Advice

Sut mae cael gafael ar wybodaeth gyhoeddus i ddiogelu natur: Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR)

Dysgu am wneud cais Rhyddid Gwybodaeth neu EIR i gasglu ffeithiau ar gyfer eich achos i warchod natur.

A heathland of purple heather in a sunset mist.
On this page

Mae gan bawb yr hawl i ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Yr Alban) 2002. Os ydych chi’n bwriadu gwrthwynebu neu ofyn am newidiadau i gais cynllunio er budd bywyd gwyllt, gall y ceisiadau hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i wybodaeth ategol.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (Yr Alban) 2004 yn ymdrin yn benodol â cheisiadau am wybodaeth amgylcheddol.

Beth yw cais Rhyddid Gwybodaeth?

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) yn fath o gais y gall unigolion neu sefydliadau ei wneud i awdurdodau cyhoeddus i gael gwybodaeth nad yw ar gael fel mater o drefn. Yng nghyd-destun y broses gynllunio, gellir defnyddio cais Rhyddid Gwybodaeth i gael gwybodaeth gan gynghorau lleol, asiantaethau’r llywodraeth neu gyrff cyhoeddus eraill ynghylch penderfyniadau a datblygiadau cynllunio. Gall gwybodaeth o’r fath gynnwys ymholiadau cyn ymgeisio ac ymatebion yr awdurdod cynllunio i’r rhain, negeseuon e-bost, neu wybodaeth ategol arall ee adroddiadau ariannol neu hyfywedd (er y bydd unrhyw wybodaeth sy’n fasnachol sensitif yn debygol o gael ei golygu).

Six-spot Burnet Moth on a scabious flower.

Beth yw cais EIR?

Mae cais Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) yn fath o gais y gall unigolion neu sefydliadau ei wneud i awdurdodau cyhoeddus i gael gwybodaeth benodol nad yw ar gael fel mater o drefn. Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ddarparu gwybodaeth amgylcheddol i’r cyhoedd ar gais, yn amodol ar eithriadau penodol.

Gall gwybodaeth amgylcheddol gynnwys data, adroddiadau, astudiaethau, asesiadau, a deunyddiau eraill sy’n ymwneud â chyflwr yr amgylchedd, fel ansawdd aer, ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, rheoli gwastraff a defnydd tir. Gellir gwneud ceisiadau EIR i amrywiaeth o awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau lleol, asiantaethau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill.

A Bittern moving through long grass.
Bittern
Cofiwch

Gall gymryd peth amser i gael gwybodaeth drwy’r llwybr FOI neu EIR – fel arfer mae angen i awdurdodau cyhoeddus ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, ond efallai y bydd angen mwy o amser arnynt.  Dylai unrhyw wybodaeth a asesir fel rhan o’r broses ceisiadau cynllunio fod ar gael i’r cyhoedd ar wefan yr awdurdod cynllunio. Os na allwch ddod o hyd i ddogfen benodol, gofynnwch i’r Swyddog Cynllunio sy’n delio â’r achos yn y lle cyntaf cyn cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth neu EIR.

Sut mae cyflwyno cais FOI neu EIR

Mae popeth y mae angen i chi ei wybod am sut i gael gwybodaeth gan awdurdod cyhoeddus drwy gais FOI neu EIR ar gael ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol fel templedi e-byst/llythyrau, awgrymiadau ar gyfer gwneud cais clir, a chyngor ar sut dylai sefydliadau ymateb i’ch cais.

Y peth allweddol yw sicrhau eich bod yn cyflwyno cwestiwn wedi’i eirio’n ofalus er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich cais.

Cyflwynwch eich cais FOI/EIR i’r person yn yr awdurdod cyhoeddus sy’n delio â cheisiadau am wybodaeth, sef y Swyddog Gwybodaeth fel arfer. Mae eu manylion cyswllt ar gael ar wefan yr awdurdod. Gallwch wneud ceisiadau drwy e-bost, llythyr neu ffurflen ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o’ch cais ac unrhyw ohebiaeth a gewch.

Os na fyddwch chi wedi derbyn ymateb i’ch cais FOI/FIR o fewn y terfyn amser statudol (fel arfer 20 diwrnod gwaith), cysylltwch â’r awdurdod cyhoeddus i wirio statws eich cais.

A oes unrhyw eithriadau?

Mae’n bwysig nodi y gallai fod eithriadau i ryddhau gwybodaeth benodol, fel gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif neu wybodaeth a allai niweidio diogelwch gwladol neu breifatrwydd personol. Bydd yr awdurdod cyhoeddus yn rhoi gwybod i chi os bydd eithriad yn berthnasol i’ch cais.

Beth i’w wneud os ydych chi’n anhapus â’r ymateb

Os ydych chi’n anghytuno ag ymateb yr awdurdod cyhoeddus i’ch cais, gallwch ofyn iddo adolygu ei benderfyniad. Mae gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnwys llythyr templed y gallech ei ddefnyddio fel canllaw. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad yr adolygiad mewnol, gallwch gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn chwe wythnos i ymateb yr awdurdod.