
Ni fydd dull ‘heb ragfarn’ o awgrymu mesurau neu amodau lliniaru posibl yn tanseilio eich gwrthwynebiad, ond gall sicrhau bod rhywbeth cadarnhaol yn codi os rhoddir caniatâd i’r cynnig.
Awgrymiadau i’ch helpu i lunio achos cryf dros natur sy’n seiliedig ar bryderon cynllunio dilys.

Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth lunio achos i atal neu newid datblygiad arfaethedig er mwyn cael y canlyniad gorau i fyd natur. Dyma rai camau ar gyfer datblygu eich achos.
Polisi cynllunio lleol a chenedlaethol yw’r fframwaith y gwneir pob penderfyniad cynllunio yn ei erbyn. Felly, mae bob amser yn werth holi beth mae’r cynllun datblygu lleol perthnasol yn ei ddweud am y safle neu’r math o ddatblygiad sy’n cael ei gynnig. Mae hefyd yn bwysig holi a yw unrhyw ganllawiau polisi cynllunio cenedlaethol perthnasol yn cynnwys polisïau ar raddfa ehangach a allai helpu i gefnogi eich safbwynt.
Mae’n bosib bod ceisiadau wedi’u gwneud ar gyfer datblygu’r safle o’r blaen, sy’n gallu bod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol. Gallai ceisiadau blaenorol gynnwys gwybodaeth ecolegol ddefnyddiol am y safle. Os gwrthodwyd cais cynharach, gall y llythyr penderfyniad ac adroddiad y Swyddog Cynllunio hefyd roi cliwiau ynghylch sut y gallai’r cais presennol gael ei drin. Dylai manylion ceisiadau hanesyddol fod ar gael drwy’r system mynediad cyhoeddus ar wefan yr awdurdod cynllunio lleol.
Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi, efallai nad oes ganddyn nhw amser i ddarllen holl dudalennau adroddiadau.” -Mel, Chippenham, hyrwyddwr natur lleol
Dylai fod rhagdybiaeth gref yn erbyn unrhyw ddifrod i safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig, gan gynnwys o ganlyniad i effeithiau anuniongyrchol (fel gormod o sŵn, golau artiffisial neu lygredd dŵr). Edrychwch ar ein canllaw Sut mae asesu pwysigrwydd safle sydd dan fygythiad oherwydd datblygu i ddarganfod sut mae chwilio am unrhyw ddynodiadau cadwraeth yn yr ardal, ac i gael rhagor o wybodaeth am y warchodaeth sydd cael ei darparu gan y gwahanol fathau o ddynodiad.
.jpg)
Casglwch dystiolaeth i gefnogi a chryfhau eich dadleuon allweddol. Mae llawer o dystiolaeth gyhoeddedig ar gael ar-lein a gellir dod o hyd iddi drwy ddefnyddio un o nifer o adnoddau chwilio ar-lein rhad ac am ddim, fel Google Scholar. Mae gan y rhan fwyaf o gyrff cadwraeth natur statudol y DU hefyd lyfrgelloedd ar-lein y gellir eu chwilio sy’n cynnwys adroddiadau ymchwil defnyddiol. Byddwch yn ddarbodus gyda dyfyniadau o ffynonellau tystiolaeth ond gofalwch nad ydych yn rhy ddetholgar na dyfynnu o’r tu allan i’r cyd-destun.
Gall eich tystiolaeth eich hun hefyd helpu i ddangos a chefnogi eich achos. Gall ffotograffau wedi’u dyddio a’u hanodi sy’n dangos nodweddion neu rywogaethau penodol o fewn y safle dan sylw a chofnodion wedi’u coladu o fywyd gwyllt ddarparu tystiolaeth gref i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad. Edrychwch ar ein canllaw Sut mae cofnodi bywyd gwyllt i gael awgrymiadau ar arolygu safle a chofnodi data bywyd gwyllt.
Dylech allu dod o hyd i unrhyw ymatebion gan aelodau eraill o’r cyhoedd ac ymgynghoreion statudol sydd eisoes wedi cael eu derbyn gan y sawl sy’n gwneud y penderfyniad ar eu system mynediad cyhoeddus ar-lein, drwy chwilio gan ddefnyddio cyfeirnod y cais neu gyfeiriad y safle. Gall adeiladu ar sylwadau pobl eraill neu ddangos sut mae eich rhai chi’n ategol eich helpu i ehangu eich negeseuon eich hun.
Gall cynnig enghreifftiau cadarnhaol o ddatblygiadau tebyg sydd wedi’u cynllunio i fod yn gydnaws â natur, neu i’r gwrthwyneb lle mae cynlluniau tebyg eraill wedi gwneud difrod amgylcheddol, fod yr un mor effeithiol wrth gyflwyno eich achos.
Gall dalu i gydnabod ymlaen llaw efallai na fydd y penderfyniad yn mynd fel y mynnwch. Ystyriwch pa newidiadau neu ‘fesurau lliniaru’ y gellid eu cyflwyno, neu pa amodau neu rwymedigaethau cynllunio y gallai’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad eu gosod ar unrhyw ganiatâd cynllunio a allai helpu i leihau neu ddileu eich pryderon.

Ni fydd dull ‘heb ragfarn’ o awgrymu mesurau neu amodau lliniaru posibl yn tanseilio eich gwrthwynebiad, ond gall sicrhau bod rhywbeth cadarnhaol yn codi os rhoddir caniatâd i’r cynnig.
Os yw’r awdurdod cynllunio wedi datgan argyfwng hinsawdd a/neu fioamrywiaeth, defnyddiwch hwn i fframio eich pryderon, fel drwy bwysleisio’r angen i gyfyngu ar allyriadau carbon a lleihau colli bioamrywiaeth. Mae ein hadran Adnoddau yn cynnwys rhagor o ganllawiau sy’n egluro sut y gallwch chi annog eich awdurdod lleol i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny’n barod.
Mae’n gallu teimlo fel Dafydd yn erbyn Goliath ond rydyn ni’n gwybod beth ddigwyddodd bryd hynny. Chwiliwch am enghreifftiau o achosion tebyg lle bu llwyddiant wrth atal y datblygiad a defnyddiwch yr un rhesymau/onglau yn eich achos eich hun.” -Hyrwyddwr natur lleol