfryngau cymdeithasol ar flaenau ein bysedd, mae’n hawdd iawn lledaenu’r gair a hyrwyddo eich ymgyrch i gynulleidfa lawer ehangach. Mae llwyfannau fel X (Twitter gynt), Facebook, Instagram ac ati yn adnoddau ymgyrchu pwysig sy’n cynnig y cyfle i gael diweddariadau ar unwaith, ac maen nhw’n gallu bod yn ffordd effeithiol iawn o alw cefnogwyr i weithredu. Gallech hefyd ystyried sefydlu gwefan neu flog i gyfathrebu â chefnogwyr a chreu cynulleidfa ehangach ar gyfer eich achos.

Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol (ee grŵp Facebook cymdogaeth) i ddweud wrth eich cymuned am y datblygiad a’u hannog i gyflwyno sylwadau. Gwnewch hi’n hawdd i bobl drwy bostio cyfeirnod y cais cynllunio a dolen i dudalen we’r awdurdod cynllunio. Gallech roi cyngor ar yr hyn y gallent ei gynnwys yn eu hymateb neu roi templed iddynt y gellid ei addasu gyda’u neges bersonol eu hunain. Po hawsaf rydych chi’n ei wneud i bobl, y mwyaf tebygol ydyn nhw o weithredu.

Mae grwpiau Facebook caeedig yn adnodd defnyddiol ar gyfer trefnu grwpiau bach mewn ffyrdd hyblyg” -Hyrwyddwr natur lleol

Siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus

Mynychu cyfarfodydd cyhoeddus a siarad am y datblygiad arfaethedig. Gallai hyn gynnwys cyfarfodydd cyngor ee cyfarfodydd pwyllgor cynllunio a chyfarfodydd cynghorau plwyf, ymgynghoriadau cyhoeddus, ac unrhyw ddigwyddiadau eraill lle y byddai’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn bresennol. Gwnewch yn siŵr bod eich neges yn glir ac yn gryno a phwysleisiwch y rhesymau mwyaf cymhellol pam y dylid gwrthwynebu neu addasu’r datblygiad.

Defnyddio deisebau

Gall deisebau fod yn ffordd effeithiol o ddangos cryfder gwrthwynebiad y cyhoedd i ddatblygiad arfaethedig. Defnyddiwch lwyfannau ar-lein fel Change.org i gasglu llofnodion a chadw data’n gyfrinachol. Os byddwch yn dewis casglu llofnodion drwy ddeisebau papur ar stondin stryd neu mewn digwyddiad wyneb yn wyneb, rhaid i chi ystyried materion GDPR wrth gasglu a storio manylion personol pobl. Neu, gallech roi’r opsiwn i bobl ddefnyddio eu ffonau i lofnodi eich deiseb ar-lein gan ddefnyddio cod QR ar boster/taflen, neu hyd yn oed fynd â dyfais tabled gyda’r dudalen ddeisebu ar-lein yn barod i bobl ei llofnodi.

Gwleidyddion yw cynghorwyr, maen nhw angen pleidleisiau! Ewch ati i hel tystiolaeth (hy deiseb) o nifer y cefnogwyr, bydd hyn yn cael effaith amlwg.” -Hyrwyddwr natur lleol

Cynnal Digwyddiadau

Trefnu digwyddiadau sy’n codi ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol posibl y datblygiad arfaethedig, ee cynnal cyfarfod cyhoeddus/ymweliad safle, gweminarau, neu ddigwyddiadau eraill sy’n ymgysylltu â’ch cymuned ac yn meithrin cefnogaeth i’ch ymgyrch. Gallech annog pobl i gymryd rhan drwy ofyn iddynt nodi eu syniadau a’u pryderon, neu bleidleisio dros wahanol weithredoedd. Mae hyn hefyd yn ffordd dda o sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed yn y broses.

Gwnewch ymdrech i siarad â phobl wyneb yn wyneb, yn hytrach nac ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar-lein (cerdded o gwmpas a dechrau sgyrsiau, cael cyfarfod cyhoeddus)” -Hyrwyddwr natur lleol

Cofiwch

Mae pob ymgyrch yn unigryw, felly bydd y tactegau sy’n gweithio orau yn dibynnu ar fanylion eich ardal leol a’r cynnig datblygu ei hun.