
Mae’n iawn ichi gamu yn ôl a blaenoriaethau eich iechyd a’ch llesiant chi. O ofalu amdanoch eich hun, byddwch yn ymgyrchydd mwy effeithiol yn y pen draw.
Awgrymiadau i’ch cynorthwyo i ofalu amdanoch eich hun a chael dewrder pan fyddwch yn ymgyrchu i ddiogelu byd natur rhag datblygiad sy’n ei fygwth.

Gall gweithredu dros fyd natur drwy’r drefn gynllunio fod yn brofiad emosiynol cythryblus, a bydd yn aml yn galw am gryn wydnwch a dyfalbarhad. Mae’n bwysig eich bod yn sicrhau, cystal ag y gallwch, eich bod yn barod, yn feddyliol ac yn emosiynol, am y siwrnai o’ch blaen, a’ch bod yn gallu cael cymorth a chefnogaeth gan y bobl o’ch cwmpas.
Dyma rai awgrymiadau i’ch cynorthwyo i ofalu amdanoch eich hun ac i feithrin gwydnwch:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu amdanoch eich hun yn gorfforol ac yn emosiynol. Gofalwch eich bod yn cael seibiant ac yn mynd allan i’r awyr agored pan allwch chi. Profwyd bod treulio amser ym myd natur yn gwella ein llesiant, a bod ymarfer corff, hyd yn oed mynd am dro hamddenol, yn gallu ein helpu i reoli straen, gan wella ein hwyliau a’n helpu i gysgu’n well.
Gall ymgyrchu ofyn llawer gennych, a gall deimlo fel pe bai’r gwaith hwnnw’n mynnu’ch holl sylw. Mae’n bwysig eich bod yn blaenoriaethu eich diddordebau ac yn neilltuo amser ar gyfer gwahanol weithgareddau sy’n eich cynorthwyo i gael seibiant. P’un a ydych yn darllen llyfr, yn cymryd rhan mewn camp, neu’n cwrdd â ffrindiau, ewch ati i neilltuo amser i wneud pethau yr ydych yn eu mwynhau.
“Cymrwch seibiant ac ewch yn realistig am ba mor lawer y gallwch ei wneud ochr yn ochr â'ch bywyd bob dydd” -Arwr natur leol
Gall y gwaith beunyddiol sydd ynghlwm wrth gynnal ymgyrch fod yn straen, felly mae’n bwysig eich atgoffa eich hun o hyd o’r hyn yr oeddech yn bwriadu ei gyflawni. Gwahanwch eich nod cyffredinol yn gyfres o gamau llai sy’n haws eu trin, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dathlu’r ymdrech yr ydych yn ei gwneud dros fyd natur.
Gall diogelu’r byd natur yr ydych yn ei garu deimlo fel rhywbeth personol iawn. Er hyn, mae’n bwysig eich bod yn rhannu’r ffordd y mae’r profiad yn effeithio arnoch chi. Cysylltwch â phobl a all roi cymorth a chyngor ichi, fel aelodau o’ch teulu, ffrindiau, neu aelodau eraill o’ch grŵp ymgyrchu.

Mae’n iawn ichi gamu yn ôl a blaenoriaethau eich iechyd a’ch llesiant chi. O ofalu amdanoch eich hun, byddwch yn ymgyrchydd mwy effeithiol yn y pen draw.
Pan fydd byd natur o bwys mawr ichi, mae’n hawdd teimlo y gallech chi ‘bob amser wneud mwy’. Fodd bynnag, i gynnal eich egni a’ch brwdfrydedd drwy gydol yr ymgyrch, mae angen ichi wybod beth yw hyd a lled y cyfraniad y gallwch chi ei wneud a pha bryd y mae angen ichi ddweud ‘na’.
A ninnau’n ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd ar y cyd, cofiwch fod pob gweithred yn gyfraniad. Bydd eich ymdrechion yn cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned ac ar fywyd gwyllt eich bro. Hyd yn oed os yw’ch ymgyrch yn wynebu rhwystrau, mae’n ddefnyddiol eich atgoffa eich hun o fuddion ehangach eich gwaith.
“Peidiwch â chael eich siomi oherwydd anawsterau. Weithiau creant lygedyn o obaith” -Pencampwr natur leol
Pan fyddwch ar ganol ymgyrch, gall deimlo fel pe bai amser yn hedfan tra mae llawer i’w wneud. Gall ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eich cynorthwyo i gysylltu â’r foment bresennol. Mae cymryd sawl anadl ddofn tra’r ydych yn canolbwyntio ar y synau o’ch amgylch yn ffordd hawdd o gynnwys y technegau hyn yn eich bywyd bob dydd. Fel arall, gall mynd am dro a gwrando’n astud am sŵn adar yn trydar fod yn ffordd hawdd a hwyliog o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.
Ceisiwch ystyried sefyllfaoedd o safbwynt cadarnhaol pa bryd bynnag y gallwch chi, er bod hyn yn anodd ei wneud. Ewch ati i ystyried heriau yn gyfleoedd i ddysgu, ac i ganolbwyntio ar y pethau y gallwch eu rheoli yn hytrach na hel meddyliau am y pethau na allwch eu newid.

Mae meithrin gwydnwch yn broses sy’n cymryd amser. Byddwch yn amyneddgar ac yn garedig â chi eich hun, a chofiwch ei bod hi’n iawn ichi gael seibiant neu ofyn am gymorth pan fydd ei angen arnoch.
Pan ddaw yn fater o warchod natur, gall fod yn hawdd teimlo diymadferthedd neu eu gorlethu – yn enwedig fel un unigolyn, yn gwrthwynebu datblygiad mawr mewn system gymhleth. Mae'n bwysig parhau i atgoffa’ch hun bod llwyddiant yn bosib. Cymrwch hyder mewn ymgyrchwyr eraill sydd wedi gweithredu dros natur, a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod arbenigwyr proffesiynol yn gorfod gwybod mwy na'r rheini sydd â gwybodaeth leol.
“Peidiwch a gadael I bethau eich dychryn – gallwch fagu plwc o gofio eich bod yn llais dros fyd natur” -Pencampwr natur leol
Yn yr astudiaethau achos isod, byddwch yn clywed gan garwyr natur sydd wedi defnyddio eu lleisiau i siarad dros fywyd gwyllt. Gallwch ddod o hyd i'w cynghorion gorau, y ffyrdd y maent wedi aros yn wydn, a'r llwyddiannau maent wedi'u dathlu. Cofiwch – mae taith pawb yn edrych yn wahanol. Mae pob cam, waeth pa mor fawr neu fach, yn gallu gwneud gwahaniaeth.