Advice

Sut mae mynd i’r afael â’r bygythiad i fyd natur gan ddatblygu: canllaw cam-wrth-gam

Beth i’w wneud a ble i ddechrau os bydd cynnig yn bygwth safle rydych chi’n ei adnabod ac yn ei garu.

Lone Red Squirrel scampering up a large mossy tree trunk
On this page

Bydd y camau canlynol yn helpu i’ch tywys drwy’r broses o ymgysylltu â’r system gynllunio i helpu i warchod eich bywyd gwyllt lleol rhag datblygiad a allai fod yn niweidiol.

1. Dechrau’n gynnar.

Bydd cymryd rhan yn gynnar yn y broses gynllunio yn rhoi’r cyfle gorau posibl i chi ddylanwadu ar y canlyniad a sicrhau bod buddiannau bywyd gwyllt yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf. Gorau po gyntaf y gallwch gymryd rhan – felly mae’n well ymgysylltu yn y cam cyn-ymgeisio (os oes cyfle i wneud hynny, fel digwyddiad ymgynghori cymunedol) neu adeg cam y cynllun lleol/cynllun datblygu lleol os oes modd. Ond dyfal donc gyda’ch sylwadau ar ôl i’r cais gael ei wneud hefyd.

2. Deall y cynnig.

Ceisiwch gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cynnig – beth yn union sy’n cael ei gynnig a pha asesiadau sydd wedi cael eu cynnal. Os yw’n gais cynllunio, y dogfennau defnyddiol i ganolbwyntio arnynt yn aml yw’r datganiad cynllunio ac unrhyw adroddiadau ecolegol. Hefyd, gall fod yn syniad da i daro golwg ar fanylion unrhyw geisiadau blaenorol a wnaed ar y safle, y cyfeirir atynt yn aml fel hanes cynllunio.

Cadwch mewn cysylltiad â’r datblygwr lle bo hynny’n bosib – cyn a hyd yn oed ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud am y cais. Byddwch yn ystyriol o’u buddiannau nhw a chwiliwch am gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth” -Jim, Cleethorpes, hyrwyddwr natur lleol

3. Ymgyfarwyddo â’r system.

Dysgwch fwy am y broses benderfynu berthnasol, ac unrhyw bolisïau a chyfraith gysylltiedig. Bydd ein canllawiau Deall Cynllunio yn eich helpu i ddeall mwy am yr hyn sy’n cael ei gynnig a’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn eich helpu i ddysgu am bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol a chyfraith bywyd gwyllt sy’n rhan annatod o’r broses gwneud penderfyniadau.

Barn Owl in flight above the rime white grass in the morning.

4. Casglu’r ffeithiau.

Tarwch olwg ar ein canllawiau Sut mae asesu pwysigrwydd safle sydd dan fygythiad oherwydd datblyguSut mae adeiladu eich achos i warchod natur rhag bygythiad datblygu sy’n  rhan o’n hadnoddau Casglu’r ffeithiau er mwyn eich helpu i adnabod eich pryderon ac i lunio’ch achos.

5. Dod o hyd i gymorth.

Mae sawl math o gymorth ar gael. Efallai y gallech ddod o hyd i gyfeillion a gwybodaeth ddefnyddiol drwy daro golwg ar ymatebion sefydliadau ac unigolion eraill ar wefan y penderfynwyr perthnasol, neu mewn digwyddiadau ymgynghori â’r gymuned leol a gynhelir gan y datblygwr. Efallai gallech gael cymorth gan eich cynghorwyr lleol neu'ch aelod seneddol. Hefyd, gall rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol wrth ddod o hyd i bobl eraill yn eich cymuned leol sy’n rhannu eich pryderon.

Four people working in a garden smiling at the camera.

6. Cysylltu ag eraill.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn darganfod bod ymgyrch neu grŵp ‘ffrindiau’ eisoes yn bodoli y gallwch gydweithio â nhw. Weithiau, gall clywed am bobl eraill sy’n rhannu eich pryderon helpu i sefydlu ymgyrch. Tarwch olwg ar  ein canllawiau Sut mae sefydlu eich ymgyrch eich hun i warchod natur rhag bygythiad datblyguSut mae cael y canlyniadau gorau o ymgyrchu i warchod natur ym maes cynllunio Mae  llawer o awgrymiadau a syniadau da ynddynt ar gyfer cydlynu camau gweithredu gydag eraill.

7. Codi llais.

Cyflwynwch eich ymateb ffurfiol i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad, gan amlinellu eich pryderon a, lle bo’n bosibl, darparu tystiolaeth i’w hategu. Trowch at ein hadnoddau Cyflwyno eich achos am ragor o awgrymiadau a syniadau, gan gynnwys cyngor ar ysgrifennu ymateb effeithiol.

8. Rhoi’r neges ar led.

Os ydych chi’n credu y byddai gan bobl eraill ddiddordeb yn eich achos, defnyddiwch y cyfryngau a dulliau cyfathrebu eraill i ddweud wrth y byd pa mor arbennig yw’r ardal ar gyfer bywyd gwyllt a’r rôl y mae’n ei chwarae yn y gymuned – dywedwch wrthynt beth sydd yn y fantol. Darllenwch ein hawgrymiadau cyfathrebu Sut mae ddefnyddio cyfryngau lleol i hyrwyddo eich ymgyrch gynllunio

A Starling perched on a log singing.

9. Camau dilynol.

Cadwch mewn cysylltiad â’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad a gofynnwch am y wybodaeth ddiweddaraf ganddynt. Os yw’r achos yn mynd i gael ei benderfynu gan bwyllgor cynllunio, efallai y byddwch hefyd yn dymuno siarad yng nghyfarfod y pwyllgor er mwyn i chi allu lleisio eich pryderon yn uniongyrchol i’r cynghorwyr. Mae rhagor o wybodaeth am broses y pwyllgor cynllunio ar gael yn ein canllawiau Deall cynllunio sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y broses ar ôl gwneud y penderfyniad.

Manteisiwch ar y cyfle i siarad yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio. Anogwch eraill i fod yn bresennol i ddangos i’r cynghorwyr pa mor bwysig yw’r achos i bobl leol. Gwnewch gopi o’ch sylwadau a’r cyfeiriadau/lluniau sydd gennych.” -Hyrwyddwr natur lleol

10. Cymerwch ofal.

Mae gwrthwynebu datblygiad neu gynnig arall yn gallu bod yn daith hir ac weithiau’n anodd. Mae’n bwysig iawn eich bod yn gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun ac iechyd a lles pobl eraill o’ch cwmpas. Rydyn ni wedi llunio rhywfaint o wybodaeth i’ch helpu a’ch ysbrydoli chi – tarwch olwg ar ein hadnoddau Cymryd gofal.