Hwb

Gyda’n gilydd, rydym ni’n gwneud gwahaniaeth

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yn 2026. Roedd dros hanner miliwn ohonoch chi wedi cymryd rhan yn y digwyddiad ar hyd a lled y DU, ond beth wnaethom ni ei ddarganfod diolch i chi?

Two friends taking part in the RSPB's annual Big Garden Birdwatch activity in an allotment

Beth yw canfyddiadau arolwg mwyaf y byd o fywyd gwyllt yn yr ardd?

Bob blwyddyn, mae pobl yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB drwy gyfrif yr adar maen nhw’n eu gweld yn eu gardd. Mae Gwylio Adar yr Ardd yn ei 47fed blwyddyn erbyn hyn ac yn cynnig cipolwg diddorol iawn ar sut mae adar yr ardd yn ymdopi. 

Digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2026: Y Canlyniadau

Dechreuodd digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd ym 1979, pan ofynnodd Blue Peter, y rhaglen deledu i blant, i wylwyr nodi pa adar roedden nhw wedi eu gweld. Mae llawer wedi newid ers y 1970au. Ond beth sydd wedi newid i’n hadar? Pa adar sydd wedi symud i fyny’r siartiau a pha rai sydd wedi symud i lawr? 

9.4 miliwno adar wedi’u cofnodi yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2026
650,000a mwy o bobl wedi cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2026
13.4 miliwno oriau wedi’u treulio yn gwylio adar ers 1979

Y pum aderyn a welir amlaf yn y DU

Mae Aderyn y To yn dathlu ei drydedd flwyddyn ar hugain ar frig siartiau Gwylio Adar yr Ardd. Yr adar bach hyfryd hyn oedd yn cael eu gweld amlaf, a chofnodwyd 1,275,378 ohonynt dros benwythnos Gwylio Adar yr Ardd. 

Aderyn y To
1,275,378
1
Aderyn y To
Titw Tomos Las
1,114,620
2
Titw Tomos Las
Drudwen
796,002
3
Drudwen
Ysguthan
787,190
4
Ysguthan
Aderyn Du
598,783
5
Aderyn Du

Gwyliwch ganlyniadau 2026 wrth iddynt gael eu datgelu

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydyn ni’n datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2026. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar chi?

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2026: Pa aderyn ddaeth i’r brig?

Wedi mwynhau gweld ymwelwyr yn eich gardd?

Helpwch i’w diogelu drwy gydol y flwyddyn. Drwy gymryd rhan, rydych chi eisoes wedi helpu i ddatgelu sut mae ein hadar yn ymdopi. Ydych chi eisiau cadw’r effaith honno drwy’r flwyddyn? Ymaelodwch â’r RSPB a throi penwythnos o wylio adar yn weithred hirdymor dros fyd natur. 

Fel aelod, byddwch chi'n mwynhau'r canlynol: 

  • Mynediad unrhyw bryd i 170 a mwy o warchodfeydd natur – cyfle perffaith i wylio bywyd gwyllt a mwynhau byd natur 
  • Cylchgronau rheolaidd yr RSPB sy’n llawn straeon, awgrymiadau ac ysbrydoliaeth 
  • Y boddhad o wybod eich bod yn ariannu prosiectau cadwraeth hanfodol a hirdymor sy’n gwarchod adar bob dydd. 

Gwnewch i’ch sesiwn Gwylio Adar fynd ymhellach

 

Two volunteers walking down a wooden path at RSPB Montiaghs Moss Nature Reserve, Country Antrim, Northern Ireland

Gwirfoddolwch gyda ni

P’un a ydych chi wrth eich bodd yn mynd allan i’r awyr agored yng ngwarchodfa RSPB, yn cefnogi tasgau gweinyddol hanfodol, neu’n cysylltu â phobl newydd, mae rôl gyffrous yn aros amdanoch chi.

 

Darganfod popeth am ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Gallwn ni eich helpu chi! O’r newyddion natur a’r erthyglau arbenigol diweddaraf, i bethau i’w gwneud a digwyddiadau llawn hwyl, cymerwch olwg. 

Showing 1-9 of 9 results
Eich cylchlythyr natur yn glanio bob pythefnos

Eisiau dysgu mwy am fywyd gwyllt, ac yn awyddus i weld y gorau o fyd natur yn y DU? Ymunwch â thros filiwn o bobl sy’n caru byd natur, a chofrestrwch ar gyfer Nodiadau ar Natur. Bob rhifyn, byddwn yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf i chi gan yr RSPB, yn ogystal â chanllawiau adnabod adar, ac awgrymiadau ymarferol i helpu i achub byd natur.