Ie a Nage. Mae adar yn rhan o we gymhleth sy’n dal byd natur at ei gilydd. Maen nhw hefyd yn ddangosyddion gwych ar gyfer iechyd elfennau llai gweladwy o’r system gymhleth honno. Felly, pan fyddwn yn ceisio gwarchod adar, mae’n anochel y bydd mwy o fudd i fywyd gwyllt arall.
Fodd bynnag, y mae, wrth gwrs, fygythiadau i safleoedd sy’n llai pwysig i adar, ond sy’n bwysig iawn i fywyd gwyllt heb fod yn rhai pluog. Mae sefydliadau eraill fel yr Ymddiriedolaethau Natur, Plantlife a Buglife sydd â mwy o arbenigedd o ran y rhywogaethau hyn. Fel yr RSPB, mae eu hadnoddau nhw hefyd yn gyfyngedig, ond maen nhw’n ceisio ymwneud â’r achosion mwyaf difrifol.
Weithiau mae bygythiad i safle bywyd gwyllt penodol mor sylweddol fel bod yr RSPB yn ymuno â’r sefydliadau eraill hyn. Yn yr achosion hyn, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth i sicrhau bod y safle ei hun yn cael ei ddiogelu ac nad yw cyfreithiau pwysig sy’n gwarchod natur yn ei chyfanrwydd yn cael eu herydu. Mae achos Tipner West yn enghraifft o achos o'r fath.
Pan fydd datblygiadau neu gynigion eraill yn bygwth un o warchodfeydd yr RSPB, byddwn yn rhoi sylwadau ar yr effeithiau ar ystod ehangach o rywogaethau (lle mae gennym yr wybodaeth ddyfnach i wneud hynny).