Advice

Sut mae cydweithio fel grŵp ymgyrchu i warchod natur ym maes gynllunio

Dilynwch ein hawgrymiadau i sicrhau bod eich grŵp yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac yn cael y canlyniad gorau i fyd natur.

Three Crane in flight against a dusky blue sky.
On this page

Ar ôl i chi benderfynu sefydlu ymgyrch i warchod natur a allai fod dan fygythiad oherwydd datblygiad (ee o ganlyniad i ddyraniad cynllun lleol/cynllun datblygu lleol neu gais cynllunio), mae’n syniad da dod o hyd i gynghreiriaid i’ch helpu gyda’ch achos.

I gael cyngor ar sut i ddechrau ymgyrch, edrychwch ar ein canllaw Sut mae sefydlu eich ymgyrch eich hun i warchod natur rhag bygythiad datblygu

Cyn gynted ag y byddwch wedi dod o hyd i grŵp o bobl sy’n fodlon cymryd rhan yn eich ymgyrch gynllunio, y cam nesaf yw cyfarfod eich gilydd. Gall hyn fod wyneb yn wyneb mewn lleoliad yn eich cymuned, neu ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â phinnau ysgrifennu, papur a nodiadau post-it ar gyfer cofnodi syniadau pobl, neu os ydych chi’n cwrdd ar-lein, gallwch ddefnyddio bwrdd gwyn ar-lein. Ar ôl i chi ddod at eich gilydd, gallwch wneud y canlynol:

  • Ysgrifennu Datganiad o Ddiben fel bod pawb yn deall eich nodau cyffredinol
  • Rhannu gwahanol rolau a chyfrifoldebau rhwng aelodau’r grŵp
  • Gosod rheolau ar gyfer y grŵp fel bod popeth yn rhedeg yn esmwyth

Ysgrifennu Datganiad o Ddiben

Mae Datganiad o Ddiben yn esboniad byr syml o bwy ydych chi, beth rydych chi’n mynd i’w wneud a sut rydych chi’n mynd i gyflawni hynny. Mae gosod diben cyffredin ar ddechrau eich ymgyrch yn golygu bod pawb yn rhannu’r un weledigaeth ac yn gallu gweld yn hawdd a yw nodau’n cael eu cyflawni wrth i’r ymgyrch fynd rhagddi.

Ysgrifennwch ddechrau pob un o’r brawddegau isod a gofyn i’ch grŵp ddechrau ateb y cwestiynau drwy ychwanegu nodiadau oddi tanynt. Yna, fel grŵp, cyfunwch y nodiadau yn frawddegau cydlynol i gwblhau eich datganiad pwrpas cyffredin.

Young people brainstorming ideas on a wall.

Dyma ni...

Beth yw enw eich grŵp?

Pwy ydych chi fel grŵp? Ydych chi’n grŵp o gymdogion? Yn gweithio ar brosiect ar y cyd gyda’ch gilydd? Pobl sydd â pherthynas arbennig â man gwyrdd neu rywogaeth penodol?

Pa fater natur ydych chi’n unedig yn ei gylch?

Ein pwrpas cyffredin yw...

Beth yw gweledigaeth fawr eich grŵp ar gyfer newid? Sut beth fyddai’r dyfodol pe baech chi’n llwyddo?

I weld y newid hwn, beth yw nodau ymgyrchu eich grŵp? Pa gamau sydd eu hangen i gyflawni eich gweledigaeth gyffredinol?

Byddwn yn gwneud hyn drwy...

Pa dactegau fydd eich ymgyrch yn eu defnyddio i gael sylw a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau?

Sut fyddwch chi’n gweithio gyda’ch gilydd?

Pa sgiliau y gall aelodau eich grŵp eu defnyddio i helpu i wneud hyn?

Erbyn pa bryd ydych chi eisiau cyflawni eich nodau?

Po fwyaf penodol y gallwch chi wneud eich datganiad, yr hawsaf fydd gweld a ydych chi’n cyflawni eich nodau.

Neilltuo rolau yn eich grŵp

Mae’n syniad da rhoi gwahanol rolau i bobl yn y grŵp, yn dibynnu ar ba sgiliau sydd ganddyn nhw. Mae hyn yn golygu eich bod yn defnyddio’r gwahanol ddoniau yn eich grŵp, a bod y gwaith yn cael ei rannu fel na yw'r cyfan yn disgyn ar ysgwyddau un person. Gall hefyd helpu pobl i barhau i gymryd rhan yn yr ymgyrch os ydynt yn teimlo bod ganddyn nhw gyfraniad penodol ac ystyrlon i’w wneud.

Dyma rai enghreifftiau o rolau y gallai fod eu hangen arnoch yn eich grŵp. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ac efallai y bydd eich grŵp yn penderfynu bod angen rolau eraill arnoch chi. Efallai y bydd hefyd yn bosibl rhannu’r rolau hyn rhwng mwy nag un person.

Gweithio gyda’n gilydd mewn grŵp wedi’i gynllunio sy’n canolbwyntio ar agweddau gwahanol yw'r ffordd orau o gyflawni dros fyd natur” -Mel, Chippenham, hyrwyddwr natur lleol

A lone Red Admiral butterfly perched on a cream flower

Arweinydd cyfryngau cymdeithasol

Rhywun sydd â’r sgiliau i helpu gyda’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer holl weithredoedd eich ymgyrch ac sy’n gallu helpu i hyrwyddo cyfarfodydd y grŵp drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Hwyluswyr

Un neu ddau o bobl sy’n gallu helpu i sicrhau bod y cyfarfodydd yn mynd rhagddynt yn unol â’r cynllun drwy arwain y sgwrs a chadw pawb ar y trywydd iawn.

Cofnodwyr

Rhywun sy’n hyderus wrth deipio neu ysgrifennu’n gyflym ac sy’n gallu cadw golwg ar yr hyn sy’n cael ei drafod, i’w rannu wedyn ag eraill.

Llefarwyr

Pobl sy’n gysylltiedig â’r mater ac sy’n gwybod am y manylion, fel eu bod yn ddigon hyderus i siarad â’r cyhoedd, y cyfryngau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am yr hyn y mae’r ymgyrch am ei wneud. Rhaid iddynt allu cadw at yr hyn y mae’r ymgyrch yn ei chyfanrwydd wedi cytuno i’w ddweud.

Cynghorydd rheolau

Rhywun sy’n hyderus o ran gallu herio aelodau’r grŵp sy’n torri rheolau, i helpu i gadw’r cyfarfod yn ofod parchus a chydweithredol.

Arweinwyr Creadigol

Mae gweithredoedd ymgyrchu sy’n cynnwys creadigrwydd ac elfennau gweledol cryf yn helpu i ddal dychymyg y cyfryngau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Os oes gennych chi bobl greadigol neu artistig yn rhan o’ch ymgyrch, gallan nhw helpu i ddatblygu syniadau i gadw eich ymgyrch yn ffres ac yn gyffrous!

Gosod rheolau ar gyfer grŵp ymgyrchu

Mae 'rheolau tŷ' yn gyfres o reolau neu ganllawiau y mae eich grŵp ymgyrchu wedi cytuno arnynt ar y cyd. Gellir defnyddio’r rheolau hyn ym mhob un o’ch cyfarfodydd ymgyrchu ac wrth gynllunio eich ymgyrch yn gyffredinol. Maen nhw’n arbennig o ddefnyddiol pan fyddwch chi’n croesawu aelodau newydd o’r grŵp neu’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

Mae cael set o reolau y cytunwyd arnynt yn golygu y gallwch chi benderfynu gyda’ch gilydd sut rydych chi eisiau cael eich trin, a sut y dylech chi drin pobl eraill. Mae cael mwy o strwythur yn eich grŵp yn helpu i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed yn gyfartal ac yn deg. Mae hefyd yn caniatáu i chi ddal gwesteion sy’n dod i gyfarfodydd ymgyrchu (fel gwleidyddion) i gyfrif am sut maen nhw’n ymddwyn.

Mae’n syniad da i’r grŵp cyfan gydweithio ar ysgrifennu eich rheolau, gydag aelodau unigol yn gwneud eu hawgrymiadau eu hunain. Drwy wneud hynny, mae’r rheolau’n rhywbeth y mae pawb wedi cytuno arnynt gyda’i gilydd, yn hytrach na chael eu gorfodi o’r brig i lawr. Does dim rhaid i’r rhain fod yn haearnaidd – gallwch bob amser fynd yn ôl atynt os ydych chi’n teimlo bod angen ychwanegu atynt neu eu golygu wrth i’ch ymgyrch ddatblygu ac wrth i chi ddysgu beth sy’n gweithio i chi.

Dyma rai enghreifftiau o reolau y gallech fod eisiau eu hystyried:

  • Mae croeso i bawb ddod i gyfarfodydd ein hymgyrch
  • Byddwn yn dechrau ac yn gorffen ar amser
  • Rydyn ni’n trin ein gilydd â pharch
  • Ni fyddwn yn goddef hiliaeth na rhagfarn o unrhyw fath
  • Mae pawb sy’n dod i’n cyfarfodydd yn cael cyfle i siarad
  • Rydyn ni’n gadael i bobl eraill orffen eu brawddegau cyn i ni siarad

 

Dylai eich rheolau sylfaenol nodi’n glir â phwy y gall aelodau’r grŵp siarad, neu sut y gallant godi unrhyw faterion sy’n codi. Efallai mai eich Cynghorydd Rheolau fydd hwn, os ydych chi wedi neilltuo un, neu efallai hwylusydd y grŵp.

Dylech hefyd feddwl am yr hyn y byddwch yn ei wneud os bydd rhywun yn torri un o'ch rheolau. Gan amlaf, bydd hyn yn doriad bychan neu ddamweiniol. Yn yr achosion hyn, bydd gofyn i rywun gydnabod yr hyn y mae wedi’i wneud a chadw at y rheol yn y dyfodol yn ddigon. Os bydd rhywun yn creu trafferth dro ar ôl tro ac yn torri rheolau’r grŵp, efallai y bydd angen gofyn i’r unigolyn adael.

Mae gennym lawer o wybodaeth arall i’ch cefnogi ar eich taith ymgyrchu, waeth pa mor fawr neu fach yw hi! Archwiliwch y canllawiau gan ddefnyddio’r dolenni isod.