Advice

Sut mae defnyddio cyfryngau lleol i hyrwyddo eich ymgyrch gynllunio

Dysgu mwy am ddefnyddio radio a theledu lleol i ledaenu’r gair a hyrwyddo eich ymgyrch.

Recording waders at RSPB Snettisham Nature Reserve.
On this page

Rydych chi’n ymgyrchu i warchod natur yn eich ardal leol ac mae eich cynllun gweithredu yn mynd rhagddo’n dda, ond a allwch chi wneud mwy? Bydd y canllaw hwn yn egluro sut y gallwch chi ddefnyddio’r cyfryngau lleol i feithrin cefnogaeth i’ch achos.

Os ydych chi’n chwilio am gyngor ar sut mae dechrau ymgyrch gynllunio, ewch i’n canllaw Sut mae sefydlu eich ymgyrch eich hun i warchod natur rhag bygythiad datblygu.

Cyfweliadau radio a theledu

Os byddwch chi’n dewis tynnu sylw at fater drwy gyfryngau lleol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu siarad yn hyderus am yr ymgyrch. Bydd cynllunio cyfres o weithgareddau ar gyfer y cyfryngau a chael sylw rheolaidd ar draws gwahanol fathau o gyfryngau yn rhoi lle amlwg i’ch ymgyrch, ond dim ond os gallwch ddarbwyllo pobl i ymgymryd â’r stori yn y lle cyntaf. Lle bo’n bosibl, mae’n well pwysleisio negeseuon cadarnhaol, fel beth fydd yn cael ei achub, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr elfennau negyddol, fel beth fydd yn cael ei golli, gan fod gwybod eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn apelio llawer mwy at bobl.

Gall radio lleol fod yn ffordd hawdd o gyrraedd nifer fawr o bobl yn eich ardal. Dull

uniongyrchol sydd orau fel arfer, drwy wneud galwad ffôn neu anfon e-bost i bwy bynnag sy’n rheoli desg newyddion yr orsaf radio, gyda datganiad cryno o’r ffeithiau neu ddatganiad i’r wasg yn ei gefnogi.

Mae teledu yn gofyn am ddelweddau gweledol da neu elfen o weithgarwch i’ch stori, felly po fwyaf sydd gennych i’w gynnig i’r rhaglen, y mwyaf tebygol yw hi o’ch cynnwys chi. Mae hefyd yn gofyn am fwy o amser a phobl i lunio adroddiad o’i gymharu â radio neu bapurau newydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo digon o amser i fodloni gofynion cynhyrchwyr.

Awgrymiadau ar gyfer gwneud y gorau o’ch cyfweliad:

  • Gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi’n dda
  •   Holi ymlaen llaw a yw’r cyfweliad am fod yn un byw neu’n cael ei recordio
  • Holi am y cwestiynau sy’n debygol o gael eu gofyn i chi
  • Meddwl pwy fydd y person gorau ar gyfer y cyfweliad
  • Ymarfer ymlaen llaw, gan gynnwys paratoi eich ymateb i unrhyw gwestiynau a allai fod yn    rhai anodd
  • Cynllunio eich negeseuon allweddol (dau neu dri ar y mwyaf) a pheidio â gadael i’r cyfwelydd eich gwyro oddi wrth yr hyn yr ydych am ei gyfleu
  •  Cymryd yn ganiataol bod y meicroffon ymlaen bob amser!
  • Cadw eich dwylo a’ch papurau’n llonydd yn ystod y cyfweliad a gwneud yn siŵr bod ffonau symudol yn cael eu diffodd

Sut mae cynnal diddordeb yn eich ymgyrch

Mae’n debygol y bydd nifer o droadau annisgwyl yn eich ymgyrch. Po fwyaf o onglau neu ddatblygiadau diddorol i stori, y mwyaf tebygol yw hi y bydd newyddiadurwr yn rhoi cyhoeddusrwydd parhaus i chi.

Ceisiwch rannu eich stori yn ddarnau bach, yn hytrach na dweud popeth ar unwaith. Er enghraifft, gallech adrodd ar y canlynol:

  • Y bygythiad i’r safle – beth fydd y gymuned leol yn ei golli a beth y gellid ei achub
  • Ffurfio grŵp o bobl o’r un anian sydd ag enw bachog
  • Ymweliad safle gan gynghorydd lleol, AS neu berson enwog lleol – cofiwch dynnu lluniau
  • Taith arddangos neu weithgareddau codi arian
  • Cyflwyno deiseb i neuadd y dref
  • Gwahanol gamau swyddogol eich ymgyrch, ee cyflwyno eich gwrthwynebiad o fewn dyddiad cau’r ymgynghoriad
  • Penblwyddi a rhifau. Mae’r rhain bob amser yn cael derbyniad da gan y cyfryngau, ee ‘mae 58% o bentrefwyr yn defnyddio’r safle hwn unwaith yr wythnos’, neu ‘dydd Iau nesaf bydd X yn 25 mlwydd oed ac yn lle dathlu, rydyn ni’n gorfod brwydro i’w achub’

Pethau pwysig i'w cofio:

  • Mae’r cyfryngau lleol yno i roi sylw i newyddion lleol – byddwch yn greadigol a byddwch yn cynhyrchu’r newyddion y byddan nhw eisiau rhoi sylw iddo 
  • Cadw cofnod o’ch datganiadau i’r wasg i ddangos i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau bod gan y bobl leol y maent yn eu cynrychioli ddiddordeb yn eich ymgyrch
  • Sicrhau eich bod yn hawdd cysylltu â chi a’ch bod ar gael i gwrdd â therfynau amser newyddiadurwyr